Diolch i Gwmni Opera Cenedlaethol Gilbert & Sullivan, caiff Caerdydd fwynhau dau o’r operâu Safwyaidd mwyaf poblogaidd erioed. Bydd HMS Pinafore yn dod i’r Theatr Newydd o Ddydd Mawrth 20 i Ddydd Mercher 21 Hydref, gyda The Mikado i ddilyn rhwng Dydd Iau 22 a Dydd Sadwrn 24 Hydref. HMS Pinafore yw’r enwocaf o blith operâu G&S, yn llawn cymeriadau doniol a cherddoriaeth gofiadwy. Mae’r stori’n datblygu ar fwrdd HMS Pinafore lle mae Josephine, merch y Capten, yn cwympo mewn cariad â’r morwr cyffredin Ralph. Mae’r ddau’n penderfynu rhedeg i ffwrdd i briodi ond mae’r Capten yn clywed am eu cynlluniau, ac mae’r canlyniadau’n ddoniol dros ben. Mae’r opera’n cynnwys caneuon bachog fel I’m Called Little Buttercup, A British Tar a When I Was a Lad. Mae The Mikado yn stori swynol arall â llond y lle o gymeriadau bythgofiadwy, fel Ko-Ko, yr Arglwydd Uchel Ddienyddiwr, a Pooh-Bah, yr Arglwydd Uchel Bach-o-Bob-Dim. Yna mae Nanki-Poo, sy'n cuddio rhag y bendefiges hyll Katisha; a Yum-Yum, sydd mewn cariad â Nanki-Poo. Yn enwog am alawon arbennig a gwirioni gwych, mae’r sioe’n cynnwys clasuron fel Three Little Maids from School, A Wandering Minstrel a Tit Willow. Mae operâu Gilbert & Sullivan wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ers bron i 150 o flynyddoedd, gyda'u cyfuniad o chwerthin a chaneuon bachog, ac mae'r Theatr Newydd wrth ei fodd o fod yn dod â'r operâu hyn yn ôl i Gaerdydd. Bydd HMS Pinafore yn dod i’r Theatr Newydd o Ddydd Mawrth 20 i Ddydd Mercher 21 Hydref a The Mikado rhwng Dydd Iau 22 a Dydd Sadwrn 24 Hydref. Mae tocynnau ar werth nawr am £9.00-£32.00. Am fanylion pellach am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Cynigir gostyngiad arbennig i bobl sy'n prynu tocyn ar gyfer y ddwy sioe - gofynnwch i'r Swyddfa Docynnau am fwy o fanylion. Codir Ffi Gwasanaeth Tocynnau ar archebion (ceir eithriadau). HMS Pinafore Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 20 – Dydd Mercher 21 Hydref Dydd Mawrth 7.30pm, Dydd Mercher 2.30pm a 7.30pm The Mikado Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Iau 22 – Dydd Sadwrn 24 Hydref Dydd Iau 2.30pm a 7.30pm, Dydd Gwener 7.30pm, Dydd Sadwrn 2.30pm a 7.30pm Tocynnau: £9.00 - £32.00 Y Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebwch Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, September 16, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
