Bydd Orbit Theatre, prif gwmni theatr amatur Cymru, yn dychwelyd i’r Theatr Newydd yn yr Hydref gyda Grease, o ddydd Mercher 4 i ddydd Sadwrn 7 Tachwedd 2015. Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd o'r 1970au, mae'r sioe gerdd hon yn cynnwys yr holl gymeriadau a chaneuon bythgofiadwy y mae cynulleidfaoedd wedi gwirioni â nhw. Caiff Grease yn aml ei galw’n un o’r sioeau cerdd gorau erioed, diolch i’w chaneuon bachog a’i dawnsio bywiog. Mae’r sioe’n dilyn carwriaeth sy’n datblygu rhwng arweinydd y T-Birds, Danny, a Sandy o’r Pink Ladies. Ceir cymeriadau poblogaidd eraill hefyd fel Kenickie, Rizzo a Frenchy. Jim Jacobs a Warren Casey greodd y llyfr, y gerddoriaeth a’r geiriau gwreiddiol yn y 70au, gyda chaneuon y mae pawb dal yn eu hadnabod. Yn eu plith mae Nights, Hopelessly Devoted to You, Greased Lightnin’ a You’re the One That I Want. Mae’r Orbit Theatre wedi bod yn perfformio yn y Theatr Newydd ers 1969, gan gyflwyno cynyrchiadau o safon broffesiynol gyda chast a chriw o amaturiaid dawnus. Roedd cynhyrchiad mis Mai, The Wizard of Oz, yn llwyddiant ysgubol, gan greu cryn argraff ar gynulleidfaoedd a beirniaid. Mae Orbit Theatre yn cyflwyno Grease yn y Theatr Newydd ar ddydd Mercher 4 i ddydd Sadwrn 7 Tachwedd 2015. Mae tocynnau ar werth nawr am £10.00 - £22.00*. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. *Codir Ffi Gwasanaeth Tocynnau ar archebion (ceir eithriadau). Orbit Theatre yn cyflwyno Grease Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mercher 4 i Ddydd Sadwrn 7 Tachwedd 2015 Dydd Mercher a Dydd Iau 7.30pm; Dydd Gwener 5.00pm ac 8.00pm; Dydd Sadwrn 4.00pm ac 8.00pm Tocynnau: £10.00 – £22.00 Y Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebwch Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, September 30, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
