Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Mewn ‘sgidiau pointe maint 12… mae Les Ballets Trockadero de Monte Carlo yn ôl yng Nghaerdydd!     

Mewn ‘sgidiau pointe maint 12… mae Les Ballets Trockadero de Monte Carlo yn ôl yng Nghaerdydd!

Ar ôl perfformiadau anhygoel yng Nghaerdydd yn 2006, bydd cwmni ballet comedi llawn dynion o Efrog Newydd, Les Ballets Trockadero de Monte Carlo, yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru (Hydref 16-17) fel rhan o daith y Dance Consortium ledled y DU.

Bydd Les Ballets Trockadero de Monte Carlo, neu’r ‘Trocks’ fel maen nhw’n cael eu hadnabod bellach, yn cyflwyno cymysgwch ysbrydoledig o wybodaeth ddawns a’u hymwybyddiaeth o gomedi, a’r ffaith ryfeddol fod dynion, yn wir, yn gallu dawnsio en pointe heb gwympo ar eu hwynebau.

Bydd dawnswyr sy’n cynnwys Ida Nevasayneva, Olga Supphozova, Lariska Dumbchenko a balerinas blewog yn perfformio ar y llwyfan mewn esgidiau pointe maint 12, yn arddangos eu gallu technegol syfrdanol ynghyd â'u sgiliau ymbincio heb eu hail wrth chwyrlïo drwy ddetholiad o ddawnsiau ballet clasurol.

Cewch fwynhau’r gwefreiddiol Swan Lake (Act II), Patterns in Space wedi’i hysbrydoli gan Merce Cunningham, dychan Balanchine Go For Barocco a’r hyfryd Don Quixote, oll wedi’u perfformio gan allu unigryw’r Trocks i gymysgu cywreindeb, a ffraethineb sydd mor siarp â sisyrnau en pointe.

“We may have come to laugh but we stayed to worship” Sunday Telegraph, Llundain

“One of the funniest evenings you’ll ever spend in the theatre” Time Out

"This is the funniest night you will ever have at the ballet" Sunday Times

Ar ôl i grŵp o ddawnswyr ballet brwdfrydig sefydlu’r cwmni yn 1974, perfformiodd y Trocks am y tro cyntaf mewn sioeau hwyr mewn llofftydd ond maen nhw nawr yn cael eu trysori o amgylch y byd gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd. Am 41 o flynyddoedd di-baid a deinameg mae’r cwmni llwyddiannus yma wedi teithio i dros 610 o ddinasoedd mewn 41 o wledydd o amgylch y byd.

Yn ystod ymweliad y cwmni i Gaerdydd, bydd cyfle i’r rhai sydd â thocynnau fynychu Ymarfer Agored yn Theatr Donald Gordon cyn y perfformiad ar 16 Hydref (4.20pm – 6.20pm) ac ar ôl y sioe bydd sesiwn holi ac ateb gydag aelodau o’r cwmni i chi ddarganfod mwy am fywydau’r Trocks.

Bydd Les Ballets Trockadero de Monte Carlo yn perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 16 ac 17 Hydref 2015. Mae tocynnau yn costio £14.50 - £37.50. Canllaw oed 8+. Am ragor o wybodaeth ewch i www.yganolfan.org.uk neu ffoniwch 029 0263 6464.
 
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Tuesday, October 06, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk