Mae Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol mis o hyd a gynhelir ledled Cymru ym mis Mai bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn. Mae Gwanwyn yn dathlu oedran hŷn fel cyfle i adnewyddu, i dyfu a bod yn greadigol. Ein nod yw cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gymryd mwy o ran yn y celfyddydau, boed yn gelfyddydau gweledol, drama, adrodd straeon, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffotograffiaeth, dawns neu ffilm. Mae’r ŵyl yn rhoi cyfle i bobl hŷn gael eu hysbrydoli, i ymdrwytho ac i gymryd rhan. Mae’r ŵyl yn gweithredu cynllun grantiau cymunedol sy’n cynnig symiau hyd at £500 i alluogi grwpiau ledled Cymru i drefnu digwyddiad, neu gyfres o ddigwyddiadau, ar gyfer yr ŵyl yn 2016. Mae pob mathau o grwpiau’n gallu cymryd rhan (corau, cartrefi gofal, grwpiau cymunedol, grwpiau celfyddydol, dawns a theatr, clybiau ysgrifenwyr...). Mae’r cynllun yn gallu cefnogi amrywiaeth o arddangosfeydd, digwyddiadau a pherfformiadau ledled y wlad. Yn 2015, bu dros 70 o grwpiau’n cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ymwneud â mwy na 10,000 o bobl. 2016 yw penblwydd 10fed Gwanwyn, felly mae gyda ni diddordeb arbennig mewn prosiectau a digwyddiadau i help dathlu’r achlysur pwysig yma! Gwahoddir ceisiadau nawr, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015. Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a phecyn gwybodaeth gyda manylion sut i wneud cais o wefan Gwanwyn; neu gallwch ofyn am becyn drwy’r post – ffoniwch Age Cymru ar 029 20 431 555. |
| web site: gwanwyn.org.uk/cyllid-funding/ |
| e-mail: |
| Monday, October 5, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
