Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Mary Poppins, yn hedfan i Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Nadolig 2016     

Mary Poppins, yn hedfan i Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Nadolig 2016
Mae’r llwyddiant siwpyrcaliffrajilistig rhyngwladol gan Disney a Cameron Mackintosh, Mary Poppins, yn hedfan i Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Nadolig 2016

Bydd sioe gerdd Disney a Cameron Mackintosh sydd wedi ennill llwyth o wobrau, Mary Poppins, yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru o 14 Rhagfyr 2016 i 14 Ionawr 2017; y stop olaf ar ei Thaith o’r DU ac Iwerddon. Mae tocynnau yn mynd ar werth ddydd Llun 30 Tachwedd 2015.

Mae’r stori hudolus am hoff nani’r byd yn cyrraedd Cherry Tree Lane wedi’i haddasu’n arbennig er mwyn dod yn fyw ar y llwyfan gyda choreograffi rhagorol, effeithiau anhygoel a llond gwlad o ganeuon cofiadwy. Mae’r addasiad yma o MARY POPPINS wedi defnyddio straeon hyfryd PL Travers a ffilm annwyl Walt Disney, gyda Zizi Strallen yn chwarae rôl ‘Mary Poppins’ a Matt Lee fel ‘Bert’.

Gwnaeth Zizi Strallen serennu’n ddiweddar fel ‘Lana’ yn ‘The Car Man’ gan Matthew Bourne. Mae ei chredydau blaenorol yn y West End yn cynnwys: ‘Cats’; ‘Merrily We Roll Along’; ‘Rock of Ages’; ‘Dirty Dancing’; ‘Chitty Chitty Bang Bang’ a ‘Cinderella’ gan Matthew Bourne yn Sadler’s Wells. Mae hefyd wedi ymddangos yn ‘The Music Man’ yn y Chichester Festival Theatre ac fel ‘Penny Pingleton’ yn ‘Hairspray’ yn y Leicester Curve.

Gwnaeth Matt Lee, un o ‘ddynion cân a dawns’ gorau Awstralia, chwarae rôl ‘Bert’ yn ‘Mary Poppins’ yn y cynhyrchiad ysgubol o lwyddiannus o’r sioe yn Awstralia, gyda’i bortread yn ennill iddo ef y Wobr Helpmann am yr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd. Mae ei gredydau theatr eraill yn Awstralia’n cynnwys ‘Miss Saigon’, ‘The Witches of Eastwick’, ‘Rent’, ‘Grease’ a ‘The Boy from Oz’. Roedd Matt hefyd yn aelod parhaol o banel barnu ‘So You Think You Can Dance’ Awstralia.

Crëwyd y cynhyrchiad llwyfan o MARY POPPINS ar y cyd â Cameron Mackintosh ac mae ganddo lyfr gan y sgriptiwr sgrin a chrëwr Downton Abbey, Julian Fellowes. Mae ganddo sgôr oesol gan Richard M Sherman a Robert B Sherman sy’n cynnwys y caneuon Jolly Holiday, Step in Time, Supercalifragilisticexpialidocious a Feed the Birds gyda chaneuon newydd a cherddoriaeth a geiriau ychwanegol gan y tîm Prydeinig nodedig George Stiles ac Anthony Drewe. Y cynhyrchydd ar gyfer Disney Theatrical Productions yw Thomas Schumacher.

Mae tîm creadigol nodedig sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau wedi dod ynghyd ar gyfer MARY POPPINS o dan arweinyddiaeth y cyfarwyddwr llwyfan a ffilm Richard Eyre. Mae cyd-gyfarwyddo a choreograffi gan Matthew Bourne, cyd-goreograffi gan Stephen Mear. Mae’r cynllun set a gwisgoedd gan Bob Crowley gyda chynllun goleuo gan Natasha Katz, cynllun sain gan Paul Groothuis a threfniadau’r gerddorfa gan William David Brohn. Mae’r Daith Ryngwladol o MARY POPPINS wedi’i gyfarwyddo gan James Powell gyda choreograffiaeth wreiddiol gan Geoffrey Garratt a goruchwyliaeth gerddorol gan Stephen Brooker.

Agorodd y cynhyrchiad llwyfan gwreiddiol o MARY POPPINS yn y West End yn 2004 gan redeg am dair blynedd a mwy na 1,250 o berfformiadau. Agorodd y cynhyrchiad Broadway yn 2006 gan redeg am fwy na chwe blynedd. Mae’r sioe wedi cael ei mwynhau yn yr Iseldiroedd, Mecsico a Fienna ers hynny. Mae MARY POPPINS wedi teithio Awstralia, Seland Newydd, yr UDA a’r DU ac wedi’i weld gan fwy na 11 miliwn o bobl ledled y byd.

Mae Mary Poppins yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru 14 Rhagfyr 2016 – 14 Ionawr 2017. Bydd tocynnau ar werth ddydd Llun 30 Tachwedd 2015. Mae prisiau’r tocynnau o £24 - £59. Canllaw oed 3+. Am ragor o wybodaeth ewch i www.yganolfan.org.uk neu ffoniwch 029 2063 6464.
 
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Wednesday, November 25, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk