Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cat in the Hat yn y Theatr Newydd     

Cat in the Hat yn y Theatr Newydd


Mae un o’r llyfrau plant mwyaf poblogaidd erioed, The Cat in the Hat, yn dod i Gaerdydd yn ystod hanner tymor, o ddydd Gwener 19 i ddydd Sul 21 Chwefror. Mae’r ddrama, sy’n seiliedig ar y llyfr gan Dr Seuss, yn llawn hetiau uchel, direidi a miri.

O’r foment y mae’r het uchel â streipiau du a choch yn ymddangos drwy'r drws, mae Sally a'i brawd yn gwybod mai'r gath hon yw'r un fwyaf doniol a direidus y gwelon nhw erioed. Mae hi’n troi prynhawn gwlyb yn antur arbennig, ond mae’n rhaid i’r plant baratoi erbyn bod eu mam yn dod adre.

Mae The Cat in the Hat yn brofiad theatr bywiog sy’n hoelio’r sylw i blant ifanc 3+ oed a’u teuluoedd. Cynhyrchwyd y sioe yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Prydain, ac addaswyd a chyfarwyddwyd y sioe wreiddiol gan Katie Mitchell.

Bydd The Cat in the Hat yn y Theatr Newydd o ddydd Gwener 19 i ddydd Sul 21 Chwefror. Mae’r tocynnau ar werth nawr o £8.50 - £12.50*. Am fwy o fanylion ynghylch y sioe, neu er mwyn archebu tocynnau, ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

*Codir Tâl Tocynnu ar archebion (gyda rhai eithriadau).

The Cat in the Hat
Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Gwener 19 - Dydd Sul 21 Chwefror
Dydd Gwener 2.00pm a 4.00pm; dydd Sadwrn a dydd Sul 11.00am a 2.00pm.
Tocynnau: £8.50 - £12.50
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebwch ar lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
 
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Tuesday, January 26, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk