Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Footloose yn y Theatr Newydd     

Footloose yn y Theatr Newydd Bydd ffefrynnau’r West End Gareth Gates a Maureen Nolan yn dychwelyd i Gaerdydd am y sioe gerdd roc a rôl gyffrous Footloose a fydd yn dod i lwyfan y Theatr Newydd o ddydd Llun 29 Chwefror i ddydd Sadwrn 5 Mawrth 2016.

Yn seiliedig ar ffilm boblogaidd y 1980au, mae Footloose yn adrodd stori'r hogyn o'r ddinas Ren sy’n symud i gefn gwlad America, lle mae dawnsio wedi’i wahardd. Ond mae popeth yn mynd yn wyllt pan fydd Ren yn torri’n rhydd ac yn cael pawb i ddawnsio. Yn ogystal â bod yn llawn o ddawnsio anhygoel, mae’r gerddoriaeth yn cynnwys rhai o ganeuon enwocaf yr 80au fel Holding Out for a Hero, Almost Paradise, Let’s Hear it fo the Boy ac wrth gwrs prif thema Footloose.

Hwn yw’r tro cyntaf i Gareth Gates (sydd yn fwyaf adnabyddus am ei yrfa bop hynod lwyddiannus) berfformio yn y Theatr Newydd, a bydd Maureen Nolan – o fand y Nolan Sisters – yn dychwelyd ers iddi fod yn sioe ragorol Blood Brothers yma ochr yn ochr â Marti Pellow. Yn ymuno â nhw bydd dawnswyr dawnus a chantorion o fri.

Mae Footloose, sy’n seiliedig ar y ffilm o’r 1980au a wnaeth Kevin Bacon yn seren, wedi’i enwebu am Wobr Tony bedair gwaith.

Bydd Footloose yn y Theatr Newydd o ddydd Llun 29 Chwefror i ddydd Sadwrn 5 Mawrth 2016. Mae’r tocynnau ar werth nawr am brisiau rhwng £12.00 a £30.00*. Am fwy o fanylion ynghylch y sioe, neu er mwyn archebu tocynnau, ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

*Codir Tâl Tocynnu ar archebion (gyda rhai eithriadau).

Footloose
Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Llun 29 Chwefror i ddydd Sadwrn 5 Mawrth
Dydd Llun i ddydd Gwener 7.30pm; p’nawn dydd Iau 2.30pm; dydd Sadwrn 4.00pm ac 8.00pm
Tocynnau: £12.00 - £30.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebwch ar lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
 
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Tuesday, February 9, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk