|
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ymuno â Phenwythnos 'Get Creative' y BBC gyda digwyddiadau a gweithdai Am Ddim i'r Teulu. |
Ar 1-3 Ebrill 2016, bydd BBC Cymru Wales, Cyngor Celfyddydau Cymru a What Next? yn dod ynghyd ar gyfer penwythnos llawn hwyl i ddathlu creadigrwydd y genedl, ac er mwyn nodi'r achlysur, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol llwyddiannus Cymru yn cynnal digwyddiad am ddim i'r Teulu yng Nghaerdydd a gweithdai am ddim yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn 2 Ebrill. Ddydd Sadwrn 2 Ebrill, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn agor drysau'r Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, i deuluoedd er mwyn rhoi'r cyfle iddynt gymryd rhan yn ei Berfformiadau Matinee Rhyngweithiol i Deuluoedd am ddim! Anelir Perfformiadau Matinee Rhyngweithiol i Deuluoedd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru at blant rhwng 7 ac 11 oed ac maent yn ffordd greadigol, diddorol a difyr o ddysgu mwy am ddawns a rhoi cynnig arni. Fel rhan o'r Perfformiadau Matinee Rhyngweithiol i Deuluoedd, bydd cynulleidfaoedd yn cael y cyfle i ddawnsio ar lwyfan gyda dawnswyr y Cwmni (nid yw'n orfodol!), gofyn cwestiynau a dysgu rhannau o sioe'r Cwmni. Ar ôl yr egwyl, bydd y plant a'u teuluoedd yn cael y cyfle i wylio dawnswyr y Cwmni yn perfformio Tuplet, sy'n defnyddio ffraethineb, rhythm ac amseru i greu profiad ysbrydoledig llawn hwyl i bawb dan sylw. Mae'r dawnswyr yn creu eu cyfeiliant taro eu hunain sy'n cyfuno â'r sain electronig cefndirol, sy'n cynnwys darnau o gerddoriaeth jazz a 'big band', gan eu galluogi i ddangos eu doniau ac arddangos eu personoliaethau unigol. Cynhelir sesiwn holi ac ateb yn dilyn y perfformiad lle gall y plant ofyn cwestiynau i'r dawnswyr am y sioe neu eu bywyd fel dawnswyr. Bydd y Perfformiadau Matinee Rhyngweithiol i Deuluoedd yn y Tŷ Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am ddim ar 2 Ebrill fel rhan o ddigwyddiadau Penwythnos 'Get Creative' y BBC. Serch hynny, rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw trwy ndcwales.co.uk neu 029 2063 6464. Hefyd ddydd Sadwrn 2 Ebrill, bydd y Cwmni'n cynnal gweithdai cyflwyno dawns am ddim fel rhan o ddigwyddiad First Bite GŵylGrai yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd rhwng 1pm a 3pm. Gall unrhyw un rhwng 14 a 25 oed gymryd rhan yn y gweithdai creadigol ac egnïol dwy awr a arweinir gan ddau ddawnsiwr cwmni proffesiynol, lle byddant yn cynhesu gyda'n dawnswyr ac yn rhoi cynnig ar ddawnsio creadigol. Mae cyfyngiad ar nifer y lleoedd yn y gweithdy dwy awr felly fe'ch cynghorir i archebu ymlaen llaw. Cysylltwch â Theatr Glan yr Afon trwy ffonio 01633 656757. Gŵyl gelfyddydol genedlaethol newydd i bobl ifanc ledled Cymru yw GŵylGrai a bydd yr ŵyl gyntaf yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd ym mis Awst. Dywedodd Prif Weithredwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Paul Kaynes: “Mae Penwythnos 'Get Creative' y BBC yn gyfle gwych i bawb archwilio'r celfyddydau a diwylliant yn eu cymuned. Rydym yn rhan o raglen ar gyfer y DU gyfan ac mae hwn yn gyfle i gyfranogwyr roi cynnig ar weithgaredd creadigol newydd am ddim. Rydym am ysbrydoli cynifer o bobl ifanc â phosibl a'u hannog i ddawnsio - yn enwedig os nad ydynt erioed wedi rhoi cynnig arni o'r blaen." I gael rhagor o wybodaeth am y Cwmni a digwyddiadau 'Get Creative' y BBC, ewch i: www.ndcwales.co.uk |
| web site: www.ndcwales.co.uk |
| e-mail: |
| Friday, March 4, 2016 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
