|
Dawnswyr Ifanc o Gymru yn chwilio am gefnogaeth er mwyn medru perfformio mewn Gŵyl Ryngwladol |
Mae ensemble ieuenctid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Y Cymdeithion, wedi eu dewis o blith nifer o grwpiau dawnus ifanc rhyngwladol i berfformio yng Ngŵyl Ryngwladol Ieuenctid Aberdeen ym mis Awst. Dyma’r tro cyntaf i’r Cymdeithion dderbyn gwahoddiad i berfformio yn ystod yr ŵyl ond mae arnynt angen cefnogaeth y cyhoedd er mwyn medru cyrraedd yno a chynrychioli Cymru. Ers dros 20 mlynedd mae Cymdeithion CDCCymru wedi bod yn cefnogi Meithrin a datblygiad doniau ifanc ym maes dawns ar gyfer y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i ddawnsio’n broffesiynol gyda chwmnïau megis Wayne McGregor, Rambert a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ei hun. Mae rhaglen y Cymdeithion ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 19 mlwydd oed yn cael ei gynnal yng nghartref Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd, gyda’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella medrau dawns technegol a chreadigol, ynghyd â llwyfannu perfformiadau a gynhelir gydol y flwyddyn. Hwn yw’r tro cyntaf i’r Cymdeithion dderbyn gwahoddiad i berfformio ar y llwyfan rhyngwladol ochr yn ochr â rhai o’r artistiaid ifanc mwyaf dawnus o bob cwr o’r byd. Cynhelir Gŵyl Ieuenctid Ryngwladol Aberdeen rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst. Dros y blynyddoedd mae’r Ŵyl wedi rhoi llwyfan i dros 27,500 o bobl ifanc o bob cwr o’r byd, gan ei wneud yn un o’r cynulliadau pennaf a mwyaf llwyddiannus ar gyfer pob ifanc yn unrhyw fan yn y byd. Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru Caroline Finn; “Rydym yn falch tu hwnt o’n rhaglen Gymdeithion ac yn arbennig felly o’r darn diweddaraf a luniwyd ar eu cyfer gan un o’n dawnswyr proffesiynol Mathieu Geffré, Mae ei waith, Le Bal, yn dangos safon uchel y ddawns sy’n cael ei greu yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r Ŵyl yn gyfle unigryw i bobl ifanc gael dysgu ac ymestyn eu gwybodaeth trwy fynychu gweithdai, meithrin cysylltiadau, cyfnewid syniadau a pherfformio ond mae gwir angen cefnogaeth y cyhoedd arnom er mwyn medru sicrhau eu bod yn cyrraedd Aberdeen.” Er mwyn codi’r arian sydd ei angen arnom i fedru gyrru’r Cymdeithion ifanc dawnus i Ŵyl Ieuenctid Ryngwladol Aberdeen, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ynghyd â theuluoedd a chyfeillion y Cymdeithion yn trefnu nifer o ddigwyddiadau y gall y cyhoedd eu cefnogi - yn cynnwys reid feic noddedig o Ferthyr Tudful i’r Tŷ Dawns ym Mae Caerdydd, a pherfformiad Gala ysblennydd gan y Cymdeithion. Ar Fai 7fed bydd cartref y Cymdeithion a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Y Tŷ Dawns, yn cael ei drawsnewid i fod yn lleoliad ar gyfer perfformiad Gala ysblennydd, lle bydd y cefnogwyr a fydd yn mynychu yn cael eu cyfarch gan ddawnswyr proffesiynol CDCCymru. Byddant wedyn yn cael mwynhau perfformiad o ddarn newydd CDCCymru, Folk, ac i ddilyn perfformiad arbennig gan y Cymdeithion ifanc a’r darn sydd wedi ei ddewis i’w berfformio yng Ngŵyl Ieuenctid Gelfyddydol Ryngwladol Aberdeen, Le Bal. Bydd gwobrau raffl bendigedig i’w hennill a bydd yr holl enillion yn cyfrannu tuag at dalu i’r Cymdeithion gael mynd i Aberdeen. Dywedodd y Prif Weithredwr, Paul Kaynes, “Bydd hon yn noson arbennig lle bydd eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Bydd hwn yn ddigwyddiad bendigedig a fydd yn dathlu doniau ein Cymdeithion ifanc ac yn darparu cyfle iddynt berfformio cyn eu taith i Aberdeen. Os na fedrwch fynychu’r noson arbennig hon mae llu o ffyrdd eraill y medrwch gefnogi’r Cymdeithion. Gellir gwneud cyfraniadau trwy Just Giving. Rydym angen eich cefnogaeth a’ch rhoddion er mwyn gwireddu’r freuddwyd hon iddynt.” Cynhelir Perfformiad Gala Ysblennydd y Cymdeithion yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd dydd Sadwrn 7 Mai am 6.30pm. Mae tocynnau yn £25 yr un a ffi archebu. Rhaid prynu tocynnau rhag blaen trwy ymweld â www.ndcwales.co.uk / 029 2063 6464. Mynnwch gip ar ein gwefan ar gyfer cyhoeddiadau pellach |
| web site: www.ndcwales.co.uk |
| e-mail: |
| Sunday, April 10, 2016 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
