Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

BYDD CANOLFAN GAGGLEBABBLE, NATIONAL THEATR WALES & CHANOLFAN MILENIWM CYMRU YN DOD Â ROALD DAHL GARTREF I GAERDYDD YM MIS MEDI ELENI     

BYDD CANOLFAN GAGGLEBABBLE, NATIONAL THEATR WALES & CHANOLFAN MILENIWM CYMRU YN DOD Â ROALD DAHL GARTREF I GAERDYDD YM MIS MEDI ELENI BYDD WONDERMAN, FYDD YN CAEL EI BERFFORMIO YN Y TRAMSHED AR FEDI 13-18, YN UNO RHAI O CHWEDLAU TROELLOG DAHL I OEDOLION GYDAG ENW DA GAGGLEBABBLE AM GIG-THEATR ARLOESOL

Bydd Gagglebabble, National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru yn dod â Wonderman – eu fersiwn gig-theatr unigryw o straeon byrion Roald Dahl i oedolion – ar gyfer cyfres o berfformiadau wythnos o hyd yn Tramshed Caerdydd ym mis Medi, yn dilyn cyfnod o dair wythnos yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.

Bydd y cynhyrchiad yn agor yn y Tramshed ar beth fyddai wedi bod yn 100fed pen-blwydd Roald Dahl -13 Medi 2016 - ac yn dathlu rhai o straeon tywyllach i oedolion yr awdur a anwyd yng Nghaerdydd. Bydd tocynnau yn mynd ar werth 10am, Dydd Mercher 27 Gorffenaf.

Mae Wonderman yn cyfuno sgôr chwilboeth o gerddoriaeth fyw wreiddiol, cymeriadau sinistr, dychymyg anhygoel a throeon trwstan gwefreiddiol, â’r cwbl yn llawn hiwmor tywyll - yn adrodd hanes peilot RAF o'r ail ryfel byd sy'n canfod ei hun mewn gwely ysbyty, wedi’i anafu’n wael. Mae’n llithro i mewn ac allan o fyd breuddwydion, rhithwelediadau a hunllefau, i lawr coridorau a thyllau cwningod rhyfedd ac annisgwyl meddwl Dahl.

Mae Gagglebabble yn enwog yng Nghymru am wneud sioeau sy’n codi’r to ac yn cyfuno cerddoriaeth fyw rythmig, caneuon gwreiddiol bythgofiadwy a chariad drygionus at bob peth drwg ac annisgwyl.

Dywedodd Lucy Rivers a Hannah McPake o Gagglebabble: "Rydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio ar straeon byrion gwych Dahl, ac yn teimlo eu bod yn gweddu’n berffaith i’n harddull theatr anarchaidd, tywyll a chwareus ein hunain. Mae hefyd yn wych i allu cydweithio gyda National Theatre Wales ar y sioe hon yn ystod blwyddyn ei ganmlwyddiant."

Dywedodd Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales: Rydym yn falch iawn i gydweithio ar y gwaith newydd hwn gyda Gagglebabble. Mae'n argoeli i fod yn llawer o hwyl, yn ffraeth ac yn anarchaidd gyda naws llawn antur y mae’r ddau gwmni yn enwog amdano."

Bywgraffiadau artistiaid

Mae Daf James yn awdur, yn gyfansoddwr ac yn berfformiwr arobryn, yn gweithio mewn theatr, radio a theledu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ei waith wedi cael ei berfformio ledled y DU ac yn rhyngwladol yn Awstralia, Canada, Hong Kong, Seland Newydd, Sweden, Taiwan ac UDA. Cafodd ei hyfforddi mewn addysgeg Lecoq yn y London International School of Performing Arts (LISPA) ac mae ganddo PhD mewn astudiaethau theatr o Brifysgol Warwick. Mae ei gredydau yn cynnwys: All That I Am (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru/The Gate); Crackanory (Tiger Aspect/Dave); Psychobitches (Tiger Aspect/Sky Arts, enillydd Gwobr Rose D’or); Mother Courage & Her Children (National Theatre Wales); Terrace (BBC Radio 3); Gwaith/Cartref (10 pennod i Fiction Factory, Gwobr Celtic Media); Heritage (National Theatre Connections); The Village Social (National Theatre Wales/National Theatre Studio); Llwyth (Theatr Genedlaethol Cymru/Sherman Cymru, Gwobr Beirniaid Theatr Cymru); My Name Is Sue (Gwobr Total Theatre) & Sue: The Second Coming (Dafydd James & Company). Ar hyn o bryd mae’n datblygu gwaith gyda Fiction Factory, Scott Free Productions, Sherman Cymru, BBC Radio 4, a WMC/Cape Town Opera.

Mae Amy Leach yn Gyfarwyddwr arobryn. Cafodd ei hyfforddi ar gwrs y Cyfarwyddwyr Theatr Cenedlaethol ac mae’n Artist Cyswllt The Egg yng Nghaerfaddon, Dukes Theatre Lancaster a Gŵyl Ysgolion Shakespeare. Mae ei chredydau cyfarwyddo yn cynnwys Kes, The Night Before Christmas a Little Sure Shot i’r West Yorkshire Playhouse; The Caucasian Chalk Circle i The Unicorn, Llundain; Wanted! Robin Hood ac Arabian Nights i’r Library Theatre yn The Lowry (enillydd yr Ensemble Gorau yng Ngwobrau Theatr Manceinion 2012); The Life and Times of Mitchell and Kenyon, The Rise and Fall of Little Voice, Peter Pan, My Mother Said I Never Should a Sabbat ar gyfer The Dukes; Dracula, Peter Pan, Wilde Tales, Oliver Twist, The Animated Tales of Shakespeare a The Grimm Brothers’ Circus ar gyfer Theatre Royal Bath/The Egg, a Dr Korczak’s Example ar gyfer y Royal Exchange Theatre ym Manceinion (enillydd gwobr MEN ar gyfer y Cynhyrchiad Stiwdio Gorau 2008). Rhwng 2003 a 2011, roedd Amy yn gyd-sylfaenydd en masse theatre, yn ogystal â’i redeg, a chreodd naw cynhyrchiad gyda hwy ar gyfer pobl ifanc a deithiodd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ennill dwy wobr Fringe First yn EdFringe. Yn ddiweddarach yn 2016, bydd Amy yn cyfarwyddo The Borrowers i Sherman Cymru adeg y Nadolig, ac yn ddiweddar mae hi wedi datblygu gwaith gyda National Theatre Studio a National Theatre of Scotland.


Mae Lucy Rivers yn awdur, yn gyfansoddwr, yn actor ac yn gerddor, ac yn gyd-sylfaenydd y cwmni arobryn Gagglebabble. Mae ei chredydau ysgrifennu, perfformio a chyfansoddi yn cynnwys; The Bloody Ballad (Edinburgh, Soho a thaith DU) a The Forsythe Sisters i Gagglebabble; The Devil’s Violin i BBC Radio 4 a Little Sure Shot i’r Egg, Bath And West Yorkshire Playhouse. Credydau cyfansoddi; The Bear (Polka a The Albany), Father Christmas (Lyric Hammersmith a West Yorkshire Playhouse), Sleeping Beauties, The Happy Prince, The Selfish Giant a The Devoted Friend (Sherman Cymru), Y Storm (Theatr Genedlaethol Cymru), Grimm Tales (Theatr Iolo), Finding Mr Average (Channel 4), ac wyth sioe bypedau ar raddfa fawr i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei chredydau perfformio eraill yn cynnwys; The Village Social (National Theatre Wales), My Name Is Sue gan Dafydd James a Ben Lewis, Journey To The Riversea Unicorn, Grapes Of Wrath a A Midsummer Night’s Dream (Clwyd Theatre Cymru), Not I (Chapter), The Blood Of Others (Arcola Theatre), Missing (Theatr Iolo), The Borrowers, Babe, a James And The Giant Peach (Sherman Cymru). Mae hi hefyd yn un hanner o'r ddeuawd werin Gymreig, Olion Byw. Mae Lucy newydd orffen taith ryngwladol yn perfformio yng nghynhyrchiad pwysig Kneehigh o Dead Dog In A Suitcase (and Other Love Songs) ac ar hyn o bryd mae'n datblygu sioe newydd Gagglebabble a The Other Room o’r enw The Sinners’ Club.
Mae Hannah McPake yn actor ac yn wneuthurwr theatr. Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2003. Mae ei gwaith theatr yn cynnwys: I Am Thomas (Told By An Idiot/NTS), Rapunzel (Citizens’ Theatre), The Tempest (Improbable/Northern Stage/Oxford Playhouse), The Gamblers (Greyscale/Dundee Rep/Northern Stage), The Knight Of The Burning Pestle a Romeo And Juliet (Shakespeare’s Globe), Silly Kings a Red Woman/Green Man (National Theatre Wales), The Ghosts Of Scrooge (Manchester Library Theatre), Maudie’s Rooms, Plum, And Me Will a Cinders (Sherman Cymru), The First Time I Saw Snow (The Belgrade Coventry), The Bloody Ballad a The Forsythe Sisters (Gagglebabble) a Don Quixote (Theatre Modo). Mae ei chredydau teledu yn cynnwys: Comedy Trollied (Sky 1) a Skins (E4). Mae ei chredydau radio yn cynnwys Modesty Blaise (BBC Radio 4). Mae ei gwaith ffilm yn cynnwys: Dead End Job (Cyfle/Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru). Mae ei chredydau ysgrifennu yn cynnwys: The Forsythe Sisters a Balloon Girl (Gagglebabble).

Gwybodaeth am berfformiadau:

WONDERMAN
Gagglebabble a National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru
Drama gyda cherddoriaeth a addaswyd o straeon Roald Dahl ar gyfer oedolion
Sgript a geiriau gan Daf James
Cerddoriaeth gan Lucy Rivers
Dyfeisiwyd gan Daf James, Hannah McPake a Lucy Rivers
Cyfarwyddwr: Amy Leach
Dylunydd: Hayley Grindle
Dylunydd goleuo: Joshua Carr
Dylunydd sain: Dan Lawrence
Cast: James Clarke, Peter Komor, Hannah McPake, Mark O'Connor, Adam Redmore & Lucy Rivers

Lleoliad: Tramshed, Clare Road, Caerdydd CF11 6QP

Dyddiadau ac amseroedd:
Dydd Mawrth 13eg - Sadwrn 17eg Medi, 8pm
Dydd Sadwrn 17 Medi, 2.30pm
Dydd Sul 18 Medi, 5pm

Swyddfa Docynnau
Ar-lein: nationaltheatrewales.org/cy/wonderman-caerdydd
Dros y ffôn: 029 2037 1689


Tocynnau: £12 (£10 gostyngiadau)

Argymhellir ar gyfer oedrannau 12+

Gagglebabble (Lucy Rivers a Hannah McPake) - yn uno theatr a cherddoriaeth fyw. Maent yn hoffi straeon o’r ochr dywyll, ochr ddieithr bywyd, y pethau cudd. Eu nod yw dod â bywiogrwydd, uniongyrchedd a synnwyr digrifwch tywyll a chwareus a chreu gwaith arloesol, ymdrochol a bywiog sy’n croesi'r ffiniau rhwng theatr a genres eraill. Theatr wreiddiol y bydd yn eich gadael yn awchu am fwy!
Mae Gaggebabble yn Gwmnïau Cysylltiol Theatr Iolo a The Other Room.

Mae National Theatre Wales wedi bod yn gwneud cynyrchiadau Saesneg mewn lleoliadau ledled Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers mis Mawrth 2010. Mae’n gweithredu o leoliad bach yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae’n gweithio ar draws y wlad a thu hwnt, gan ddefnyddio tirlun cyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi, ei dinasoedd a’i phentrefi, ei straeon anhygoel a’i thalent gyfoethog yn ysbrydoliaeth. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales. nationaltheatrewales.org

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn lleoliad celfyddydol pwysig ac yn gyrchfan diwylliannol, a agorwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines ar 28 Tachwedd 2004. Ei chenhadaeth gychwynnol oedd i ddod â'r gorau o'r byd i Gymru ac i arddangos y gorau o Gymru i'r byd. Yn flynyddol mae'r Ganolfan yn derbyn dros 1.5 miliwn o ymwelwyr, a hi yw prif atyniad ymwelwyr Cymru. Mae'r Ganolfan yn darparu un o raglenni perfformio rhad ac am ddim fwyaf y DU ac mae’n ymgysylltu â bron i 90,000 o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ei rhaglen Dysgu Creadigol ac Ymgysylltiad Cymunedol. Cefnogir y Ganolfan gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn elusen gofrestredig, rhif 1060458. www.wmc.org.uk / www.wmc10.org.uk
National Theatre Wales  
web site
: nationaltheatrewales.org/wonderman-cdf
Radian Lewis
e-mail: rhianlewis@nationaltheatrewales.org>
Wednesday, July 27, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk