Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

ALVIN AILEY® AMERICAN DANCE THEATER YN DYCHWELYD I GANOLFAN MILENIWM CYMRU FEL RHAN O DAITH Y DU 2016     

ALVIN AILEY® AMERICAN DANCE THEATER YN DYCHWELYD I GANOLFAN MILENIWM CYMRU FEL RHAN O DAITH Y DU 2016 DANCE CONSORTIUM

ALVIN AILEY® AMERICAN DANCE THEATER YN DYCHWELYD I GANOLFAN MILENIWM CYMRU FEL RHAN O DAITH Y DU 2016

MAWRTH 4 A MERCHER 5 HYDREF 2016

Bydd Alvin Ailey American Dance Theater, un o gwmnïau dawns mwyaf poblogaidd y byd yn dychwelyd i’r DU am y tro cyntaf ers chwe blynedd i gyflwyno rhaglen wefreiddiol ac amrywiol o ddawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fawrth 4 a nos Fercher 5 Hydref. Gan ddathlu ysbryd y natur ddynol drwy brofiad diwylliannol Affricanaidd-Americanaidd a'r traddodiad ddawns fodern Americanaidd, mae perfformiadau Ailey, o dan arweinyddiaeth y Cyfarwyddwr Artistig Robert Battle, yn rhan o raglen Mis Hanes Pobl Dduon sy’n digwydd ledled Cymru ym mis Hydref.

Wedi’i sefydlu yn 1958, mae’r cwmni wedi’i gydnabod gan Gyngres yr UDA fel “Cennad Diwylliannol i’r Byd.” Mewn bron i chwe degawd, mae artistiaid Ailey wedi perfformio i 25 miliwn o bobl mewn 71 gwlad ledled chwe chyfandir, ac yn parhau i wefreiddio cynulleidfaoedd a beirniaid ym mhedwar ban y byd.

Wrth drafod dychweliad y Cwmni i’r DU, dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Robert Battle: “Rwy’n falch i barhau gydag etifeddiaeth Alvin Ailey American Dance Theater a darparu teithiau rhyngwladol, dyma fydd fy ymweliad cyntaf yn arwain dawnswyr hynod y Cwmni o amgylch y Deyrnas Unedig. Wedi’i gyflwyno gan Dance Consortium ar ôl iddyn nhw wneud yr un peth yn hynod o lwyddiannus chwe blynedd yn ôl, byddwn yn rhannu cronfa amrywiol o weithiau yn cynnwys nifer o berfformiadau cyntaf i’r DU. Rwy’n edrych ymlaen at gael cynulleidfaoedd hen a newydd yn profi’r perfformiadau twymgalon sydd wedi ysbrydoli pobl ym mhedwar ban y byd, a gwireddu cred Mr Ailey mai “o’r bobl y mae dawns yn deillio, a dylid ei dychwelyd yn ôl i’r bobl.”

Dywedodd Pennaeth Rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru, Louise Miles-Crust: “Ar ôl 6 mlynedd i ffwrdd o’r DU, rwy’n edrych ymlaen at gael Alvin Ailey Dance Theater, un o gwmnïau dawns modern mwyaf cyffrous ac ysbrydoledig y byd yn perfformio yn y Ganolfan fel rhan o’i daith o’r DU. O’r British Dance Edition i’r Mariinsky Ballet a Matthew Bourne’s Sleeping Beauty, mae 2016 wedi bod yn flwyddyn ragorol ar gyfer dawns yn y Ganolfan, gan ddenu’r gorau mewn dawns genedlaethol a rhyngwladol ar draws ystod eang o genres i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Bydd Alvin Ailey, gyda’u harddull fodern ac atyniad helaeth i gynulleidfaoedd, yn dod â’r flwyddyn o ddawns yn y Ganolfan at ddiweddglo arbennig iawn.”

Bydd y rhaglen yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys perfformiadau cyntaf i’r DU gan ddau o goreograffwyr mwyaf nodedig y dydd ohoni: y twymgalon Exodus gan y coreograffydd hip-hop Rennie Harris; a thaith ysbrydol Four Corners gan Ronald K. Brown. Bydd Perfformiad Cyntaf y Cwmni i’r DU o’r deuawd hudolus After the Rain Pas de Deux gan Christopher Wheeldon, hefyd yn cael ei berfformio’n ystod y noson yng Nghaerdydd.

I gloi’r rhaglen bydd Revelations gan Alvin Ailey. Mae’r darn poblogaidd yma, y gwaith dawns sydd wedi’i weld mwyaf yn y byd, yn cael ei berfformio gan ddawnswyr digyffelyb Ailey. Agorodd Revelations am y tro cyntaf yn 1960 ac mae’n parhau i godi cynulleidfaoedd i’w traed.

Rhaglen CAERDYDD The Ailey 2016, sy’n amodol ar newidiadau yw:

Four Corners / Exodus / After the Rain Pas de Deux / Revelations

Perfformiadau Cyntaf y DU

Exodus (2015) Coreograffi gan Rennie Harris / Cerddoriaeth: Cyfansoddiadau gwreiddiol gan Raphael Xavier, “A New Deal” gan Ost & Kjex. Mae’r coreograffydd hip-hop nodedig Rennie (Lorenzo) Harris wedi creu gwaith sy’n trafod y syniad o “exodus” – o fod yn unigolyn sy’n cydymffurfio ac yn llawn anwybodaeth – fel cam anochel tuag at oleuedigaeth. Wedi’i osod i gerddoriaeth gospel a house ynghyd â llafarganu, mae’r gwaith yn tanlinellu rôl hollbwysig gweithred a mudiant wrth greu newidiadau. Gan arddangos ei olwg o hip-hop fel “dathliad o fywyd”, mae Exodus yn nodi gwahoddiad Harris i ddychwelyd at sylfeini ysbrydol er mwyn datgan pwy ydyn ni. Mae’i gyfraniadau blaenorol i raglen Ailey yn cynnwys Home (2011) a Love Stories (2004), cywaith dynamig Judith Jamison gyda Harris a Robert Battle.

Four Corners (2013) Coreograffi: Ronald K. Brown / Cerddoriaeth: Carl Hancock Rux, Yacoub ac Artistiaid Amrywiol. Mae Four Corners yn adlewyrchu gweledigaeth o bedwar angel yn sefyll ar bedwar ban y byd ac yn gafael ar y pedwar gwynt. Gan gymryd ysbrydoliaeth o eiriau Lamentations gan Rux, mae Four Corners yn dilyn 11 dawnsiwr wrth iddyn nhw godi i ganfod bywyd llawn heddwch ar “gopa’r mynydd”; siwrnai bwerus, llawn gobaith o brofedigaeth, ymroddiad a gorchest.

Perfformiad Cyntaf y Cwmni i’r DU

After the Rain Pas de Deux (2005 / Premiere Cwmni Ailey 2014) Coreograffi gan Christopher Wheeldon / Cerddoriaeth: Arvo Pärt. Roedd y cynhyrchiad yma’n llwyddiant ysgubol ym Mallet Efrog Newydd 2005. Bydd deuawd hudolus Christopher Wheeldon – sy’n cael ei glodfori am ei symlrwydd cynnil a’i batrymau cain yn cael ei arddangos ar wedd newydd wrth i ddawnswyr Ailey gosod marc personol arnyn nhw. Wedi’i gosod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Estonia Arvo Pärt, mae’r ddeuawd deniadol yma wedi bod yn ffefryn ymhlith cynulleidfaoedd ac yn nodi’r gwaith cyntaf gan Christopher Wheeldon i ddod yn rhan o raglen Ailey.

Ailey Classic

Revelations (1960) Coreograffi gan Alvin Ailey / Cerddoriaeth: Emyn-donau Traddodiadol. Mae’r darn yma’n fwy na gwaith dawns boblogaidd, mae Revelations wedi dod yn drysor celfyddydol, sy’n annwyl i genedlaethau o selogion. Dyma glasur Americanaidd nodedig y mae rhaid i bawb ei weld, campwaith Alvin Ailey sy’n deyrnged i’w dreftadaeth a’i athrylith. Gan ddefnyddio Emyn-donau Affricanaidd-Americanaidd, mae’r gwaith yn trafod yn angerddol y galar tywyllaf a’r llawenydd mwyaf ysbrydol yn yr enaid. Mae gweld Revelations am y tro cyntaf neu’r canfed yn brofiad trosgynnol gyda chynulleidfaoedd yn cymeradwyo, cydganu ac yn dawnsio yn eu seddi o’r nodau cychwynnol o’r galarus I Been ’Buked i’r dyrchafedig Wade in the Water a’r diweddglo arbennig, Rocka My Soul in the Bosom of Abraham.
-ENDS-

NODIADAU:

ALVIN AILEY® AMERICAN DANCE THEATER – Taith DU 2016 – CANOLFAN MILENIWM CYMRU, CAERDYDD

Mawrth a Mercher 5 Hydref am 7.30pm
Canolfan Mileniwm Cymru CAERDYDD
Tocynnau: 029 2063 6464 www.yganolfan.org.uk
 
web site
: http://www.danceconsortium.com/touring/alvin-ailey-american-dance-theater-2016/resources/
Sarah.Vaughan-Jones
e-mail: Sarah.Vaughan-Jones@wmc.org.uk
Thursday, September 1, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk