Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Clasur. Carreg filltir. Chwedl.     

Clasur. Carreg filltir. Chwedl. The Mousetrap yn y Theatr Newydd.

Bydd The Mousetrap, stori gyffrous enwog a chofiadwy Agatha Christie yn dod yn ôl i Gaerdydd o ddydd Mawrth 27 Medi i ddydd Sadwrn 1 Hydref 2016. Mae'r cynhyrchiad yn ôl ar ôl galw mawr amdano a pherfformiadau llawn dop yn y Theatr Newydd yn 2012 a 2014.

Gosodir y sefyllfa pan mae grwp o bobl mewn ty gwledig wedi'u hamgylchynu gan eira yn darganfod, er mawr syndod iddynt, fod llofrudd yn eu plith. Un wrth un, mae’r cymeriadau drwgdybus yn datgelu eu gorffennol tramgwyddus nes yr eiliad gynhyrfus olaf un pan ddaw i’r amlwg pwy yw’r llofrudd a'i reswm am lofruddio.

Mae The Mousetrap, sy’n enwog yn fyd-eang oherwydd ei natur a’i hanes hir ar y llwyfan, wedi llwyddo i gynnal 26,000 o berfformiadau mewn 50 o wahanol ieithoedd. Mae noson heb berfformiad rhywle yn y byd ohono’n brin, ond nid oes erioed wedi bod cymaint o gynyrchiadau wedi'u trwyddedu ar bwrpas yn yr un cyfnod.

Mae llyfrau Agatha Christie wedi gwerthu biliynau o gopïau ledled y byd - mwy nag unrhyw awdur arall heblaw Shakespeare a'r Beibl. Ar un adeg, roedd ganddi dair drama yn cael eu cynnal ar yr un pryd yn y West End, rhywbeth na wnaeth unrhyw fenyw arall erioed. Roedd hi'n nofelydd llwyddiannus ynghyd â dramodydd llwyddiannus, ac mae rhai o'i chymeriadau enwocaf yn cynnwys Hercule Poirot a Miss Marple.

Bydd The Mousetrap yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 27 Medi tan ddydd Sadwrn 1 Hydref 2016. Mae’r tocynnau ar werth nawr am brisiau rhwng £10.00 a £31.00*. Am fwy o fanylion am y sioe, neu er mwyn prynu tocynnau, ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

*Codir Tâl Tocynnau ar archebion (gyda rhai eithriadau).

The Mousetrap
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Mawrth, 27 Medi – dydd Sadwrn, 1 Hydref 2016
Gyda’r nos am 7.30pm, a pherfformiad prynhawn am 2.30pm ddydd Mercher, Iau a Sadwrn.
Tocynnau: £10.00 - £31.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Bwciwch ar-lein ar www.newtheatrecardiff.co.uk
New Theatre, Cardiff  
web site
: http://www.newtheatrecardiff.co.uk/

e-mail: mailto:jafar.iqbal@caerdydd.gov.uk
Friday, September 2, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk