Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Little Shop of Horrors yn y Theatr Newydd     

Little Shop of Horrors yn y Theatr Newydd Sioe gerdd enwog ddoniol, gwirion bost a deniadol dros ben
Little Shop of Horrors yn y Theatr Newydd

Bydd Rhydian Roberts, un o hoff berfformwyr Cymru yn actio yn y cynhyrchiad newydd hwn o Little Shop of Horrors, sef parodi ffugwyddonol o’r 1950au, ac un o sioeau oddi ar Broadway sydd wedi cael ei pherfformio hiraf! Bydd y sioe gerdd hon sydd wedi'i chanmol gan feirniaid yn dod i’r Theatr Newydd o ddydd Llun 3 Hydref tan ddydd Sadwrn 8 Hydref, 2016.

Daw Seymour Krelborn yn ddyn enwog iawn dros nos ar ôl iddo ddarganfod planhigyn dieithr ac od, y mae'n ei alw yn Audrey Two er mwyn plesio Audrey, y cydweithiwr prydferth y mae'n ei charu. Mae Seymour yn darganfod bod Audrey Two angen mwy na bwyd planhigion yn unig i oroesi, mae’n tyfu i fod yn gigysydd sydd â thymer ac sy'n rhegi'n aml, ond cyn bo hir bydd y chwant brwd hwn am fwyd yn dod yn anos i'w fodloni.…

Ynghyd â’i hamser hir yn Efrog Newydd, gwnaed y Little Shop of Horrors yn ffilm yn 1986, oedd yn cynnwys enwogion y byd comedi megis Rick Moranis a Steve Martin, a pherfformiadau cameo gan actorion enwog fel James Belushi, John Candy, Christopher Guest a Bill Murray.

Daeth Rhydian, sy'n chwarae rôl Orin Scrivello, y deintydd cas yn y sioe, yn enwog ar raglen ITV The X Factor. Ers hynny, mae wedi gwerthu miliynau o albymau ledled y byd, wedi cyhoeddi chwech o albymau stiwdio ac wedi perfformio ochr yn ochr â rhai o bobl enwocaf y diwydiant cerdd. Mae wedi perfformio mewn sioeau cerdd fel Grease, We Will Rock You, The War of the Worlds, Jesus Christ Superstar a The Rocky Horror Show.

Cyfansoddwyd y gerddoriaeth ar gyfer y sioe gan yr enwog Alan Menken, sydd fwyaf adnabyddus oherwydd ei sgoriau ar gyfer ffilmiau Disney. Enillodd dwy Wobr yr Academi ar gyfer ei gerddoriaeth yn The Little Mermaid, Beauty and the Beast, Aladdin a Pocohantas. Ynghyd â Little Shop of Horrors, mae’n enwog am ei sioeau llwyfan eraill megis A Christmas Carol a Sister Act.

Bydd Little Shop of Horros yn y Theatr Newydd ddydd Llun 3 – dydd Sadwrn 8 Hydref 2016. Mae tocynnau ar werth nawr o £10.00 - £37.00*. Am fwy o fanylion ynghylch y sioe, neu er mwyn archebu tocynnau, ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

*Codir Tâl Tocynnau ar archebion (gyda rhai eithriadau).

Little Shop of Horrors
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Llun 3 Hydref - Dydd Sadwrn 8 Hydref 2016
Perfformiadau gyda’r nos 7.30pm; perfformiadau prynhawn ar ddydd Iau a dydd Sadwrn am 2.30pm
Tocynnau: £10.00 - £37.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Bwciwch ar-lein ar www.newtheatrecardiff.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth, lluniau electronig a chyfweliadau, cysylltwch â:
Jafar Iqbal, Yr Adran Farchnata
Ffôn: 029 2087 8797
E-bost: jafar.iqbal@caerdydd.gov.uk
Y Theatr Newydd, Caerdydd  
web site
: http://www.newtheatrecardiff.co.uk/
Jafar Iqbal
e-mail: mailto:jafar.iqbal@caerdydd.gov.uk
Wednesday, September 7, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk