Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

New Theatre, 2016-2017     

Mae rhywbeth at ddant pawb yn y New Theatre yn ystod hydref/gaeaf 2016, gyda sioeau cerdd poblogaidd, dramâu gwefreiddiol ac adloniant o'r radd flaenaf i'r teulu. Wrth i ni edrych ymlaen at 2017, nid oes lle gwell i fod na'r New Theatre.

Ymunwch â Louis Smith a Robin Windsor o Strictly Come Dancing, Anya Garnis a llu o ddawnswyr proffesiynol eraill yn Keep Dancing, yn dathlu byd Dawnsio Neuadd a Dawnsio Latin rhwng dydd Mawrth 20 a dydd Sadwrn 24 Medi. Mae'r cynhyrchiad bywiog ac angerddol hwn yn cynnwys gwisgoedd ysblennydd, choreograffi trawiadol a llawer o hwyl.

Bydd y lle'n llawn dirgelwch pan fydd The Mousetrap gan Agatha Christie yn dychwelyd i Gaerdydd yn dilyn y galw mawr. Bydd y ddrama gyffrous adnabyddus a llwyddiannus, sy'n enwog fel y sioe o unrhyw fath sydd wedi parhau i gael ei pherfformio fwyaf yn hanes y theatr, yn dychwelyd o'r New Theatre rhwng dydd Mawrth 27 Medi a dydd Sadwrn 1 Hydref yn dilyn ymweliadau hynod lwyddiannus yn 2012 a 2014.

Bydd Little Shop of Horrors, un o'r sioeau Broadway sydd wedi parhau i gael ei pherfformio fwyaf erioed, yn cyrraedd Caerdydd rhwng dydd Llun 3 a dydd Sadwrn 8 Hydref. Mae'r sioe gerdd barodi wyddonias ddymunol, rhyfedd a doniol hon o'r 1950au yn cynnwys cerddoriaeth gan yr enwog Alan Menken, gyda'r Cymro hoff Rhydian Roberts.

Dead Sheep yw'r sioe sy'n adrodd y stori wir am sut y cafodd Margaret Thatcher, y fenyw fwyaf pwerus yn y byd unwaith, ei chwalu gan Geoffrey Howe yn un o'r areithiau gwleidyddol gorau erioed. Caiff y stori hon o gariad, anrhydedd, ffyddlondeb a dial, gyda Steve Nallon, Paul Bradley a Graham Seed, ei pherfformio yng Nghaerdydd am y tro cyntaf rhwng dydd Mawrth 11 a dydd Sadwrn 15 Hydref.

Mae cynhyrchiad newydd sbon o'r stori gariad oesol Ghost The Musical yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng dydd Llun 17 a dydd Sadwrn 22 Hydref. Yn cynnwys Sarah Harding (Girls Aloud) ac Andrew Moss (Hollyoaks, Doctors), mae'n dod â rhamant a hud y ffilm, a enillodd Oscar, yn fyw gyda cherddoriaeth a rhithiau trawiadol.

Bydd hanner tymor ychydig yn fwy cyffrous pan ddaw un o straeon mwyaf doniol a chyffrous Roald Dahl, George's Marvellous Medicine, i'r New Theatre rhwng dydd Mawrth 25 a dydd Sadwrn 29 Hydref. Peidiwch â cholli'r stori wych hon, sy'n llawn hwyl a hud i'r teulu cyfan!

Peidiwch â cholli sŵn unigryw'r band eiconig o'r 60au The Small Faces yn y sioe gerdd i bob oed All or Nothing, rhwng dydd Mawrth 1 a dydd Sadwrn 5 Tachwedd. Mae'r sioe, sy'n dathlu'r Mods, yn cynnwys llu o ganeuon yn cynnwys Whatcha Gonna Do About It, Tin Soldier, Here Comes the Nice ac Itchycoo Park.

Bydd Georgia May Foote (ail yn Strictly Come Dancing, Coronation Street) yn camu i'r rôl a drodd Audrey Hepburn yn seren enfawr, yn Breakfast at Tiffany's gan Truman Capote. Mae'r stori wedi'i hadfywio yn ddrama lwyfan rhwng dydd Llun 7 a dydd Sadwrn 12 Tachwedd mewn cynhyrchiad disglair a soffistigedig.

Mae Sgowtiaid a Geidiau yn diflannu yn The Cardiff Gang Show 2016 ac mae'r gyfrinach yn cuddio yn y Ddrysfa Amser. Mae'r adloniant rhyfeddol hwn i'r teulu a gyflwynir gan dalent ifanc leol rhwng dydd Mercher 16 a dydd Sadwrn 19 Tachwedd, yn cynnwys cerddoriaeth, dawnsio a digon o chwerthin.

Ar ôl galw anhygoel o fawr, bydd The Rocky Horror Show yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng dydd Llun 21 a dydd Sadwrn 26 Tachwedd. Cewch gyfle arall i weld hoff sioe gerdd roc a rôl y byd, felly gwisgwch eich stiletos a pharatowch am barti mwyaf y ddinas. Rhybudd, mae rhannau o'r sioe hon yn anweddus!

Mae stori Charles Dickens am hanes y cybydd, Ebenezer Scrooge wedi cael triniaeth Orbit Theatre a bydd A Christmas Carol yn dod i Gaerdydd rhwng dydd Mawrth 29 Tachwedd a dydd Sadwrn 3 Rhagfyr. Gydag eira'n disgyn, ysbrydion yn hedfan a thaith drwy strydoedd Dickensaidd Llundain, mae prif gwmni theatr amatur Cymru yn cyflwyno'r sioe berffaith i ledaenu hwyl y Nadolig i chi a'ch teulu.

Pantomeim y New Theatre fydd y pantomeim mwyaf a'r pantomeim gorau hyd yn hyn, wrth i'r seren teledu ac adloniant byd-eang David Hasselhoff chwarae rhan Captain Hook yn Peter Pan. Bydd hoff wreigan Panto Caerdydd, Mike Doyle, yn ymuno â'r Hoff mewn antur panto herfeiddiol rhwng dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2016 a dydd Sul 8 Ionawr 2017.

Bydd Mike Doyle, un o berfformwyr mwyaf poblogaidd Cymru, yn dychwelyd ar ôl y Panto, gyda pherfformiad un noson y unig ddydd Gwener 13 Ionawr. Ynghyd â'i fand byw gwych, bydd Mike yn dod â'i frand unigryw o gomedi a cherddoriaeth ar gyfer noson arbennig llawn mwynhad a diddanwch.

Ymunwch â'r Wrach a'i chath yn Room on the Broom rhwng dydd Iau 19 a dydd Sul 22 Ionawr, yn yr addasiad hudol a cherddorol hwn o'r llyfr lluniau clasurol gan Julia Donaldson ac Axel Schffler a gafodd ei enwebu am wobr Olivier. Bydd digon o ganeuon, chwerthin a hwyl ddychrynllyd i blant 3 oed a hŷn a'u hoedolion!

Mae La Cage Aux Folles, sy'n llawn nwyd ac emosiwn yn stori hynod ddoniol o gariad diamod a gwerthoedd teuluol. Bydd y sioe gerdd lwyddiannus hon yn y New Theatre rhwng dydd Llun 30 Ionawr a dydd Sadwrn 4 Chwefror, ac yn cynnwys caneuon gwych fel The Best of Times, Song on the Sand ac I Am What I Am.

Caiff drama lys gyffrous The Verdict ei pherfformio yng Nghaerdydd rhwng dydd Mawrth 7 a dydd Sadwrn 11 Chwefror. Mae'n seiliedig ar y nofel bwerus sy'n boblogaidd yn fyd-eang a ysbrydolodd ffilm a gafodd ei henwebu am sawl gwobr Academy, ac mae'r addasiad ar gyfer y llwyfan yn cynnwys Clive Mantle (Game of Thrones, The Vicar of Dibley) a Jack Shepherd (Wycliffe).

Wedi'i ysbrydoli gan yr albymau a werthodd filiynau o'r un enw, mae Dreamboats and Petticoats yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng dydd Llun 13 a dydd Sadwrn 18 Chwefror. Mae'r sioe hon a oedd yn hynod lwyddiannus yn y West End yn cynnwys rhai o ganeuon gorau'r oes roc a rôl, gan Roy Orbison, Eddie Cochran, Billy Fury a llawer mwy.

Stori o drachwant, balchder a phŵer cyfeillgarwch yw Fantastic Mr Fox sy'n cynnwys hwyl gwerth chweil i'r teulu. Bydd y cynhyrchiad blaenllaw hwn ar gyfer dathliad Roald Dahl 100 yn sleifio i mewn i'r New Theatre rhwng dydd Mawrth 21 a dydd Sadwrn 25 Chwefror, gan addo gwledd theatrig o gerddoriaeth a chaneuon byw, sy'n ddelfrydol ar gyfer y teulu cyfan dros hanner tymor.

Ray Quinn (X Factor), Roxanne Pallett (Emmerdale) a Ruth Madoc (Hi-De-Hi!) sy'n arwain cast enwog yn The Wedding Singer. Cynhelir parti gorau'r flwyddyn rhwng dydd Llun 27 Chwefror a dydd Sadwrn 4 Mawrth, a bydd yn llawn caneuon sy'n cadw at hwyl ac egni'r ffilm lwyddiannus yn cynnwys Adam Sandler.

Ar ôl cyfnod hynod lwyddiannus yn 2014, mae Evita yn barod i gyffroi cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd unwaith eto. Mae'r sioe ysblennydd hon sy'n adrodd stori Eva Peron yn dod i'r New Theatre rhwng dydd Llun 20 a dydd Sadwrn 25 Mawrth. Mae'r sioe gerdd ysblennydd hon yn cynnwys rhai o'r caneuon mwyaf adnabyddus ym myd theatr gerdd, gan gynnwys Don’t Cry For Me Argentina, On This Night a Thousand Stars ac Another Suitcase in Another Hall.

Peidiwch â cholli Dirty Dancing, y profiad byw gorau, rhwng dydd Llun 27 Mawrth a dydd Sadwrn 1 Ebrill. Mae stori glasurol Baby a Johnny sy'n llawn nwyd a rhamant, cerddoriaeth gyffrous a dawnsio anhygoel, yn well nag erioed o'r blaen yn y cynhyrchiad newydd sbon hynod lwyddiannus hwn.

Bydd A Judgement yn Stone a ystyrir yn un o weithiau gorau Ruth Rendell, yn dod i'r New Theatr rhwng dydd Mawrth 4 a dydd Sadwrn 8 Ebrill. Mae plot gwych Rendell yn cynnwys llofruddiaeth, brad ac anobaith, ac yn dangos y Frenhines Trosedd Seicolegol ar ei gorau.

Peidiwch â cholli The Play That Goes Wrong rhwng dydd Mawrth 11 a dydd Sadwrn 15 Ebrill, lle mae popeth a allai fynd o'i le... yn mynd o'i le! Mae'r sioe gomedi hon a oedd yn hynod lwyddiannus yn y West End, ac a gafodd gymeradwyaeth gan bobl fel Joanna Lumley a Peter Kay, yn siŵr o wneud i chi chwerthin lond bol!

Gadewch i Northern Ballet eich hudo gyda'r ballet gwreiddiol, Casanova. Bydd yn y New Theatre rhwng dydd Mawrth 25 a dydd Sadwrn 29 Ebrill, ac mae'n stori mor arbennig, ni fyddwch yn credu ei bod yn wir. Bydd y sioe drawiadol o ddirywiaeth y 18ed Ganrif yn anfon ias i lawr eich cefn ac yn boddi eich synhwyrau.

Mae'r sioe gerdd sy'n hynod lwyddiannus yn fyd-eang, Million Dollar Quartet sydd wedi'i hysbrydoli gan y sesiwn recordio enwog a ddaeth ag Elvis Presley, Johnny Cash, Jerry Lee Lewis a Carl Perkins ynghyd, yn dod i Gaerdydd! Dyma stori wir noson fythgofiadwy yn hanes roc a rôl a gaiff ei hadrodd rhwng dydd Mawrth 2 a dydd Sadwrn 6 Mai.

Mae'r perfformiadau a gaiff eu dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain fel a ganlyn: Peter Pan (Dydd Sul 8 Ionawr 1.00pm); Fantastic Mr Fox (Dydd Sadwrn 25 Chwefror 11.00am)

Bydd y perfformiadau canlynol yn cynnwys isdeitlau: Little Shop of Horrors (Dydd Sadwrn 8 Hydref 2.30pm); The Rocky Horror Show (Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 5.30pm); Peter Pan (Dydd Iau 3 Ionawr 1.30pm / Dydd Sadwrn 7 Ionawr 2.30pm); The Verdict (Dydd Iau 9 Chwefror 2.30pm); The Wedding Singer (Dydd Sadwrn 4 Mawrth 4.00pm); Evita (Dydd Sadwrn 25 Mawrth 2.30pm)

Bydd y perfformiadau canlynol yn cynnwys Disgrifiad Sain byw: Breakfast at Tiffany’s (Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 2.30pm); A Christmas Carol (Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2.30pm); Peter Pan (Dydd Iau 5 Ionawr 7.00pm / Dydd Sul 8 Ionawr 5.00pm); A Judgement in Stone (Dydd Sadwrn 8 Ebrill 2.30pm)
Mae'r tocynnau ar gyfer pob un o'r sioeau hyn ar gael o Swyddfa Docynnau'r New Theatre ar Gaerdydd
(029) 2087 8889 neu ar-lein yn www.newtheatrecardiff.co.uk (Codir Tâl Gwasanaeth Tocynnau ar
archebion- eithriadau’n gymwys)

Cardiff New Theatre  
web site
: http://www.newtheatrecardiff.co.uk/
Jafar Iqbal
e-mail: mailto:jafar.iqbal@cardiff.gov.uk
Wednesday, September 7, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk