We thought you might like to know what Theatr Iolo have been up to recently and keep you up to date with all of the projects and productions we've got planned over the next few months During the summer months we saw the culmination of our year 1 Platfform artist residencies with three brilliant sharings at the partner venues. We took the ever popular Out of the Blue (our co-production with Sarah Argent) to Assitej's On the Edge Artistic Gathering in Birmingham) Boxy & Sticky, our mischievous warm hearted piece for 3 - 5 year olds and had the honour of being part of Theatr Clwyd's 40th birthday celebrations at their Family Arts Festival (Where we also programmed the amazing TETRIS by Erik Kaiel ) We were also proud to be associated with the Unicorn Theatre, London on Baby Show, a new play for babies by Sarah Argent and Kevin Lewis that opened in August in London. As we move into autumn we hope audiences of all ages will find something across our three strands of activity, Create, Curate and Cultivate, to stir their imaginations. We've called work that we make as a company 'Create' and this Christmas we're again teaming up with Sherman Theatre to bring another classic Hans Christian Andersen tale to young audiences across Wales. This year, award winning playwright Alun Saunders has adapted The Emperor's New Clothes / Dillad Newydd yr Ymerawdwr for the stage in what will be a magical, song-filled and intimate show for those aged 3 - 6. Theatr Iolo’s Artistic Director Kevin Lewis will be directing and had this to say: "Next year Theatr Iolo will be celebrating 30 years of specialising in making work for children, and as a director I am still incredibly excited about the endless possibilities theatre offers young children to explore their rich imaginations. One of the key impetuses in theatre is dressing up and most children share this love of trying clothes on, pretending to be someone else and experimenting with character through play. This will be my starting point when I explore Alun's adaptation of this much-loved Hans Christian Andersen tale. In the same way as Shakespeare used fairy- tales and age old stories, Hans Christian Andersen saw in this timeless cautionary tale a story that would delight, amuse and resonate with all children. I am very much looking forward to working with Alun, Sherman Theatre and the rest of the creative team to give young audiences a magical theatre experience this Christmas that hopefully sparks their imaginations." Tour dates for the Emperor's New Clothes/ Dillad Newydd yr Ymerawdwr can be found at www.theatriolo.com and tickets for the show at Sherman Theatre can be bought from www.shermantheatre.co.uk We're also thrilled to be working with spoken-word artist, actor, playwright and novelist Steven Camden, aka Polarbear, on a new show called Dark Corners for ages 12+. This co-commission between Battersea Arts Centre and Theatr Iolo will have its first outing as scratch performances on three nights at Battersea Arts Centre at the end of October. It's Pay What You Can so a perfect opportunity to catch this brilliant artist with a rapidly growing reputation. Tickets here: https://www.bac.org.uk/content/42278/whats_on/whats_on/shows/dark_corners_scratch Our ‘Curate’ programme aims to bring the best of theatre to audiences in Wales and this year we’ve also been able to invest in commissioning artists under this programme . From John Carey- Williams our Executive Producer: Christopher Brett Bailey’s work is raw and visceral, an exciting blend of spoken-word and theatrical performance which shook me to my core when I first saw it. We had such fantastic feedback from audiences after presenting This Is How We Die last year that we’re delighted to be presenting his work again, and to have invested in its creation. After last year’s provocative and captivating The Ted Bundy Project, Greg Wohead’s Comeback Special will make the perfect double-bill. These are artists making a splash on the scene and we’re thrilled to be their home in Wales" You can catch this double bill at Chapter Arts Centre on the following dates on what will be their only Welsh tour dates: Comeback Special by Greg Wohead 31 Oct & 1 Nov, 8pm Kissing then Shotgun Goodnight - by Christopher Brett Bailey, Nov 2 & 3, 8pm www.chapter.org Our artist development programme Platfform comes under our 'Cultivate' strand and here's a word from our Associate Producer, Olivia Harris on what's happening: "We are delighted to be welcoming Catherine Dyson and Tinshed Theatre Company to the Platfform programme in its second year. Catherine and Justin and George from Tinshed are brilliant creators and we can’t wait to collaborate with them and their venue partners, The Riverfront in Newport and The Welfare in Ystradgynlais on exploring ideas for theatre made with and for young people and their grown-ups. If you’d like to be kept up-to-date with the programme, you can find us online @iolo_platfform and our blog http://platfform.cymru A big part of what we want to achieve with Platfform is supporting emerging artists to experiment with creating theatre for children, young people and their families so we’re really excited to be collaborating with Sherman Theatre on their brilliant TAITH writer development programme. TAITH Platfform asked writers to submit a ten-minute play for 10-12 year olds. If you’re coming to the sharing at Sherman on 27th October you’ll be seeing the three short plays that have been selected from the submissions of our fantastic group of writers. These plays have been developed and workshopped with young people, peers and industry specialists. " TAITH will be part of the UK wide Family Arts Festival that takes place throughout October. You can find out more about TAITH and get tickets here: www.shermantheatre.co.uk We hope there's something here for everyone this season and if you want to get a bit more involved we're looking for new trustees to join our board to help shape our future. Go to www.theatriolo.com for more details. If you have any questions or want to send us feedback on any of our work please do get in touch and keep a look out for more projects in the pipeline. You can contact us at hello@theatriolo.com and we'd love to hear from you on Twitter, Facebook or instagram. Hoffem adael i chi wybod beth mae Theatr Iolo wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar a rhannu rywfaint o wybodaeth am y prosiectau a’r cynhyrchiadau sydd ar y gweill dros y misoedd nesaf. Yn ystod misoedd yr haf, daeth blwyddyn gyntaf ein cynllun preswyl i artistiaid, Platfform, i uchafbwynt â thri chyflwyniad gwych yn ein lleoliadau partner. Aethom â'r bythol boblogaidd Out of the Blue (ein cyd-gynhyrchiad gyda Sarah Argent) i Gyfarfod Artistig Assitej, On the Edge, yn Birmingham. Cafodd Boxy & Sticky, ein sioe dwymgalon a direidus i blant 3-5 oed, y fraint o fod yn rhan o ddathliadau pen-blwydd 40 oed Theatr Clwyd, yn eu gŵyl nhw o gelfyddyd i’r teulu cyfan ( lle yn ogystal, fe gawsom rhaglennu yr anhygoel TETRIS gan Eri Kaiel) Roeddem yn falch iawn o gael ymwneud â Unicorn Theatre, Llundain, gyda'r prosiect Show Baby, drama newydd i fabanod gan Sarah Argent a Kevin Lewis a agorodd yn Llundain ym mis Awst. Wrth i ni symud at yr hydref, rydym yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd o bob oed yn dod o hyd i rywbeth at eu dant - ac i danio'u dychymyg - yn un o'n tri maes craidd, Creu, Curadu a Meithrin. Mae'r gwaith a grëwn fel cwmni yn dod dan y pennawd 'Creu' ac, y Nadolig hwn, rydym yn ymuno unwaith eto â Theatr y Sherman i gyflwyno un arall o straeon clasurol Hans Christian Andersen i gynulleidfaoedd ifainc ledled Cymru. Eleni, mae'r dramodydd gwobrwyol, Alun Saunders, wedi addasu Dillad Newydd yr Ymerawdwr ar gyfer y llwyfan ac fe fydd y cyflwyniad yn sioe hudolus a cherddorol i blant 3 - 6 oed. Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Kevin Lewis, fydd yn cyfarwyddo. Dyma oedd ganddo fe i'w ddweud: "Y flwyddyn nesaf, bydd Theatr Iolo yn dathlu 30 mlynedd o greu gwaith i blant ac fel cyfarwyddwr dw i'n dal yn cael fy nghyffroi’n lân gan y posibiliadau diddiwedd y mae'r theatr yn eu cynnig i blant ifanc i archwilio eu dychymyg cyfoethog. Un o sbardunau pwysicaf y theatr yw’r cyfle i wisgo i fyny ac mae'r rhan fwyaf o blant yn rhannu'r mwynhad hwn o wisgo dillad gwahanol, esgus bod yn rhywun arall ac arbrofi â chymeriadau eraill drwy chwarae. Hwn fydd y man cychwyn i mi wrth fynd ati i lwyfannu addasiad Alun o stori enwog Hans Christian Andersen. Yn yr un modd ag y defnyddiodd Shakespeare chwedlau a straeon tylwyth teg, yn y stori rybuddiol ac oesol hon gwelodd Hans Christian Andersen ddeunydd a fyddai'n plesio, yn difyrru ac yn herio pob plentyn. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Alun, Theatr y Sherman a gweddill y tîm creadigol i greu profiad theatr hudolus y Nadolig hwn - un a fydd, gobeithio, yn tanio dychymyg ein cynulleidfaoedd ifainc." Fe welwch chi ddyddiadau taith Dillad Newydd yr Ymerawdwr ar www.theatriolo.com ac fe allwch chi brynu tocynnau ar gyfer y sioe yn Theatr y Sherman o www.shermantheatre.co.uk. Rydym wrth ein bodd hefyd yn cael gweithio gyda'r artist llefaru, yr actor, y dramodydd a'r nofelydd, Steven Camden, a gaiff ei adnabod hefyd fel Polarbear, ar sioe newydd o'r enw Dark Corners i gynulleidfaoedd 12+ oed. Bydd y gwaith comisiwn hwn ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Battersea yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf fel perfformiad ar y gweill am dair noson yng Nghanolfan Gelfyddydau Battersea ddiwedd mis Hydref. Perfformiadau Talu Beth Fedrwch fydd y rhain – a chyfle perffaith felly i weld yr artist gwych hwn sydd yn prysur ennill enw da iddo'i hun. Mae tocynnau ar gael fan hyn: https://www.bac.org.uk/content/42278/whats_on/whats_on/shows/dark_corners_scratch Mae rhaglen 'Curadu' Theatr Iolo yn ceisio sicrhau bod cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael gweld y gweithiau theatr gorau ac eleni rydym wedi gallu buddsoddi mewn comisiynau i artistiaid yn rhan o'r rhaglen hon. Dyma John Carey-Williams, ein Cynhyrchydd Gweithredol: “Mae gwaith Christopher Brett Bailey yn amrwd ac angerddol, yn gymysgedd cyffrous o lefaru a pherfformio theatrig ac fe roddodd ysgytwad go iawn i mi pan welais ef am y tro cyntaf. Cawsom adborth gwych gan ein cynulleidfaoedd ar ôl cyflwyno This Is How We Die y llynedd ac rydym yn falch o fod wedi gallu buddsoddi yng nghreadigaeth y darn - ac o allu ei gyflwyno eto eleni. Ac ar ôl llwyddiant pryfoclyd The Ted Bundy Project y llynedd, bydd Comeback Special Greg Wohead yn berffaith ar gyfer cyflwyniad dwbwl arbennig. Mae'r rhain yn artistiaid sy'n creu argraff ar y sîn ac rydym wrth ein bodd yn cael cynnig cartref iddynt yng Nghymru.” Gallwch ddal y rhaglen ddwbl hon yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar y dyddiadau canlynol - unig ddyddiadau'r daith yng Nghymru: Comeback Special gan Greg Wohead 31 Hydref & 1 Tachwedd, 8pm Kissing then Shotgun Goodnight - gan Christopher Brett Bailey, Tachwedd 2 & 3, 8pm www.chapter.org Mae ein rhaglen datblygu artistiaid, Platfform, yn rhan o adran 'Meithrin' Theatr Iolo a dyma air gan ein Cynhyrchydd Cysylltiol, Olivia Harris, am yr hyn sy'n digwydd: "Rydym wrth ein bodd yn cael croesawu Catherine Dyson a Chwmni Theatr Tinshed i raglen Platfform yn ystod ei hail flwyddyn. Mae Catherine a Justin a George o Tinshed yn artistiaid o’r radd flaenaf ac ry'n ni'n gyffro i gyd wrth edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw a'u lleoliadau partner, Glan-yr-Afon yng Nghasnewydd a Neuadd Les Ystradgynlais. Byddwn yn archwilio syniadau ar gyfer theatr sydd yn cael ei chreu gan ac ar gyfer pobl ifainc ac oedolion. Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen hon, gallwch ddod o hyd i ni ar-lein @iolo_platfform ac ar ein blog http://platfform.cymru. Rhan fawr o'n nod gyda Platfform yw cefnogi artistiaid newydd fel y gallant arbrofi wrth greu theatr ar gyfer plant, pobl ifainc a'u teuluoedd felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Theatr y Sherman ar eu rhaglen ardderchog ar gyfer datblygu awduron, TAITH. Gofynnwyd i awduron gyflwyno drama deng munud ar gyfer cynulleidfa 10-12 oed. Os dewch chi i'r cyflwyniad yn y Sherman ar 27 Hydref fe welwch chi'r tair drama fer a ddewiswyd o blith y cyflwyniadau gan ein grŵp gwych o awduron. Mae'r dramâu wedi cael eu datblygu drwy gyfrwng gweithdai gyda phobl ifainc, eu cyfoedion ac arbenigwyr o'r diwydiant proffesiynol." Bydd TAITH yn rhan o ŵyl Brydeinig Celfyddydau i'r Teulu Cyfan a gynhelir drwy gydol mis Hydref. Gallwch gael mwy o wybodaeth am TAITH a phrynu tocynnau fan hyn: www.shermantheatre.co.uk Rydym yn gobeithio y bydd yna rywbeth at ddant pawb y tymor hwn ac os ydych chi'n awyddus i chwarae rhan lawnach yn ein gwaith, rydym yn chwilio ar hyn o bryd am ymddiriedolwyr newydd i ymuno â'n bwrdd ac i helpu i lunio ein dyfodol. Ewch i www.theatriolo.com i gael mwy o fanylion. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi anfon adborth atom am unrhyw agwedd ar ein gwaith mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni - cadwch lygad ar agor hefyd am fwy o brosiectau ar y gweill! Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio hello@theatriolo.com a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych hefyd ar twitter, Facebook neu Instagram. |
| Theatr Iolo web site: http://theatriolo.us2.list-manage1.com/track/click?u=9da7037c384e41a06a38ddb16&id=6bd375622c&e=56869a2839 |
| e-mail: http://theatriolo |
| Thursday, September 29, 2016 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
