Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Wales Millennium Centre is making cultural waves as it releaseswhole season of sensational sounds from their iconic building in the Bay     

Wales Millennium Centre is making cultural waves as it releaseswhole season of sensational sounds from their iconic building in the Bay Less than six months since Festival of Voice, the Centre is launching a season of live music hosted in their newly refurbished cabaret style space - truly keeping the spirit of their inaugural city wide festival alive. A creatively engineered programme of jazz, contemporary music and entertainment will further unlock Cardiff’s access to international vocalists and performers.

“The response from the ten day festival in June was incredible and we recognised an appetite to submerge the city in an enriching and eclectic season of entertainment,” says Graeme Farrow – Artistic Director of Wales Millennium Centre. “We brought the likes of John Cale, Van Morrison and Laura Mvula to venues across our city and we are delighted to launch our own in-house programme with the sensational sultry tones of Ala.Ni - an incredibly talented performer who supported Rufus Wainwright during our Festival.”

Recognised as one of Wales’ top visitor attractions, the Centre has a vision to deliver inspirational experiences to new and existing audiences, showcasing the talents of Wales and bringing world class quality entertainment to the stage. This new programme is sure to offer the city something unique and is a great way to bridge the gap between each biennial Festival of Voice.

Every Friday and Saturday night throughout November and December, the Centre’s bar and dining area will be transformed for each performance – recreating a slice of Soho and New York on our doorstep. The programme, which runs Nov-Dec 2016 and returns Feb-Apr 2017 includes performances from La Voix, Hello Cabaret, The Tootsie Rollers and winner of the Yamaha Jazz Scholars Prize from Royal Welsh College of Music and Drama: Huw V Williams.

The Centre’s Managing Director Mathew Milsom says “We have incredible ambition here at the Centre and feel passionately about giving both new and existing audiences access to unique, quality art and culture. Our live music programme will serve up a new dynamic in entertainment which we know there is demand for and we look forward to welcoming a new wave of visitors as well as familiar friends into this new space.”

To book tickets visit the Centre’s website www.wmc.org.uk/WhatsOn/livemusic/
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn creu cynnwrf diwylliannol wrth iddi gyhoeddi tymor llawn o synau godidog o'i hadeilad eiconig yn y Bae.



Lai na chwe mis ers Gŵyl y Llais, mae'r Ganolfan yn lansio tymor o gerddoriaeth fyw a fydd yn cael ei gynnal yn ein gofod cabaret newydd a hynny er mwyn cadw ysbryd yr ŵyl gyntaf honno, a gafodd ei chynnal ledled y ddinas, yn fyw. Bydd rhaglen greadigol o gerddoriaeth jazz a cherddoriaeth gyfoes, yn ogystal ag adloniant yn agor drysau Caerdydd ymhellach i berfformwyr a chantorion rhyngwladol.

"Roedd yr ymateb i'r ŵyl ddeg diwrnod ym mis Mehefin yn anhygoel, ac rydyn ni wedi gweld y cyfle sy'n bodoli i drochi'r ddinas mewn tymor o adloniant cyfoethog ac eclectig," meddai Graeme Farrow - Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru. "Fe lwyddon ni i ddod ag artistiaid fel John Cale, Van Morrison a Laura Mvula i leoliadau ar draws y ddinas ac rydyn ni'n falch iawn o fod yn lansio ein rhaglen fewnol gyda llais clòs anhygoel Ala.Ni – perfformwraig hynod dalentog a fu'n cefnogi Rufus Wainwright yn ystod Gŵyl y Llais."

Mae gan y Ganolfan, sy'n un o brif atyniadau ymwelwyr Cymru, weledigaeth i gynnig profiadau ysbrydoledig i gynulleidfaoedd hen a newydd, gan arddangos talentau Cymru a dod ag adloniant o safon fyd-eang i'r llwyfan. Mae'r rhaglen newydd hon yn siŵr o gynnig rhywbeth unigryw i'r brifddinas ac mae'n ffordd wych o bontio'r bwlch rhwng Gwyliau'r Llais sy'n cael eu cynnal bob dwy flynedd.

Bob nos Wener a nos Sadwrn yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, bydd gofod bwyta a bar y Ganolfan yn cael ei drawsnewid ar gyfer pob perfformiad – ac yn dod â blas o Soho ac Efrog Newydd i lwyfan y Ganolfan. Mae'r rhaglen, a fydd yn cael ei chynnal rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr 2016 a mis Chwefror ac Ebrill 2017 yn cynnwys perfformiadau gan La Voix, Hello Cabaret, The Tootsie Rollers ac enillydd gwobr Ysgolheigion Jazz Yamaha o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: Huw V. Williams.

Meddai Mathew Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan: "Mae gennym uchelgais anhygoel yma yn y Ganolfan ac rydyn ni'n teimlo'n angerddol dros gyflwyno celfyddyd a diwylliant safonol ac unigryw i gynulleidfaoedd hen a newydd. Bydd ein rhaglen o gerddoriaeth fyw yn creu deinameg newydd ym maes adloniant ac rydyn ni'n gwybod bod galw am hynny felly rydyn ni'n edrych ymlaen i groesawu ystod newydd o ymwelwyr yn ogystal â hen gyfeillion i'r lle newydd yma."
Er mwyn archebu tocynnau, ewch i: http://www.wmc.org.uk/WhatsOn/livemusic/?lang=cy-GB
Wales Millennium Centre  
web site
: www.wmc.org.uk
Branwen Jones
e-mail: Branwen.Jones@wmc.org.uk
Friday, November 4, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk