Not content with the eight shows that went on sale in October, the New Theatre has announced four more productions for 2017. It’s an eclectic mix of musicals, stage adaptations and a classic play, providing something for everyone. Shaun Williamson (EastEnders, Extras), Sue Holderness (Only Fools and Horses) and Susie Amy (Footballers’ Wives) lead an all-star cast in Ray Cooney’s Out Of Order, which comes to the New from Tuesday 16 — Saturday May 2017. Things go disastrously wrong in this enjoyable farce when a Government Junior Minister plans to spend the evening with one of the Opposition’s typists in the Westminster Hotel, with hilarious results! Orbit Theatre, Wales no.1 amateur theatre company, brings Madagascar — A Musical Adventure to Cardiff, based on the smash DreamWorks animated film. Alex the Lion, Marty the Zebra, Melman the Giraffe, Gloria the hip hip Hippo and those hilarious plotting penguins will all be there from Wednesday 31 May — Sunday 4 June 2017, ready to embark on a journey to Madagascar. With adventure galore and an upbeat score, the show will give the audience no choice but to “move it, move it!” A brand new production of The Graduate comes to Cardiff from Monday 19 — Saturday 24 June 2017, based on Charles Webb’s much-loved novella. Telling the tale of Benjamin Braddock who, while pondering his future after graduation, has an affair with the older Mrs Robinson, this classic story also inspired the Oscar-winning movie starring Dustin Hoffman. It’s an exciting stage adaptation full of romance and nostalgia, one not to be missed. On its 30th anniversary Willy Russell’s Olivier Award-winning comedy Shirley Valentine makes a stop in Cardiff from Tuesday 27 June — Saturday 1 July 2017. After acclaimed turns in Calamity Jane and Tell Me on a Sunday Jodie Prenger returns to the New in the title role, as the bored housewife who sees herself and the world very differently when she sneaks away on a two-week holiday to Greece. It’s the first major revival of this national treasure, which won the 1988 Olivier Award for Best Comedy. For further details about the shows or to book tickets visit www.newtheatrecardiff.co.uk or call the Box Office on (029) 2087 8889. *Bookings are subject to a Ticketing Service Charge (exemptions apply). Out of Order Tuesday 16 – Saturday 20 May 2017 Evenings 7.30pm; Thursday & Saturday Matinees 2.30pm Tickets: £11.00 - £32.50 Orbit Theatre: Madagascar Wednesday 31 May – Sunday 4 June 2017 Wednesday 1.00pm; Thursday – Saturday 1.00pm & 6.00pm; Sunday 1.00pm Tickets: £10.50 - £22.50 The Graduate Monday 19 – Saturday 24 June 2017 Evenings 7.30pm; Thursday & Saturday Matinees 2.30pm Tickets: £12.00 - £33.00 Shirley Valentine Tuesday 27 – Saturday 1 July 2017 Evenings 7.30pm; Thursday & Saturday Matinees 2.30pm Tickets: £10.50 - £31.00 Box Office: 029 2087 8889 Book Online: www.newtheatrecardiff.co.uk For further details, electronic images and interviews contact: Jafar Iqbal / Ed Newsome Marketing Department Tel: 029 2087 8797 / 029 2087 8887 E– mail: jafar.iqbal@cardiff.gov.uk / edward.newsome@cardiff.gov.uk Os nad oedd yr wyth sioe aeth ar werth ym mis Hydref yn ddigon, mae’r Theatr Newydd wedi cyhoeddi fod pedwar cynhyrchiad arall ar gyfer 2017. Mae yna amrywiaeth o sioeau cerdd, addasiadau llwyfan a drama glasurol, gan gynnig rhywbeth i bawb. Shaun Williamson (EastEnders, Extras), Sue Holderness (Only Fools and Horses) a Susie Amy (Footballers’ Wives) sy’n arwain cast adnabyddus yn Out Of Order gan Ray Cooney, sy’n dod i’r Theatr Newydd o Ddydd Mawrth 16 – Dydd Sadwrn 20 Mai 2017. Mae pethau’n mynd o chwith yn y ffars hwyliog hon pan fo Is-weinidog yn y Llywodraeth yn cynllunio i dreulio nos gydag un o deipyddion yr Wrthblaid mewn gwesty yn San Steffan, gyda chanlyniadau digrif dros ben! Mae Orbit Theatre, cwmni theatr amatur blaenaf Cymru, yn dod â Madagascar – A Musical Adventure i Gaerdydd, sioe’n seiliedig ar y ffilm wedi ei hanimeiddio adnabyddus gan Dreamworks. Bydd Alex y Llew, Marty’r Sebra, Melman y Jiráff, Gloria yr Hipo a’r pengwiniaid cynllwyngar doniol i gyd yno o Ddydd Mercher 31 Mai – Dydd Sul 4 Mehefin 2017. Gydag antur ym mhob man a sgôr cerddorol sy’n codi’r galon, bydd y sioe yn rhoi dim dewis i’r gynulleidfa ond i’w “symud hi”! Mae cynhyrchiad newydd sbon o The Graduate yn dod i Gaerdydd o Ddydd Llun 19 – Dydd Sadwrn 24 Mehefin 2017, wedi ei seilio ar nofel fer adnabyddus Charles Webb. Mae’n adrodd hanes Benjamin Braddock sydd, tra’n pendroni ynghylch ei ddyfodol wedi graddio, yn cael affêr gyda’r Mrs Robinson hŷn, stori glasurol a ysgogodd y ffilm Oscar gyda Dustin Hoffman. Mae’n gynhyrchiad llwyfan cyffrous yn llawn rhamant a hiraeth y byddech yn ffôl i’w golli. Ar ei phenblwydd yn 30 mae’r gomedi Shiley Valentine gan Willy Russell, enillodd wobr Olivier, yn glanio yng Nghaerdydd o Ddydd Mawrth 27 Mehefin – Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf. Yn dilyn ymddangosiadau llwyddiannus yn Calamity Jane a Tell me On a Sunday, mae Jodie Prenger yn dychwelyd i’r Theatr Newydd fel y wraig tŷ sydd wedi diflasu ac yn gweld gweddnewidiad yn ei bywyd wrth iddi ddianc am bythefnos o wyliau i haul Gwlad Groeg. Dyma’r cynhyrchiad mawr cyntaf o’r trysor cenedlaethol hwn ers i ni ei weld gyntaf ac a enillodd wobr y Gomedi Orau yng Ngwobrau Olivier 1988. Am fwy o fanylion am y sioeau, neu er mwyn prynu tocynnau, ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. *Codir Tâl Tocynnau ar archebion (gyda rhai eithriadau). Out of Order Dydd Mawrth 16 – Dydd Sadwrn 20 Mai 2017 Perfformiadau gyda’r nos 7.30pm; perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn am 2.30pm Tocynnau: £11.00 - £32.50 Orbit Theatre: Madagascar Dydd Mercher 31 Mai – Dydd Sul 4 Mehefin 2017 Dydd Mercher 1.00pm; Dydd Iau – Dydd Sadwrn 1.00pm a 6.00pm; Dydd Sul 1.00pm Tocynnau: £10.50 - £22.50 The Graduate Dydd Llun 19 - Dydd Sadwrn 24 Mehefin 2017 Perfformiadau gyda’r nos 7.30pm; perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn am 2.30pm Tocynnau: £12.00 - £33.00 Shirley Valentine Dydd Mawrth 27 – Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf 2017 Perfformiadau gyda’r nos 7.30pm; perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn am 2.30pm Tocynnau: £10.50 - £31.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebwch ar-lein ar http://welsh.newtheatrecardiff.co.uk/ I gael rhagor o wybodaeth, lluniau electronig a chyfweliadau, cysylltwch ag: Jafar Iqbal / Ed Newsome yn yr Adran Farchnata Ffôn: 029 2087 8797 / 029 2087 8887 E-bost: jafar.iqbal@caerdydd.gov.uk / edward.newsome@caerdydd.gov.uk |
| New Theatre Cardiff web site: http://www.newtheatrecardiff.co.uk/ |
| re-30W8-CN1P-4F6L59-C04HJ@brothermailer1.com e-mail: NewTheatre@brothermailer1.com |
| Tuesday, November 22, 2016 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Not content with the eight shows that went on sale in October, the New Theatre has announced four more productions for 2017. It’s an eclectic mix of musicals, stage adaptations and a classic play, providing something for everyone.