Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Newyddion – Mai 2017     

Newyddion – Mai 2017
NEWYDDION CASTIO - JIMMY OSMOND I YMDDANGOS YN GREASE

Bydd Jimmy Osmond yn ymddangos yn Grease fel Teen Angel, ar ôl chwarae’r rôl yn wreiddiol yn y West End. Mae’n ymuno â Tom Parker (The Wanted) sy’n perfformio mewn sioe gerdd am y tro cyntaf erioed fel Danny Zuko, Danielle Hope (enillydd Over the Rainbow) sy’n chwarae Sandy a Louisa Lytton (Strictly Come Dancing, EastEnders) fel Rizzo.

Bydd Grease yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 17 a 29 Gorffennaf 2017


NEWYDDION CASTIO - DARIUS CAMPBELL YN YMUNO Â SHERIDAN SMITH YN FUNNY GIRL

Bydd Darius Campbell yn dychwelyd i’w rôl fel Nick Arnstein, gan ymuno â Sheridan Smith yn Funny Girl. Daw Funny Girl i Gaerdydd ym mis Gorffennaf, ar ôl gwefreiddio cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd yn y West End. Mae’r sioe gerdd eiconig yma’n adrodd hanes Fanny Brice - sy'n cyrraedd yr uchelfannau gyda'i llais rhagorol a'i gallu naturiol i wneud i bobl chwerthin o'i hamser fel cantores yn neuadd gerddoriaeth Brooklyn i seren lachar Broadway.

Bydd Funny Girl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 4 ac 8 Gorffennaf 2017


SIOE NEWYDD - ROB BRYDON YN CYHOEDDI SIOEAU YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU

Byddwn ni’n croesawu un o gomediwyr mwyaf amryddawn Cymru, Rob Brydon yn ôl i’r Ganolfan flwyddyn nesaf ar gyfer ei daith stand-yp gyntaf ers 2009.

Mae'n fwyaf adnabyddus am ei berfformiadau mewn sioeau teledu fel Gavin and Stacey, Would I Lie To You? a The Trip. Perfformiodd Rob ochr yn ochr â Kenneth Branagh yn gynharach eleni yn y cynhyrchiad West End o The Painkiller.

Bydd Rob Brydon: I Am Standing Up yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 8 a 10 Hydref 2018



SIOE NEWYDD – SUNSET BOULEVARD I YMWELD Â’R GANOLFAN

Daw Sunset Boulevard, sef un o gampweithiau mwyaf adnabyddus Andrew Lloyd Webber gyda Ria Jones fel Norma Desmond i’r Ganolfan flwyddyn nesaf.
Mewn plasty crand ar Sunset Boulevard, mae seren aflwyddiannus y ffilmiau mud, Norma Desmond yn byw mewn ffantasi lwyr. Gyda’r sgriptiwr tlawd, Joe Gillis yn ceisio dianc rhag casglwyr dyledion daw lwc i’w fyd wrth iddo daro ar fywyd unig Desmond. Wedi’i berswadio i weithio ar ‘gampwaith’ Norma, sgript ffilm y mae hi’n credu y daw â llwyddiant iddi, caiff ei demtio gan ei bywyd moethus. Daw Joe yn gaeth i’w ffordd o fyw mewn byd clawstroffobig cyn disgyn mewn cariad â dynes hardd arall sy’n ei arwain at geisio torri’n rhydd - gyda chanlyniadau dramatig.
Bydd Sunset Boulevard yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 26 Chwefror a 3 Mawrth 2018
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

NEWYDDION CASTIO – MISS SAIGON

Mae’n bleser gan Cameron Mackintosh gyhoeddi'r castio terfynol ar gyfer taith y DU ac Iwerddon o’i gynhyrchiad poblogaidd o sioe gerdd enwog Boublil a Schönberg Miss Saigon. Mae’r cast yn cynnwys Red Concepcion fel The Engineer, Sooha Kim fel Kim, Ashley Gilmour fel Chris, Zoë Doano fel Ellen, Gerald Santos fel Thuy, Ryan O’Gorman fel Joh a NaNa-Young Jeon fel Gigi.

Bydd Miss Saigon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 29 Tachwedd 2017 a 6 Ionawr 2018

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

NEWYDDION CASTIO – CRAZY FOR YOU

Bydd Charlotte Wakefield yn chwarae’r rhan Polly yn Crazy For You, gan ymuno â chast sy’n cynnwys Tom Chambers fel Bobby a Caroline Flack fel Irene. Perfformiodd yn y West End am y tro cyntaf fel Wendla yn Spring Awakening, lle cafodd ei henwebu am Wobr Olivier a chwarae Maria yn y cynhyrchiad hynod boblogaidd The Sound of Music yn Regent’s Park Open Air Theatre gan dderbyn enwebiadau am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd yng Ngwobrau Olivier a’r Evening Standard.

Bydd Crazy For You yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 5 a 9 Medi 2017

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------


MILKSHAKE! LIVE YN YMWELD Â CHAERDYDD

Daw Milkshake! Live The Magic Story Book i Gaerdydd yr haf yma. Gyda pheth wmbredd o gymeriadau hoffus Milkshake! o Bob the Builder, Little Princess, Noddy, Wissper, Toyland Detective a Fireman Sam, bydd y sioe yma’n cael ei chyflwyno gan ddau o gyflwynwyr Milkshake! Olivia Birchenough a Derek Moran. Bydd llond gwlad o ddawnsio a chanu yn tywys y gynulleidfa drwy hoff straeon tylwyth teg y byd.

Bydd Milkshake! Live, The Magic Storybook yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 9 Gorffennaf 2017


YN YMWELD FIS NESAF: JANE EYRE

Mae’r ail-ddehongliad arloesol yma o gampwaith Charlotte Brontë yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng y National Theatre a Bristol Old Vic ac wedi’i gyfarwyddo gan Sally Cookson.

Mae’r clasur o stori yma sy’n dilyn bywyd cythryblus Jane yr un mor ysbrydoledig ag erioed. Dyma gynhyrchiad mentrus a deinamig sy’n dangos merch yn brwydro dros ryddid ar delerau ei hun. Mae’r arwres hwyliog Jane Eyre yn wynebu rhwystrau bywyd, anghyfiawnder tlodi ac yn cael ei bradychu’n chwerw cyn dewis dilyn ei chalon.
Canolfan Mileniwm Cymru  
web site
: www.yganolfan.org.uk
Elin Rees
e-mail: elin.rees@wmc.org.uk
Wednesday, May 24, 2017back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk