|
Bydd Theatr Taking Flight yn cychwyn yn fuan ar daith led led Cymru gyda chynhyrchiad arbennig iawn o The Tempest gan Shakespeare. |
Unwaith eto cawn weld sut mae Taking Flight wedi ymdrin ȃ’r cynhyrchiad gyda’i harddull unigryw o gyfuno cherddoriaeth byw a gwreiddiol Dan Lawrence (National Theatre Wales, Gagglebabble),gyda hiwmor a chomedi egniol yr actio a’r modd y gwelwn y gynulleidfa yn rhan atodol o’r profiad drwy gydol. Cawn hefyd weld sut mae’r cwmni yn plethu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Disgrifiad Clywedol i’r ddrama glasurol hwn. Mae hi’n sicr yn wledd o sioe ar eich cyfer!Mewn drama lle y cymylir y llinell rhwng rhith a realiti, fe wahoddir y gynulleidfa ar daith gyffrous i hwylio’r llong foethus, Y Remembrance, ag ymweld ȃ Stiwdio’r Ynysoedd lle gwelwn hud a lledrith y sgrîn fawr yn dod yn fyw. Gadewch i’r criw ofalu amdanoch ar eich taith i’r ynys anghofiedig. Gair gan y Cyfarwyddwr Artistig, Elise Davison: “Mae ein Tempest ni sydd wedi ei leoli mewn stiwdio ffilm, yn cynnig siawns arbennig i dalu gwrogaeth i’r sinema cynnar. Y mwyaf cyffrous yw ein ‘bwrdd foley’ sydd wedi ei ddatblygu ar Stiwdio’r Ynysoedd ble mae Prospero yn gyfarwyddwr. Mae ei fyd o hyd a lledrith theatrig yn wledd i chi’r cyhoedd sydd yn dathlu 10fed Penblwydd y teithiau tywys arbennig hyn. Ond yn anffodus nid yw’r daith yn rhedeg fel y dylai heddiw. Mae chwaer Prospero yn awr yn gyfarwyddwraig newydd ar y stiwdio Brave New World, sydd wedi ei ariannu yn drwm gan y cynhyrchydd Napoleon Alonso. Felly heddiw yw’r diwrnod mae Prospero wedi bod yn paratoi amdano. Rydych chi, y cyfranwyr lwcus yn mynd i weld sut mae cynlluniau Prospero am ddatblygu. Bydd y bobl a gymrodd ei stiwdios flynyddoedd yn gynharach yn hwylio dros y môr gyda’i gilydd – a heddiw bydd e’n codi’r Tempest. Bob blwyddyn wrth i ni ymladd y gwynt ar glaw, mae pobl yn dweud “fe ddyliech chi wneud y Tempest” felly y flwyddyn hon fe benderfynon ni ei gwneud. Roedd Haf 2016 yn un gwlyb iawn ac felly rydym yn gobeithio wrth gynhyrchu y storm o gynhyrchiad hwn y bydd duwiau’r tywydd yn edrych lawr arnom yn hael a rhoi bendith haf o heulwen braf. Ond os daw’r glaw ar y llaw arall, ymlaen a’r sioe fydd hi heb os nac oni bai mewn rhai o’r lleoliadau mwyaf prydferth yn y wlad, gan ein atgoffa o hyd am bŵerau grymus natur sy’n amhosib eu rhagweld” Dyddiadau Heblaw ei fod wedi ei nodi ger y dyddiad, dylid archebu drwy’r ddolen yma https://www.ticketsource.co.uk/taking-flight-theatre-company MEHEFIN Parc Thompson , Caerdydd (cyfarfod wrth y brif fynedfa ar Ffordd Romilly ) CF5 1FH Mehefin 8fed 12 a 6.30pm Mehefin 9fed 6.30pm Mehefin 10fed 2pm a 6.30pm Chapter.org 02920 304400 - Y Pafiliwn, Langland, Abertawe SA3 4SF Mehefin 11eg 2pm Ysgol Bryntirion, Penybont Mehefin 15ed 6.30pm Prynu ar y dydd - Cwm Elan (cyfarfod wrth y Ganolfan Ymwelwyr) LD6 5HP Mehefin 16eg 12pm & 5pm Mehefin 17eg 4pm - Parc y Rhath, Caerdydd (cyfarfod wrth y Ty Gwydr) Mehefin 18eg 6.30pm Chapter.org 02920 304400 - Castell Biwmaris LL58 8AP Mehefin 21ain 7pm - Coed Y Brenin (cyfarfod wrth y Ganolfan Ymwelwyr) LL40 2HZ Mehefin 22ain 7pm - Castell Dinbych LL16 3NB Mehefin 23ain 12pm & 7pm Mehefin 24ai 2 & 7pm - Parc Gwledig Loggerheads (cyfarfod wrth y Ganolfan Ymwelwyr) CH7 5LH Mehefin 25ain 7pm Tocynnau I’w gael hefyd yn y safle - Castell Caerffili CF83 1JD Mehefin 28th 7pm - Abaty Ystrad Fflur SY25 6ES Mehefin 29ain 7pm - Bwyty Dylan, Cricieth LL52 0HU Mehefin 30ain 7.30pm I gael tocynnau theatr yn unig defnyddiwch ddolen Ticketsource I gael tocynnau theatr a chinio e-bostiwch criccieth@dylansrestaurant.co.uk neu ffoniwch 01766 522773 www.dylansrestaurant.co.uk GORFFENNAF Gŵyl Undod Hijinx Doc Fictoria, Caernarfon Gorffennaf 1af 12pm Gorffennaf 2il 2pm Am ddim www.hijinx.org.uk/unity - Parc Bellevue Casnewydd (Cyfarfod wrth yr Ystafell Dê NP20 4EZ Gorffennaf 5th 12pm & 7pm - Cwrt Tretower NP8 1RD Gorffennaf 6ed 7pm - Stâd Castell Blaise, Bryste BS10 7QS Gorffennaf 7th 12pm & 7pm Gorffennaf 8th 2pm & 7pm bristolshakespearefestival.org.uk neu defnyddio ticketsource - Cwrt Tretower NP8 1RD Gorffennaf 9fed 5.30pm - Castell Cyfarthfa, Merthyr (cyfarfod wrth y bandstand) CF47 8RE Gorffennaf 11eg 12pm a 7pm - Castell Rhuddlan LL18 5AD Gorffennaf 13eg 7pm Gorffennaf 14eg 12pm a 7pm - Abaty Valle Crucis, Llangollen LL20 8DD Gorffennaf 15fed & 16eg 7pm llangollenfringe.co.uk / 0800 1455779 neu ticketsource - Castell Cilgerran SA43 2SF Gorffennaf 19eg 7pm - Stagbwll, Ger Penfro (cyfarfod ger Goedwig Lodge Park) SA71 5DE Gorffennaf 20fed 7pm Gorffennaf 21ain 12pm & 7pm Gorffennaf 22ain 2 & 7pm - Cwrt Hilton, Aberdaugleddau SA62 5AE Gorffennaf 23ain 6.30pm - Beechenhurst Lodge, Forest of Dean GL16 7EG Gorffennaf 25ain 7pm - Abaty Tintern NP16 6SE Gorffennaf 26ain 7pm - Castell Cydweli SA17 5BQ Gorffennaf 28ain 7pm - Pafiliwn Trelai, Parc Trelai, Trelai, Cardiff CF5 5AQ Gorffennaf 29ain 12pm The Kymin, Penarth CF64 1JX Gorffennaf 30ain 4pm penarthtowncouncil.gov.uk 02920 703200 |
| Taking Flight Theatre Company web site: www.takingflighttheatre.co.uk |
| Nia Skyrme e-mail: niaskyrme@gmail.com |
| Wednesday, May 24, 2017 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Unwaith eto cawn weld sut mae Taking Flight wedi ymdrin ȃ’r cynhyrchiad gyda’i harddull unigryw o gyfuno cherddoriaeth byw a gwreiddiol Dan Lawrence (National Theatre Wales, Gagglebabble),gyda hiwmor a chomedi egniol yr actio a’r modd y gwelwn y gynulleidfa yn rhan atodol o’r profiad drwy gydol. Cawn hefyd weld sut mae’r cwmni yn plethu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Disgrifiad Clywedol i’r ddrama glasurol hwn. Mae hi’n sicr yn wledd o sioe ar eich cyfer!