Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Ballet Cymru present ‘Shadow Aspect’ a brand new evening-length work choreographed by International choreographer Tim Podesta, starring Guest Principal Dancer of the Royal Ballet Mara Galeazzi.     

Ballet Cymru present ‘Shadow Aspect’ a brand new evening-length work choreographed by International choreographer Tim Podesta, starring Guest Principal Dancer of the Royal Ballet Mara Galeazzi. ‘SHADOW ASPECT’ refers to the unconscious aspect of the personality that the conscious mind does not identify in itself. In short, the shadow is the dark side where individuals are defined and bonded by their mutual feelings of isolation.
“To know yourself, you must accept your dark side. To deal with others' dark sides, you must also know your dark side.” Carl Jung
Music by French composer Jean-Phillipe Goude
Stage design by Australian architect Andy Mero & Tim Podesta

“Ballet Cymru are a young, vital group of dancers who are pushing the barriers of classical ballet and Mara and I see an opportunity to push this group of dancers and the boundaries even further. Under the Artistic Direction of Darius James, the company continues to develop its relationship with audiences through accessible outreach work by fusing high-level craftsmanship with street level edge,” Podesta said.

Tim Podesta
After graduating from the Australian Ballet School, Tim danced internationally as a soloist in ballets by Ashton, Hynd, Balanchine, Bournonville, Cranko, Taylor, Weir along with many other choreographers and directors who inspired him to create his own work. In 2006 Tim was awarded ‘Best New Work’ at the Australian Choreographic Competition, which led to great interest in his work. His creations have since been performed across Australia, New Zealand, UK, USA, Africa and Asia including his Australian Dance Award nominated film ADOR- featuring The Singapore Dance Theatre, The Hong Kong Ballet, Australian Dance Theatre, The Queensland Ballet, The English National Ballet and Atlanta Ballet. In 2015, Tim Podesta and Guest Principal Artist of the Royal Ballet, Mara Galeazzi had their first collaboration. Their partnership has become what is now known as M&T In Motion. M&T In Motion began as a project company focussed on creating new work and has since presented new creations in London, Milan, New York, Africa, Dubai and Melbourne.

‘Australian choreographer Tim Podesta is one of those rare people about whom you can say ‘they have the world at their feet’. Paul Ransom- Dance Informa Magazine

Mara Galeazzi
Mara was born in Brescia and studied at La Scala, Milan. She joined The Royal Ballet in 1992 and was promoted to First Artist in 1995, Soloist at the end of the 1997/98 Season and Principal in September 2003. She has danced every major role in the classical repertory and had many roles created for her by top choreographers around the world.
Mara has been acknowledged with numerous awards throughout her illustrious career including being appointed 'Best Italian Dancer Abroad' (Danza & Danza Award) nominations for Best Female Dancer at Critics’ Circle National Dance Award and the highest acknowledgement for artists in Italy, the medal “Cavaliere Ordine al Merito della Repubblica Italiana” (Knighthood) by the President of Italy.
She has appeared as guest artist with the Stuttgart Ballet, Carla Fracci's Teatro dell'Opera in Rome and the Scottish Ballet. Mara continues to be a Guest Principal Dancer at the Royal Ballet in London.
Further dance work includes founding the dance group M&T in Motion with Australian choreographer Tim Podesta. In 2016 she created her first piece of choreography, Remembrance, performed with Covent Garden Dance Company in Hatch House, Wiltshire and her charity commitments to ‘Dancing for the Children’, a charity that raises funds for charities across Africa that fight the spread of diseases such as AIDS and help under-privileged children explore the joys of dance.


Ballet Cymru
Ballet Cymru is committed to innovation in dance and classical ballet, and to the highest standard of collaboration with choreographers, designers, composers and musicians.
Ballet Cymru is proud to be a collaborative company and the quality of its collaborations continues to exceed expectations. The company’s outreach programs are the envy of many big companies around the world and continue to grow through the Paul Hamlyn Foundation DUETS programme in collaboration with Rubicon Dance, an established Ballet Associate Programme, international summer school Riverfront Summer Dance, inspirational work in schools, and development opportunities for graduate and professional dancers.

Ballet Cymru is Revenue Funded by The Arts Council of Wales


Awards & Nominations
Award: Critics’ Circle National Dance Audience Award 2006
Award: Creative Wales Award for Artistic Director Darius James in 2008
Nominations x 2: Best Dance Production 2012 for Theatre Critics of Wales Awards 2013
Award: Best Large Scale Dance Production 2016 at the Wales Theatre Awards 2017
Nomination: Best Independent Company 2016, Critics’ Circle

Ballet Cymru yn cyflwyno‘Shadow Aspect’, gwaith hyd noson, newydd sbon danlli grai a goreograffwyd gan y coreograffydd Rhyngwladol Tim Podesta, yn serennu Prif Ddawnsiwr Gwadd y Ballet Brenhinol Mara Galeazzi.
Cyfeirio y mae ‘SHADOW ASPECT’ at yr agwedd anymwybodol ar y bersonoliaeth nad yw’r meddwl ymwybodol yn ei ganfod ynddo’i hun. Mewn byr o eiriau, y cysgod yw’r ochr dywyll lle mae unigolion yn cael eu diffinio a’u huno gan eu teimladau o unigedd.
“I’ch adnabod eich hun, rhaid i chi dderbyn eich ochr dywyll. I ddod i’r afael ag ochrau tywyll pobl eraill, rhaid i chi adnabod hefyd eich ochr dywyll eich hun.” Carl Jung
Cerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Ffrancwr Jean-Phillipe Goude
Cynllun y llwyfan gan y pensaer o Awstraliad Andy Mero a Tim Podesta
“Grw^p ifanc bywiog o ddawnswyr yw Ballet Cymru sy’n gwthio ffiniau ballet clasurol ac mae Mara a fi’n gweld cyfle i wthio’r grw^p yma o ddawnswyr a’r ffiniau ymhellach fyth. Dan Gyfarwyddyd Artistig Darius James, mae’r cwmni’n dal i feithrin ei berthynas â chynulleidfaoedd drwy waith allgyrch hyddeall drwy gydasio celfyddyd o raen ag egni pen stryd,” meddai Podesta.

Tim Podesta
Ar ôl graddio o Ysgol Ballet Awstralia bu Tim yn dawnsio drwy’r gwledydd yn unawdydd mewn ballets gan Ashton, Hynd, Balanchine, Bournonville, Cranko, Taylor, Weir ynghyd â choreograffwyr a chyfarwyddwyr eraill lawer a’i hysbrydolodd i greu ei waith ei hun.
Yn 2006 dyfarnwyd i Tim y wobr ‘Gwaith Newydd Gorau’ yng Nghystadleuaeth Goreograffi Awstralia, a enynnodd ddiddordeb mawr yn ei waith. Ers hynny perfformiwyd ei greadigaethau drwy hyd a lled Awstralia, Seland Newydd, gwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau, Affrica ac Asia gan gynnwys ei film ADOR a enwebwyd am Wobr Ddawns Awstralia – oedd yn cynnwys Theatr Ddawns Singapore, Ballet Hong Kong, Theatr Ddawns Awstralia, Ballet Queensland, Ballet Cenedlaethol Lloegr a Ballet Atlanta.
Yn 2015, am y tro cyntaf cydweithredodd Tim Podesta a Phrif Artist Gwadd y Ballet Brenhinol, Mara Galeazzi,. Mae eu partneriaeth bellach yn mynd dan yr enw M&T In Motion. Yn gwmni prosiectau y cychwynnodd M&T In Motion, yn canolbwyntio ar greu gwaith newydd ac ers hynny cyflwynodd greadigaethau newydd yn Llundain, Milan, Efrog Newydd, Affrica, Dubai a Melbourne.

‘Mae’r coreograffydd o Awstraliad Tim Podesta yn un o’r bobl brin hynny y gellir dweud amdanynt ‘mae ganddo’r byd yn grwn wrth ei draed’. Paul Ransom- Dance Informa Magazine

Mara Galeazzi
Yn Brescia y ganed Mara ac astudiodd yn La Scala, Milano. Ymunodd â’r Ballet Brenhinol ym 1992 a chael dyrchafiad yn Artist Cyntaf ym 1995, yn Unawdydd ar ddiwedd Tymor 1997/98 ac yn Brif Ddawnsiwr ym mis Medi 2003. Dawnsiodd bob prif rôl yn y repertoire clasurol a chrëwyd llawer o rolau iddi gan bennaf goreograffwyr drwy’r byd.
Cydnabuwyd Mara â gwobrau lawer ar hyd ei gyrfa ddisglair gan gynnwys ei phenodi’n ‘Ddawnsiwr Eidalaidd Gorau Dramor' (Gwobr Danza & Danza) enwebiadau’n Ddawnswraig Orau yng Ngwobrau Dawns Cenedlaethol Cylch y Beirniaid a’r gydnabyddiaeth uchaf i artistiaid yn yr Eidal, y tlws “Cavaliere Ordine al Merito della Repubblica Italiana” (Urdd Marchog) gan Arlywydd yr Eidal.
Ymddangosodd yn artist gwadd gyda Ballet Stuttgart, Teatro dell'Opera Carla Fracci yn Rhufain a Ballet yr Alban. Mae Mara yn dal i fod yn Brif Ddawnsiwr Gwadd yn y Ballet Brenhinol yn Llundain.
Mae gwaith dawns at hynny’n cynnwys sylfaenu’r grw^p dawns M&T in Motion gyda’r coreograffydd o Awstraliad Tim Podesta. Yn 2016 creodd ei darn cyntaf o goreograffi, Remembrance, a berfformiwyd gyda Chwmni Dawns Covent Garden yn Hatch House, Wiltshire ac mae’n ymroddedig i’r elusen ‘Dancing for the Children’, elusen sy’n codi arian i elusennau drwy hyd a lled Affrica sy’n ymladd lledaenu afiechydon megis AID ac yn helpu plant difreintiau i chwilio pleserau dawns.

Ballet Cymru
Mae Ballet Cymru yn ymroddedig i dorri tir newydd mewn dawns a ballet clasurol, ac i’r safon uchaf o gydweithredu â choreograffwyr, dylunwyr, cyfansoddwyr a cherddorion.
Mae Ballet Cymru’n falch o fod yn gwmni cydweithredol ac mae graen ei gydweithrediadau’n dal i siomi’r ochr orau. Mae ei raglenni allgyrch yn destun cenfigen llawer o gwmnïau mawr drwy’r byd ac maent yn dal i dyfu drwy raglen DUETS Sefydliad Paul Hamlyn ar y cyd â Dawns Rubicon, Rhaglen Cysyllteion Ballet sydd wedi ennill ei phlwy, yr ysgol haf ryngwladol Dawns Haf Glan yr Afon, gwaith ysbrydoledig mewn ysgolion, a chyfleoedd datblygu i ddawnswyr graddedig a phroffesiynol.

Mae Ballet Cymru’n un o Gleientiaid Refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n cael cefnogaeth ariannol gan Gyngor Dinas Casnewydd, Sefydliad Paul Hamlyn, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Foyle, Chwaraeon Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm a Chylch Ballet Llundain.
Gwobrau ac Enwebiadau
Gwobr: Cylch y Beirniaid, Gwobr Ddawns Genedlaethol y Gynulleidfa 2006
Dyfarniad: Dyfarniad Cymru Greadigol i’r Cyfarwyddwr Artistig Darius James yn 2008
Dau Enwebiad: Cynhyrchiad Dawns Gorau 2012 yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2013
Gwobr: Cynhyrchiad Dawns Gorau ar Raddfa Fawr 2013 yng Ngwobrau Theatr Cymru 2014
Enwebiad: Cwmni Annibynnol Gorau 2015, Cylch y Beirniaid, Gwobrau Dawns Cenedlaethol y Gynulleidfa 2016
Gwobr: : Cynhyrchiad Dawns Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017

National Dance Audience Awards 2017

www.welshballet.co.uk

Ballet Cymru  
web site
: www.welshballet.co.uk
Patricia Vallis
e-mail: patriciavallis@welshballet.co.uk
Monday, August 14, 2017back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk