Mae trefnwyr Gŵyl Ddawns Caerdydd yn falch o gyhoeddi manylion y digwyddiad eleni. Cynhelir Gŵyl Ddawns Caerdydd, a chafodd ei lansio yn 2015, bob dwy flynedd. Eleni bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 8 a 19 Tachwedd 2017. Dros y deuddeg diwrnod bydd amrywiaeth o weithiau’n cael eu perfformio gan artistiaid a chwmnïau o bob rhan o Gymru, y DU ac amrywiaeth o wledydd tramor. Bydd perfformiadau yn cael eu cynnal yn Chapter, y Tŷ Dawns a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae Gŵyl Ddawns Caerdydd wedi cyffroi’n lân ar ôl llwyddo i sicrhau cymorth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig ar gyfer y prosiect Interruption. Mae Interruption, sy’n rhan o India/Cymru, tymor pwysig o gydweithio artistig rhwng y ddwy wlad i nodi Blwyddyn Ddiwylliant y DU/India a lle bydd artistiaid o Basement 1 yn Chennai yn gweithio law yn llaw ag artistiaid o Gymru. Bydd y prosiect yn arwain at ddiwrnod o berfformio yng nghanol Dinas Caerdydd ar ddydd Gwener 17 Tachwedd. Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref. Ymhlith y cynyrchiadau sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer yr ŵyl: Wrongheaded gan Gwmni Liz Roche (Chapter, 8 Tachwedd); Roots gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (y Tŷ Dawns, 13 a 14 Tachwedd); Ways of Being Together gan Jo Fong (Chapter, 19 Tachwedd); Black Out gan Compagnie Philippe Saire (y Tŷ Dawns, 10 & 11 Tachwedd; Poggle gan Barrowland Ballet (Canolfan Mileniwm Cymru, 10 & 11 Tachwedd) ac Extremely Bad Dancing to Extremely French Music gan Matteo Fargion (Chapter, 14 Tachwedd). Yn ogystal â pherfformiadau lle bydd rhaid prynu tocynnau, bydd nifer o ffyrdd y gall pobl gael profiad o waith artistiaid dawns diolch i ddigwyddiadau stiwdio agored a digwyddiadau mewn mannau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys Maribée – sors de ce corps a Montréal Danse, a fydd yn gweithio ar eu cynhyrchiad newydd – BESIDE. Bydd y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad stiwdio agored di-dâl ar ddydd Mercher 15 Tachwedd am 4pm. Cefnogir GDdC17 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Prif bartneriaid yr ŵyl yw Chapter, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Eleni bydd yr ŵyl yn gweithio hefyd â Chyngor Dinas Caerdydd, Groundwork Pro, Migrations a Phrifysgol De Cymru ar wahanol agweddau ar y rhaglen. Lansiwyd Gŵyl Ddawns Caerdydd yn 2015 a’r adeg honno roedd yn cynnwys gwaith gan gwmnïau ac ymarferwyr blaenllaw yng Nghymru gan gynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru ac Eddie Ladd, ochr yn ochr â gwaith rhagorol gan artistiaid Prydeinig a rhyngwladol gwobrwyedig megis ZooNation, Dana Michel and Igor and Moreno. Trefnwyd rhaglen Gŵyl Ddawns Caerdydd gan Chris Ricketts a rheolwyd y prosiect gan Fieldwork. Meddai Chris Ricketts: "Mae'n rhagorol bod yn ôl gyda’r ail ŵyl. Cawsom ymateb anhygoel yn 2015 ac o ystyried ehangder yr arlwy mae’r rhaglen eleni yn teimlo’n gryfach fyth ac yn fwy rhyngwladol eto. Mae’n mynd i fod yn 12 diwrnod bendigedig o ddarganfod dawnsio rhyfeddol o bob cwr o’r byd.” Meddai Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau, Cyngor Prydeinig Cymru: "Mae Gŵyl Ddawns Caerdydd yn ychwanegiad gwerthfawr at bortffolio digwyddiadau artistig y ddinas. Rydym wrth ein bodd o wybod, drwy India/Cymru a’r Flwyddyn Diwylliant, fod Gŵyl Ddawns Caerdydd wedi gallu cydweithredu mor llwyddiannus â Basement21 o Chennai i ehangu ar elfen ryngwladol yr ŵyl eleni." Am wybodaeth ewch i: www.dance.wales |
| Gŵyl Ddawns Caerdydd 2017 web site: www.dance.wales |
| Elin Rees e-mail: elin@elinrees.com |
| Friday, September 15, 2017 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae trefnwyr Gŵyl Ddawns Caerdydd yn falch o gyhoeddi manylion y digwyddiad eleni. Cynhelir Gŵyl Ddawns Caerdydd, a chafodd ei lansio yn 2015, bob dwy flynedd. Eleni bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 8 a 19 Tachwedd 2017.