|
Celebrating the culture and the contributions of the African Diaspora for 10 years in Wales This year Black History Month Wales celebrates its 10th year anniversary. Throughout its tenure, delivered by a passionate steering and management committees, it has developed large scale cultural celebrations, educational programmes, workshops and talks across the country. This year will be no exception, with a full calendar of activities celebrating the contribution of the African diaspora to Wales’ culture, economy and industry. Wales Millennium Centre has been a proud partner of Black History Month Wales, hosting finale celebrations and workshops over the years and looks forward to continuing that cherished partnership over the next 10 years. The theme chosen for this year’s celebration is “Our Stars. Our Future. Our History: 10th Anniversary 2017”. To recognise the achievements of young people from Black and Minority Ethnic communities in Wales, BHMW held their second Black History Wales Youth Awards 2017 at the Pierhead Building in Cardiff Bay with the Grand Finale being held at Wales Millennium Centre on 29 October from 12pm. The nominees are deserving young black people from North Wales - who have made significant contributions to racial cohesion in North Wales Programme highlights include Black Voices UK, Jazzy Africana Band Wales & Afro Rythm, Soel Connect|NoW Gospel Choir, Nimba, and Kyla Brox. Back by popular demand is Chef Geraldine Trotman who will work with Ffresh restaurant chefs to produce a sumptuous Caribbean menu. This year she is joined by African Chef Derin Omole to deliver a menu to please all taste buds. Audiences can tuck into curried goat, jerk chicken, jollof and fried rice, red mullet fish and vegetable curry. Alongside this, Radio Platfform, the Centre’s accredited digital radio training programme, will co-host slots with young people who will be working with Christopher Nation to capture and share the celebrations on the day. Graeme Farrow, Artistic and Creative Strategic Director for Wales Millennium Centre said, “Wales Millennium Centre has been a proud partner of Black History Month Wales, and we look forward to continuing this partnership over the next 10 years. As an organisation we strive to raise the aspirations of young people in Wales and this year we are thrilled to do so by hosting the Black History Month Wales finale celebration- recognising the achievements of young people from Black and Minority Ethnic communities in Wales.” Mrs Uzo Iwobi OBE Chief Executive of Race Council Cymru stated, “Year on year Black History Month is proving to be one of the most engaging, lively and welcoming events in Wales’ cultural calendar. It serves both as an educational project and an entertaining experience for those interested in and inspired by African and Caribbean Heritage and the Welsh connection.” Black History Month 2017 Grand Finale, Wales Millennium Centre, 29 October 2017 12pm #BHMWales10 http://bhmwales.org.uk Yn dathlu diwylliant a chyfraniad pobl o dras Affricanaidd ers deng mlynedd yng Nghymru Eleni bydd Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn dathlu ei ddengmlwyddiant. Yn ystod y degawd diwethaf, drwy waith diflino pwyllgorau rheoli a llywio, mae’r mis wedi datblygu dathliadau diwylliannol mawrion, rhaglenni addysg, gweithdai a sgyrsiau ymhob rhan o’r wlad. Fydd eleni ddim yn eithriad, gyda chalendr llawn o weithgareddau yn dathlu cyfraniad pobl o dras Affricanaidd i ddiwylliant, economi a diwydiant Cymru. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o fod wedi bod yn bartner i Fis Hanes Pobl Dduon Cymru, gan gynnal dathliadau cloi a gweithdai ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n edrych ymlaen at barhau’r bartneriaeth bwysig honno dros y deng mlynedd nesaf. Y thema sydd wedi’i dewis ar gyfer dathliad eleni yw “Ein Sêr. Ein Dyfodol. Ein Hanes: Dengmlwyddiant 2017”. I gydnabod llwyddiannau pobl ifanc o gymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, cynhaliwyd Gwobrau Ieuenctid Hanes Pobl Dduon Cymru am yr ail dro eleni, a hynny yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Bydd y Diweddglo Mawreddog yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 29 Hydref o hanner dydd ymlaen. Pobl ifanc dduon haeddiannol iawn o’r gogledd sydd wedi’u henwebu – pobl ifanc dduon sydd wedi gwneud cyfraniadau o bwys at gydlyniant hiliol yn y gogledd. Mae uchafbwyntiau’r rhaglen yn cynnwys Black Voices UK, Band Jazzy Africana Cymru ac Afro Rythm, SOEL Connect|Côr Gospel CGG, Nimba a Kyla Brox. Yn dychwelyd ar ôl poblogrwydd mawr bydd y Cogydd Geraldine Trotman a fydd yn gweithio gyda chogyddion bwyty Ffresh i gynhyrchu bwydlen Garibïaidd flasus. Eleni bydd y Cogydd Affricanaidd Derin Omole yn ymuno â hi i greu bwydlen fwy amrywiol byth fydd yn plesio pawb. Gall cynulleidfaoedd fwynhau cyri gafr, cyw iâr jyrc, joloff a reis wedi’i ffrio, hyrddyn coch a chyri llysiau. Ochr yn ochr â hyn, bydd rhaglen hyfforddi radio digidol achrededig y Ganolfan, Radio Platfform, yn cyd-baratoi slotiau gyda phobl ifanc fydd yn gweithio gyda Christopher Nation i gofnodi a rhannu dathliadau’r diwrnod. Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig a Chreadigol Canolfan Mileniwm Cymru, “Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi bod yn falch o fod yn bartner i Fis Hanes Pobl Dduon Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael parhau â’r bartneriaeth yma dros y deng mlynedd nesaf. Fel sefydliad, rydyn ni’n anelu i godi dyheadau pobl ifanc yng Nghymru, ac eleni rydyn ni’n falch iawn o gael gwneud hynny drwy gynnal dathliad cloi Mis Hanes Pobl Dduon Cymru – fydd yn cydnabod llwyddiannau pobl ifanc o gymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru.” Meddai Mrs Uzo Iwobi OBE, Prif Weithredwr Cyngor Hil Cymru, “Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae Mis Hanes Pobl Dduon yn un o’r digwyddiadau mwyaf atyniadol, bywiog a chroesawgar yng nghalendr diwylliannol Cymru. Mae’n gweithio fel prosiect addysgol ac fel adloniant i’r rhai sy’n cael mwynhad ac ysbrydoliaeth o Dreftadaeth Affricanaidd a Charibïaidd a’r cysylltiad Cymreig.” Diweddglo Mawreddog Mis Hanes Pobl Dduon 2017, Canolfan Mileniwm Cymru, 29 Hydref 2017 12pm #MisHanesPoblDduon http://bhmwales.org.uk/ |
| Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk |
| Rhian Richards e-mail: rhian.richards@wmc.org.uk |
| Monday, October 9, 2017 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
