Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Alaw Griffiths is announced to head the ‘APT: Aberystwyth Arts Centre and Penparcau Forum Together’ project.     

Alaw Griffiths is announced to head the ‘APT: Aberystwyth Arts Centre and Penparcau Forum Together’ project. APT is a year-long venture which will see a ‘hand over’ of the Arts Centre to Penparcau residents for a week’s worth of events and activities in June 2018 and Aberystwyth Arts Centre is delighted to announce that Alaw Griffiths will be heading the project.

Originally from Flintshire, Alaw has now settled in Aberystwyth with her husband Hywel who is a lecturer in the Geography and Earth Science department at the University, and their small children Lleucu and Morgan. Previously, Alaw worked for well-known establishments in Ceredigion, the Welsh Books Council and Theatr Felinfach, and more recently as Events Manager for a local tour operator, Tango Tours. Alaw also runs her own small company, Calon Wedding Planning, and organises the annual Aberystwyth Wedding Show each January, held at Aberystwyth Arts Centre. You may have seen Alaw on the popular S4C entertainment programme Priodas Pum Mil, as she is their on-screen Wedding Co-ordinator. As well as spending time with her young family, Alaw enjoys teaching Welsh clog dancing to children and adults in her spare time at Arad Goch and if you were one of the hundreds of people gathered on the prom in Aberystwyth in August for the pinnacle of the Far Old Line community festival, you will have spotted Alaw performing King Gwyddno’s Dance! Alaw is looking forward to working alongside the staff at the Arts Centre as well as the Penparcau Forum over the next year.

APT aims to develop a ‘Penparcau Partnership’ whereby members of Penparcau Forum groups and other Penparcau residents will come together to help programme, organise, manage and run Aberystwyth Arts Centre for a week, with the support of the Arts Centre team. Alongside informal training workshops and mentoring across all aspects of event management, technical, front of house, marketing and programming, participants will also be able to visit other arts organisations in Wales and further afield to see how they work, meet the teams and see productions in action. Young people participating in the project will also have the opportunity to gain Arts Award accreditation which could then help lead on to further study if they wished.

The project is available to all groups and residents of Penparcau, whatever age or experience. If you would like to get involved please get in touch with either Penparcau Forum on 01970 611 099 / contact@penparcau.cymru or Alaw at Aberystwyth Arts Centre alg54@aber.ac.uk

Aberystwyth Arts Centre believes in the power of the arts to transform society and to change and enrich lives and the APT project is a perfect example of the way the Arts Centre continues to fulfil this vision.
The APT project has been made possible thanks to LEADER support through the Cynnal y Cardi Local Action Group administered by Ceredigion County Council.

Cynnal y Cardi is funded through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Cyhoeddir mai Alaw Griffiths a fydd yn arwain y prosiect APT sef ‘Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Penparcau gyda’i gilydd’


Menter am flwyddyn yw APTa fydd yn gweld trigolion Penparacau yn ‘cymryd drosodd’ Canolfan y Celfyddydau am wythnos gyfan o ddigwyddiadau a geithgareddau ym mis Mehefin 2018 ac mae’n bleser gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyhoeddi mai Alaw Griffiths a fydd yn arwain y prosiect.

Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae Alaw bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth gyda’i gŵr Hywel sydd yn ddarlithydd yn adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, a’u plant bach Lleucu a Morgan. Yn y gorffennol bu’n gweithio i sefydliadau adnabyddus yng Ngheredigion sef Cyngor Llyfrau Cymru a Theatr Felinfach, ac yn fwy diweddar bu’n gweithio fel Rheolwr Digwyddiadau i gwmni teithio lleol, Teithiau Tango. Mae Alaw hefyd yn rhedeg cwmni bach ei hun, Priodasau Calon, sydd yn trefnu Sioe Briodas Aberystwyth bob mis Ionawr yng Nghanolfan y Celfyddydau. Efallai eich bod wedi cael cipolwg ar Alaw ar raglen boblogaidd S4C, Priodas Pum Mil, gan mai hi yw’r Trefnydd Priodas ar y rhaglen honno! Yn ogystal â threulio amser gyda’i theulu ifanc, mae Alaw yn mwynhau dysgu clocsio i blant ac oedolion yng Nghanolfan Arad Goch yn ei amser sbâr! Ac os oeddech chi yn un o’r cannoedd ar y prom yn Aberystwyth fis Awst ar gyfer pinacl gŵyl gymunedol yr Hen Linell Bell, byddech wedi gweld Alaw yn perfformio Dawns Gwyddno! Mae Alaw yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio efo’r staff yn y Ganolfan yn ogystal â thrigolion Penparcau dros y flwyddyn nesaf.

Mae APT yn anelu at ddatblygu ‘Partneriaeth Penparcau’ lle bydd aelodau grwpiau Fforwm Penparcau a thrigolion eraill Penparcau yn dod at ei gilydd i gynorthwyo rhaglennu, trefnu, rheoli a rhedeg Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am wythnos, gyda chefnogaeth tîm y Ganolfan. Ochr yn ochr â gweithdai hyfforddi anffurfiol a mentora ar draws pob agwedd o waith y Ganolfan sef rheoli digwyddiadau, technegol, blaen tŷ, marchnata a rhaglennu, bydd cyfranogwyr hefyd yn medru ymweld â mudiadau celf eraill yng Nghymru a thu hwnt i weld sut maent yn gweithio, i gyfarfod â staff a gweld cynyrchiadau yn digwydd. Bydd pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect hefyd yn cael y cyfle i ennill achrediad ym maes astudio’r celfyddydau a all arwain at astudiaeth bellach pe baent yn dymuno.

Mae’r prosiect ar gael i holl grwpiau a thrigolion Penparcau, o bob oedran a phrofiad. Pe hoffech fod yn rhan o’r prosiect cysylltwch ag unai Fforwm Penparcau ar 01970 611 099 / contact@penparcau.cymru neu Alaw yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth alg54@aber.ac.uk

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn credu mewn grym y celfyddydau i drawsffurfio cymdeithas ac i newid a chyfoethogi bywydau ac mae’r prosiect APT yn enghraifft berffaith o’r modd y mae’r Ganolfan yn parhau i wireddu ei gweledigaeth.

Gwnaethpwyd y prosiect APT yn bosibl diolch i gefnogaeth LEADER trwy’r Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Ariennir Cynnal y Cardi trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygiad Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir yn ei thro gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Aberystwyth Arts Centre  
web site
: www.aberystwythartscentre.co.uk
Marketing Dept. Aberystwyth Arts Centre
e-mail: artscentre-marketing@aber.ac.uk
Tuesday, October 10, 2017back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk