|
Aberystwyth Arts Centre Wythnos Yng Nghymru Fydd Nos Wener 17 Tachwedd |
Mae OPRA Cymru yn teithio cynhyrchiad newydd ledled Cymru 10-25 Tachwedd o opera Gymraeg newydd sbon ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ gan y cyfansoddwr Gareth Glyn a’r libreto gan y Prifardd Mererid Hopwood sydd yn dod â gweledigaeth eiconig Islwyn Ffowc Elis yn fyw o’r llyfr i’r llwyfan 60 mlynedd ers cyhoeddi’r nofel. Bydd y gynulleidfa yn teithio drwy amser o 1957 i 2033 ac yn profi’r ddwy weledigaeth o ddau ddyfodol tra gwahanol i Gymru: Cymru cadarnhaol lle ceir cymdeithas ddwyieithog ac annibynnol a Western England sydd yn ehangder goediog a lle bydd y gynulleidfa yn dystion i farwolaeth yr iaith Gymraeg drwy gyfrwng Hen Wraig y Bala, yr olaf i’w siarad. Mewn libreto hynod o awenyddol a barddonol mae Mererid yn cyfleu neges Islwyn Ffowc Elis bod ein diwylliant, ein hiaith a’n hunaniaeth yn ein dwylo ni a daw’r opera i ben drwy gymell y gynulleidfa i weithredu (mewn modd adeiladol) i ddiogelu’r dyfodol hwnnw - neges sydd yr un mor berthnasol heddiw ac ydoedd drigain mlynedd yn ol.Fel rhan o’r dathliadadau i nodi perfformiadau ‘premiere’ yr opera a 60 mlynedd ers cyhoeddi’r nofel mae OPRA Cymru mewn partneriaeth efo Gwasg Gomer yn cyhoeddi adargraffiad arbennig nifer cyfyngedig o’r nofel wedi rhwymo mewn clawr caled gyda dyluniad arbennig i gydfynd efo delweddu’r daith ac efo cyfraniadau unigryw gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood. Bydd y gynulleidfa hefyd yn gallu mynd a barddoniaeth Mererid adre i’w fwynhau mewn argraffiad arbennig nifer cyfyngedig o’r libreto. Comisiynwyd yr opera yn wreiddiol gan Brifysgol Bangor efo cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’r cynhyrchiad yn teithio i saith lleoliad ledled Cymru gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 17eg Tachwedd. * * * OPRA Cymru is touring a new production across Wales from the 10th the 25th of November. The brand new Welsh opera ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ by composer Gareth Glyn, with a libretto by leading poet Mererid Hopwood, brings to life the iconic vision of Islwyn Ffowc Elis from the page to the stage, sixty years after the novel’s publication. The audience will travel through time from 1957 to 2033 and experience the two visions of two different futures for Wales: a positive Wales with an independent, bi-lingual society; and Western England, which is an expanse of forestry in which the audience will be witness to the death of the Welsh language through the last person to speak it, the Old Woman of Bala. In a richly poetic libretto, Mererid presents the core message of Islwyn Ffowc Elis that our culture, our language and our identity are in our own hands; and the opera concludes with an exhortation to the audience to take action in a constructive way to protect our future – a message that is as relevant today as it was sixty years ago. As part of the celebrations to mark the premiere performances of the opera and 60 years since the novel’s publication, OPRA Cymru is partnering with Gwasg Gomer to produce a special limited edition of the novel in hardback form, with cover artwork designed to match the imagery for the tour, and with unique contributions by Gareth Glyn and Mererid Hopwood. The audience will also be able to take Mererid’s poetry home to enjoy in a special limited edition of the libretto. The opera was originally commissioned by Bangor University with funding from the Arts Council of Wales; the production is touring to seven locations across Wales including Aberystwyth Arts Centre on the 17th of November. |
| Aberystwyth Arts Centre web site: www.aberystwythartscentre.co.uk |
| Marketing Dept.Aberystwyth Arts Centre e-mail: artscentre-marketing@aber.ac.uk |
| Tuesday, October 31, 2017 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae OPRA Cymru yn teithio cynhyrchiad newydd ledled Cymru 10-25 Tachwedd o opera Gymraeg newydd sbon ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ gan y cyfansoddwr Gareth Glyn a’r libreto gan y Prifardd Mererid Hopwood sydd yn dod â gweledigaeth eiconig Islwyn Ffowc Elis yn fyw o’r llyfr i’r llwyfan 60 mlynedd ers cyhoeddi’r nofel. Bydd y gynulleidfa yn teithio drwy amser o 1957 i 2033 ac yn profi’r ddwy weledigaeth o ddau ddyfodol tra gwahanol i Gymru: Cymru cadarnhaol lle ceir cymdeithas ddwyieithog ac annibynnol a Western England sydd yn ehangder goediog a lle bydd y gynulleidfa yn dystion i farwolaeth yr iaith Gymraeg drwy gyfrwng Hen Wraig y Bala, yr olaf i’w siarad. Mewn libreto hynod o awenyddol a barddonol mae Mererid yn cyfleu neges Islwyn Ffowc Elis bod ein diwylliant, ein hiaith a’n hunaniaeth yn ein dwylo ni a daw’r opera i ben drwy gymell y gynulleidfa i weithredu (mewn modd adeiladol) i ddiogelu’r dyfodol hwnnw - neges sydd yr un mor berthnasol heddiw ac ydoedd drigain mlynedd yn ol.