|
Dilynwch Yr Ail Seren i'r Dde/Second Star to the Right yn syth ymlaen i Ganolfan Mileniwm Cymru! 30ain Tachwedd 7yh, 1af Rhagfyr 7yh (perfformiad hygyrch) a’r 2il Rhagfyr 3yp a 7yh |
Y Nadolig hwn ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, ar daith i Neverland yn Yr Ail Seren i’r Dda/Second Star to the Right - dilyniant newydd, disglair i 'Peter Pan' gan J.M. Barrie. Perfformir y sioe yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru o 30ain Tachwedd - 2il Rhagfyr am 7yh a’r 2il o Ragfyr am 3yp, a cheir pherfformiad hygyrch ar 1af Rhagfyr gyda Sain Ddisgrifiad a’r Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL). Yr Ail Seren i’r Dde/Second Star to the Right Ysgrifennwyd Yr Ail Seren i'r Dde/Second Star to the Right gan Llinos Mai ac mae’r ddrama yn rhoi llwyfan i gast egnïol o berfformwyr anabl a rhai nad ydynt yn anabl o Odyssey, disgyblion o Ysgol Uwchradd Woodlands, ynghyd â cherddoriaeth wreiddiol, atgofus. Gyda Neverland yn diflannu a Peter Pan wedi mynd, pwy all achub Dychymyg, Antur a'r Ail Seren i'r dde? [Imagination, Adventure and the Second Star to the Right]? Mae’r sioe yn wibdaith ryfeddol i'r teulu cyfan a chewch ymweld â Morlyn y Fôr-forwyn’(‘Mermaid Lagoon’), Tŷ Pen Coeden y Bachgen Coll (The Lost Boy’s Treehouse) yn Neverland ynghyd â mannau eraill y gall pobl ond breuddwydio amdanyn nhw ... O ddechrau mis Rhagfyr cynhelir arddangosfa hefyd fydd i’w gweld yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yn y fan hon caiff ymwelwyr ymgolli fwyfwy yn Neverland. Yn ychwanegol at hyn, cynhelir perfformiadau cyn-sioe o Stay Down gan Telemachus, grŵp theatr gymunedol Hijinx ar gyfer pobl anabl a rhai heb anabledd rhwng 16 a 24 oed. Mwy am Odyssey Hijinx Grŵp cymunedol, cynhwysol ar gyfer oedolion sy'n rhannu awch am berfformio yw Odyssey Hijinx ac mae hefyd yn fraich amatur cwmni theatr Cymreig Hijinx. Cyfaredd Odyssey, a'r hyn sy'n ei wneud yn ddarganfyddiad prin, yw ei fod yn dod â phobl sydd ag anableddau a phob sydd heb anableddau o gefndiroedd gwahanol iawn at ei gilydd i archwilio, chwarae a theithio gyda'i gilydd i fyd hud a lledrith. Mae Nia Ramage, un sydd wedi bod yn aelod o’r grŵp ers tro byd, yn dweud am Odyssey: "Mae e fel cael teulu estynedig," ac meddai hi ymhellach, "Mae ymdeimlad anhygoel o undod rhwng holl aelodau Odyssey yn ogystal â staff a gwirfoddolwyr Hijinx ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cydweithio fel tîm bob amser. Rydyn ni’n helpu ein gilydd drwy’r adeg p’un ai yn ystod ein sesiynau nos Lun, mewn ymarferion penwythnos neu yn ystod ein perfformiadau go iawn." Sicrhau bod ‘Yr Ail Seren i'r Dde/Second Star to the Right’ yn bosib Gwnaed y cynhyrchiad hwn yn bosibl gan arian refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru, cefnogaeth Cynllun Prosiectau Diwylliannol Cyngor Caerdydd a chan aelodau'r grŵp sydd wedi dod at ei gilydd dros y flwyddyn a aeth heibio i godi arian tuag at lwyfannu cynhyrchiad Nadolig yn Stiwdio Weston yng Nghymru Canolfan y Mileniwm. Archebu Tocynnau Perfformir Yr Ail Seren i’r Dde/Second Star to the Right yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru ar 30ain Tachwedd a 1af Rhagfyr am 7yh, a’r 2il o Ragfyr am 3yp a 7yh. Pris y tocynnau yw £9 i oedolion a £6 i blant dan 16 oed ac maen nhw ar gael i'w harchebu'n bersonol o swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru, dros y ffôn ar 029 20 636464, neu ar-lein yn https://www.wmc.org.uk/Productions / 2017-2018 / westonstudio / Secondstartotheright / Am ragor o wybodaeth ar gyfer y wasg, lluniau, i drefnu cyfweliad neu i gael tocynnau adolygwyr i’r sioe Yr Ail Seren i’r Dde/Second Star to the Right, cysylltwch â Vanessa Davies yn Theatr Hijinx ar 02920 300331, vanessa.davies@hijinx.org.uk neu jacqui.onions@hijinx.org. uk Cystadleuaeth Am gyfle i ennill pâr o docynnau i un o'r perfformiadau, ewch i Trydar: Tweet @HijinxTheatre ac anfonwch eich #happythought gorau gan ddefnyddio’r tag #HSecondStar. Mae'r gystadleuaeth yn agored tan y 27ain Tachwedd, pryd y bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi. |
| Hijinx Theatre web site: http://www.hijinx.org.uk/ |
| Vanessa Davies e-mail: vanessa.davies@hijinx.org.uk |
| Thursday, November 23, 2017 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Y Nadolig hwn ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, ar daith i Neverland yn Yr Ail Seren i’r Dda/Second Star to the Right - dilyniant newydd, disglair i 'Peter Pan' gan J.M. Barrie. Perfformir y sioe yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru o 30ain Tachwedd - 2il Rhagfyr am 7yh a’r 2il o Ragfyr am 3yp, a cheir pherfformiad hygyrch ar 1af Rhagfyr gyda Sain Ddisgrifiad a’r Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL).