Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

GAN ADEILADU AR LWYDDIANT DIWEDDAR THE CHERRY ORCHARD, MAE THEATR Y SHERMAN YN CYHOEDDI TYMOR NEYDD O GYNYRCHIADAU MEWNOL GRYMUS OCHR YN OCHR A RHAGLEN GREF O WAITH WEI'I GURADU'     

GAN ADEILADU AR LWYDDIANT DIWEDDAR THE CHERRY 
ORCHARD, MAE THEATR Y SHERMAN YN CYHOEDDI TYMOR NEYDD
O GYNYRCHIADAU MEWNOL GRYMUS OCHR YN OCHR A RHAGLEN GREF O WAITH WEI'I GURADU' Mae Tymor y Gwanwyn Theatr y Sherman yn cynnwys dau gynhyrchiad newydd mawr; cyd-gynyrchiadau rhwng Theatr y Sherman a Chwmni Theatr Tron, Glasgow a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; a chynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Sherman o [BLANK], gan Alice Birch, yn rhan o Ŵyl Cysylltiadau y Theatr Genedlaethol. Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Rachel O'Riordan, "Mae Tymor y Gwanwyn y Sherman yn gyffrous ac yn llawn bwrlwm, gyda detholiad o ddramâu rhagorol. Dublin Carol gan Conor McPherson, wedi'i chyfarwyddo gan Matthew Xia (Wish List, Young Vic); y première rhanbarthol o The Mother f**ker with the Hat, gan Stephen Adly, mewn cyd-gynhyrchiad â Tron Theatre Company, Glasgow; y ddrama newydd, Tremor, gan y llenor o Gymru, Brad Birch, sy'n edrych ar ganlyniadau personol terfysgaeth; a chyd-gynhyrchiad o ddrama newydd gan Katherine Chandler, yn rhan o NEWYDD yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rwy'n hynod falch o'r amrywiaeth o waith; mae'r dramâu hyn yn siarad â'n dynoliaeth ac â'n henaid.” Cynhyrchiad cyntaf y tymor fydd Dublin Carol, sy'n rhoi cyfrif amrwd a diysgog, ond prydferth, o fywyd yn cael ei wastraffu (1 - 17 Chwefror). Bydd y comedi ddwys,The Motherf**ker with the Hat, yn cael ei pherfformio ar y prif lwyfan rhwng 21 a 31 Mawrth. Wedi'i hysgrifennu gan enillydd gwobr y Pinter Commission 2016, mae Tremor, gan Brad Birch (12 Ebrill - 5 Mai) yn ddrama afaelgar am y ffordd y mae pobl yn gweld pethau ac yn byw eu bywydau mewn byd llawn tensiwn. Bydd y Cyfarwyddwr Cyswllt, David Mercatali, yn cyfarwyddo ei ddrama gyntaf ar gyfer Theatr y Sherman, sef drama newydd gan un o Artistiaid Cyswllt Theatr y Sherman, Katherine Chandler, yn rhan o NEWYDD: 2018, Gŵyl Ysgrifennu Newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (20-22 Mawrth). Gan gymryd rhan unwaith eto yng Ngŵyl Cysylltiadau y Theatr Genedlaethol, bydd Theatr Ieuenctid y Sherman yn archwilio effaith y system cyfiawnder troseddol yn [Blank], gan Alice Birch, rhwng 1-3 Mawrth. Ochr yn ochr â chynyrchiadau Theatr y Sherman ei hun, mae yna raglen o gynyrchiadau trawiadol o bob cwr o'r DU. Bydd Theatr y Sherman unwaith eto yn llwyfan i gwmnïau cenedlaethol Cymru, gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio Terra Firma ar 8 Chwefror, a Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno Y Tad, sef ei haddasiad Cymraeg o The Father, gan Florian Zeller, rhwng 8-9 Mawrth. Os ydych yn chwilio am ddrama, bydd Cwmni Theatr y Torch yn dychwelyd i'r Sherman rhwng 22 a 23 Chwefror i gyflwyno Grav, sef drama am yr arwr o Gymro, Ray GraMae Tymor y Gwanwyn Theatr y Sherman yn cynnwys dau gynhyrchiad newydd mawr; cyd-gynyrchiadau rhwng Theatr y Sherman a Chwmni Theatr Tron, Glasgow a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; a chynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Sherman o [BLANK], gan Alice Birch, yn rhan o Ŵyl Cysylltiadau y Theatr Genedlaethol. Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Rachel O'Riordan, "Mae Tymor y Gwanwyn y Sherman yn gyffrous ac yn llawn bwrlwm, gyda detholiad o ddramâu rhagorol. Dublin Carol gan Conor McPherson, wedi'i chyfarwyddo gan Matthew Xia (Wish List, Young Vic); y première rhanbarthol o The Mother f**ker with the Hat, gan Stephen Adly, mewn cyd-gynhyrchiad â Tron Theatre Company, Glasgow; y ddrama newydd, Tremor, gan y llenor o Gymru, Brad Birch, sy'n edrych ar ganlyniadau personol terfysgaeth; a chyd-gynhyrchiad o ddrama newydd gan Katherine Chandler, yn rhan o NEWYDD yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rwy'n hynod falch o'r amrywiaeth o waith; mae'r dramâu hyn yn siarad â'n dynoliaeth ac â'n henaid.” Cynhyrchiad cyntaf y tymor fydd Dublin Carol, sy'n rhoi cyfrif amrwd a diysgog, ond prydferth, o fywyd yn cael ei wastraffu (1 - 17 Chwefror). Bydd y comedi ddwys,The Motherf**ker with the Hat, yn cael ei pherfformio ar y prif lwyfan rhwng 21 a 31 Mawrth. Wedi'i hysgrifennu gan enillydd gwobr y Pinter Commission 2016, mae Tremor, gan Brad Birch (12 Ebrill - 5 Mai) yn ddrama afaelgar am y ffordd y mae pobl yn gweld pethau ac yn byw eu bywydau mewn byd llawn tensiwn. Bydd y Cyfarwyddwr Cyswllt, David Mercatali, yn cyfarwyddo ei ddrama gyntaf ar gyfer Theatr y Sherman, sef drama newydd gan un o Artistiaid Cyswllt Theatr y Sherman, Katherine Chandler, yn rhan o NEWYDD: 2018, Gŵyl Ysgrifennu Newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (20-22 Mawrth). Gan gymryd rhan unwaith eto yng Ngŵyl Cysylltiadau y Theatr Genedlaethol, bydd Theatr Ieuenctid y Sherman yn archwilio effaith y system cyfiawnder troseddol yn [Blank], gan Alice Birch, rhwng 1-3 Mawrth. Ochr yn ochr â chynyrchiadau Theatr y Sherman ei hun, mae yna raglen o gynyrchiadau trawiadol o bob cwr o'r DU. Bydd Theatr y Sherman unwaith eto yn llwyfan i gwmnïau cenedlaethol Cymru, gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio Terra Firma ar 8 Chwefror, a Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno Y Tad, sef ei haddasiad Cymraeg o The Father, gan Florian Zeller, rhwng 8-9 Mawrth. Os ydych yn chwilio am ddrama, bydd Cwmni Theatr y Torch yn dychwelyd i'r Sherman rhwng 22 a 23 Chwefror i gyflwyno Grav, sef drama am yr arwr o Gymro, 22 a 23 Chwefror i gyflwyno Grav, sef drama am yr arwr o Gymro, Ray Gravell. Bydd Cannonballista, gan Liz Clarke, yn cyrraedd Caerdydd ar 8 Mawrth, Education, Education,
Education rhwng 1 a 2 Mai, a National Theatre Connections Festival yn dychwelyd rhwng 12 a 14 Ebrill. Mae Gwanwyn 2018 yn dymor cryf i gefnogwyr y byd comedi: bydd Mark Thomas yn cyflwyno ei sioe newydd, Showtime from the Frontline, yng Nghaerdydd ar 21 Chwefror, yna bydd sioe Griff Rhys Jones, Where Was I?, i'w gweld ar 14 Mawrth, a bydd Bridget Christie yn perfformio ei sioe newydd, What Now?, yn Theatr y Sherman ar 24 Mai. Mae yna lu o sioeau plant y tymor hwn i apelio at bob oedran. Tiddler and other Terrific Tales, gan Julia Donaldson, rhwng 22 a 23 Chwefror; cynhyrchiad fyth boblogaidd Horrible Histories, More Best of Barmy Britain, rhwng 16 a 17 Mawrth; antur na all plant ond breuddwydio amdani yn The Flying Bedroom, rhwng 6 a 7 Ebrill; y sioe wyddoniaeth wych, Braniac Live, ar 10 Ebrill, ac addasiad o Tom Thumb, wedi'i ysgrifennu a'i berfformio gan seren CBeebies, Patrick Lynch, rhwng 1 a 2 Mehefin. Heb anghofio am gefnogwyr cerddoriaeth, bydd sioe wobrwyol Mark Ravenhill a Conor Mitchell, Ten Plagues, i'w gweld ar 13 Mawrth; yn ogystal â rifiw gerddorol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o waith Andrew Lloyd Webber, One More Look, rhwng 27 a 31 Mawrth
Sherman Theatre  
web site
: www.shermantheatre.co.uk
VANESSA WILLIAMS
e-mail: Vanessa.Williams@shermantheatre.co.uk
Monday, November 27, 2017back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk