|
CASTIO WEDI’I GYHOEDDI AR GYFER PREMIERE BYD TREMOR GAN BRAD BIRCH |
Mae’r cast ar gyfer Tremor gan Brad Birch yn Theatr y Sherman wedi ei gyhoeddi. Bydd y cynhyrchiad, wedi’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr y Sherman David Mercatali, yn rhedeg o 12 Ebr – 5 Mai yn y Sherman (Noson y Wasg 17 Ebr 7.00yh).Bydd Lisa Diveney (Green Green Grass) a Paul Rattray (Jamestown, Game of Thrones) yn chwarae Sophie a Tom, cwpl wedi’u rhwygo ar wahan gan drasiedi. Wrth ddod wyneb i wyneb pedair mlynedd yn ddiweddarach, mae’n dod yn amlwg fod ysgytwad nid yn unig yn gallu’ch rhwygo’n ddarnau, ond yn gallu eich newid am byth. Tremor fydd y cynhyrchiad cyntaf i Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr y Sherman, David Mercatali, ymgymryd â hi yma yn Theatr y Sherman. Dywed David ‘Tremor is a timely and important play which I am honoured to be working on. I am looking forward to making my debut in the Sherman Studio.’ Bydd Tremor yn Theatr y Sherman rhwng 12 Ebr – 5 Mai, mae’r tocynnau yn £16 (Consesiynau £2 i ffwrdd | Dan 25 Hanner Pris) ac mae modd eu prynu trwy alw’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 neu arlein ar shermantheatre.co.uk. | www.shermantheatre.co.uk 12 Ebr – 5 Mai 2018, 7.30pm (Noson y Wasg 17 Ebr, 7.00pm); 28 Ebr, and 3 & 5 Mai 2.00pm Noson y Wasg: 17 Ebr 2018, 7.00pm Tocynnau £16 | Gostyngiadau £2 i fwrdd | Dan 25 hanner pris Trafodaeth Wedi-sioe 24 Ebr & 3 Mai Penawdau, 19 Ebr 7.30pm |
| Theatr Sherman Caerdydd web site: www.shermantheatre.co.uk |
| Vanessa Williams e-mail: Vanessa.Williams@shermantheatre.co.uk |
| Thursday, February 1, 2018 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae’r cast ar gyfer Tremor gan Brad Birch yn Theatr y Sherman wedi ei gyhoeddi. Bydd y cynhyrchiad, wedi’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr y Sherman David Mercatali, yn rhedeg o 12 Ebr – 5 Mai yn y Sherman (Noson y Wasg 17 Ebr 7.00yh).