|
WOMAN OF FLOWERS by/gan SIÔN EIRIAN after/gan ddilyn SAUNDERS LEWIS |
Cyd-Gynhyrchiad Theatr Pena | Taliesin Arts Centre Co-ProductionYn teithio Cymru: 1af Chwefror tan 9fed Mawrth 2018 Noson y Wasg: Gwener 2il Chwefror 2018 Perfformiad wedi ei sain-ddisgrifio: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe, Sadwrn 3ydd o Chwefror Capsiynau: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, Sadwrn 17eg Chwefror Capsiynau: Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Gwener 23ain Chwefror Mae Theatr Pena yn dychwelyd gyda cyd-gynhyrchiad cyntaf y Cwmni gyda Canolfan y Celfyddydau Taliesin, gyda llwyfaniad deinamig a gweledol gyffrous o hen chwedl am frad a dial. Mae Woman of Flowers yn addasiad barddonol cyhyrog o chwedl Blodeuwedd o’r Mabinogi gan yr awdur Cymraeg arobryn Sion Eirian, ac mae’n cyfuno elfennau o ddrama fydryddol enwog Saunders Lewis gyda deunydd gwreiddiol i greu ffantasi hudolus a thywyll. Mae’r cast yn cynnwys Aelodau Cwmni Theatr Pena, yr actoresau arobryn Betsan Llwyd fel y dduwies chwerw, Arianrhod ac Eiry Thomas fel y dewin maleisus, Gwydion a’r actores a’r gantores adnabyddus Olwen Rees fel Rhagnell, morwyn ffyddlon Blodeuwedd. Dychwela Rhys Meredith, a fu’n chwarae rhan Tom Wingfield yn The Glass Menagerie, at y cwmni i chwarae’r arglwydd bradwrus, Gronw. Yn ymddangos gyda Theatr Pena am y tro cynta mae’r actores arobryn Sara Gregory fel merch y blodau, Blodeuwedd ac Oliver Morgan-Thomas fel y tywysog a’r rhyfelwr a gafodd ei fradychu, Llew. Mae’r Cyfarwyddwr Erica Eirian, y Cyfansoddwr Peter Knight, y Cyfarwyddwr Symud Caroline Lamb, y Cynllunydd Holly McCarthy, y Cynllunydd Goleuo Kay Haynes a’r Cynhyrchydd Creadigol Ceri James, sef y tîm a greodd gynhyrchiad teithiol llwyddiannus y Cwmni o The Glass Menagerie yng ngwanwyn 2016, nawr yn croesawu atynt y Dyn Camera Peter Firth a’r Golygydd Ffilm a’r enillydd BAFTA Dafydd Hunt. Gyda’i gilydd mae nhw wedi creu cynhyrchiad sy’n wahanol iawn i arlwy arferol y Cwmni gan asio testun barddonol, ffilm, symud a cherddoriaeth i greu profiad cyffrous newydd i’r gynulleidfa. Mae Woman of Flowers yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe am rediad o dri perfformiad: Iau 1 Chwefror, Gwener 2 Chwefror (Noson y Wasg) a Sadwrn 3 Chwefror cyn teithio Cymru o Fawrth 6 Chwefror tan Gwener 9 Mawrth yn y lleoliadau a ganlyn: Aberdaugleddau Theatr y Torch, Aberteifi Theatr Mwldan, Pentre’r Eglwys, Theatr Gartholwg, Coed Duon Sefydliad y Glowyr, Casnewydd Glan yr Afon, Caerdydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (dau berfformiad), Aberhonddu Theatr Brycheiniog, Yr Wyddgrug Theatr Clwyd (dau berfformiad), Aberystwyth Canolfan y Celfyddydau, Caerfyrddin Y Lyric, Y Drenewydd Hafren, Pwllheli Neuadd Dwyfor, Caernarfon Galeri ((dau berfformiad). |
| Theatr Pena web site: theatrpena.co.uk/ |
| Megan Merrett e-mail: meganmerrett@hotmail.co.uk |
| Thursday, February 8, 2018 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Pena | Taliesin Arts Centre Co-Production