|
Theatr Genedlaethol Cymru in association with Pontio Y Tad by Florian Zeller Welsh translation by Geraint Løvgreen |
Bydd Y Tad yn agor yn Pontio, Bangor, nos Fercher 21 Chwefror, ac yn teithio ledled Cymru tan 16 MawrthY Tad opens this Wednesday, 21 February, at Pontio, Bangor, and will tour across Wales until 16 March “Mae ’na bethau rhyfedd yn digwydd o’n cwmpas ni. Wyt ti’m ’di sylwi?” Mae byd y tad a’i ben i waered. Pwy ydi’r bobl ddieithr yma yn ei dŷ? Ai ei dŷ o ydi hwn, tybed? Dyma stori ddirdynnol am ŵr sy’n methu deall yr hyn sy’n digwydd iddo pan fo’i gof yn dadfeilio, a merch sy’n ceisio dygymod â salwch ei thad. Trosiad newydd i’r Gymraeg o Le Père, enillydd Gwobr Molière 2014 am y Ddrama Orau, ac enillydd cystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2016. “Dwi yn ’y nhŷ fy hun, tydw? Yndw? . . . Nach’dw?. . . ’Y nhŷ i ydi hwn, yndê?” Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd Cast: Dyfan Roberts, Catrin Mara, Dafydd Emyr, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn, Mirain Fflur Mynediad i’r di-Gymraeg drwy gyfrwng ap Sibrwd. Manylion llawn yma. Canllaw oed 11+ Yn cynnwys golygfa ag elfen o drais a allai beri gofid i rai On tour across Wales 21 February – 16 March 2018 “There are strange things happening around us. Haven’t you noticed?” The father’s world is topsy-turvy. Who are these strangers in his house? Is it his house at all? This is a heart-rending story about a man who is failing to understand what is happening to him as his memory crumbles, and a daughter who is struggling to come to terms with her father’s illness. A new Welsh translation of Le Père, winner of the Molière Award 2014 for the Best Play, and winner of the competition to Translate a Play into Welsh at the National Eisteddfod of Wales, 2016. “I’m in my own house, aren’t I? Am I? . . . No? . . . This is my house, isn’t it?” Director: Arwel Gruffydd Cast: Dyfan Roberts, Catrin Mara, Dafydd Emyr, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn, Mirain Fflur This is a Welsh-language production. The Sibrwd app provides a live audio translation for non-Welsh speakers and Welsh beginners. Full information is available here. Age guidance 11+ Includes a scene with an element of violence which some may find disturbing |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: theatr.cymru/ |
| thgc@theatr.com e-mail: thgc@theatr.com |
| Monday, February 19, 2018 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Bydd Y Tad yn agor yn Pontio, Bangor, nos Fercher 21 Chwefror, ac yn teithio ledled Cymru tan 16 Mawrth