|
PERFFORMIADAU I’R CHWILFRYDIG DAW’R GWANWYN Â THYMOR NEWYDD O WAITH YN Y STIWDIO WESTON, FFRESH, TŶ DAWNS AC ARDALOEDD CYHOEDDUS Y GANOLFA |
Mae ‘Perfformiadau i’r Chwilfrydig’ yn dymor o waith newydd cyffrous a nodedig gyda’r goreuon ym myd theatr a pherfformio cyfoes – gan gynnwys comedi, cabaret, cerddoriaeth a pherfformiadau llwyfan agored gydag artistiaid yng Nghymru a thu hwnt. Wedi ei ysgogi gan leisiau a straeon dyma rhaglen sy’n caniatáu’r gynulleidfa i dreiddio i materion cyfoes.Mae gofodau perfformiadau’r Chwilfrydig yn cynnwys Stiwdio Weston – yn agos atoch, y lle i gynulleidfa trochi mewn gwaith newydd; ffresh – gofod anffurfiol a bywiog, y lle perffaith i fwynhau amser gyda ffrindiau, coctels, cabaret a chomedi; Tŷ Dawns – gyda gofodau dros dro am berfformiadau penodol ac ardaloedd cyhoeddus y Ganolfan – lle bydd gweithgareddau am ddim i’r teulu yn plethu gyda themâu cynyrchiadau sy’n ymweld. Mae’r rhaglen ddethol wedi ei hysbrydoli a’i chyflyri gan artistiaid sy’n ferched, ac yn cynnig cyfle i’r gynulleidfa i weld y byd drwy lygaid merch. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys gwaith ‘Ar y gweill’ ar gyfer y rheiny sy’n chwilfrydig ynglŷn â’r broses o greu theatr yng Nghymru. Gall cynulleidfaoedd brofi camau cyntaf cyfres o brosiectau ar waith yn y Stiwdio Weston yr Ebrill yma a dod yn rhan o’r broses artistig. Bydd y tymor yn cynnwys sioeau Cymraeg ei hiaith a sioeau wedi eu hanelu at deuluoedd a phobl ifanc, gyda nifer o berfformiadau hygyrch gan gynnwys rhai gyda chapsiynau,, BSL, Teithiau Cyffwrdd, Disgrifiad Clywedol a Pherfformiadau Ymlaciedig. Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow: “Bydd y tymor newydd yma’n cadwyni cenedlaethau ac ysbrydoli ysfa ynoch i drio rhywbeth newydd. Rydyn ni’n falch o allu cynnig rhaglen amrywiol o waith nodedig newydd, sy’n croesawu rhai o’r artistiaid a chwmnïoedd gorau ym myd theatr a pherfformio yng Nghymru a thu hwnt i Ganolfan Mileniwm Cymru.” Mae’r tymor yn cynnwys cynhyrchiad llwyfan o sioe boblogaidd Pheobe Waller Bridge, ‘Fleabag’, gan DRYWHITE a Soho Theatre, drama ddirdynnol Cardboard Citizens, ‘Cathy’, cynyrchiadau newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales a sioeau teulu gydag ‘Almost Always Muddy’ a ‘The Girl with Incredibly Long Hair’. Yn y cyfamser mae’r tymor yn ffresh yn cychwyn gyda pherfformiad disglair gan Rachel Williams ar 16 Mawrth ac yn cynnwys nosweithiau preswyl fel Hello Cabaret (31 Mawrth), y comedïwraig Kiri Pritchard McLean (17 Mawrth), Arddangosiad Gŵyl Gomedi Machynlleth (7 Ebrill), Cwpwrdd Nansi a Trac Cymru yn cyflwyno Alaw (23 Mawrth), y gantores jazz Elaine Delmar (24 Mawrth) a’r comedïwr dwyieithog Connie Orff (18 Mai). Gwelir y rhaglen lawr ar gyfer ‘Perfformiadau i’r Chwilfrydig’ isod: UNEXPLODED ORDNANCES (UXO) gan Split Britches Gan blethu perfformiad wedi’i ysbrydoli gan Dr Strangelove a fforwm fentrus i gynnal trafodaeth gyhoeddus, mae Unexploded Ordnances yn rhoi sylw i heneiddio, pryder, dyheadau cudd a sut i edrych tua’r dyfodol pan fydd hwnnw’n ansicr. Yn ein hystafell sefyllfa, gwahoddir 12 o aelodau’r gynulleidfa i fod yn Gyngor o Hynafgwyr a fydd yn trafod materion cyfoes y byd, wrth i Split Britches bupro’r cyfan a’u sylwadau dychanol a’u hiwmor. 27 – 31 MAWRTH 7PM / STIWDIO WESTON MINEFIELD – Cynhyrchiad Lift gan Lola Arias Mae chwe chyn-filwr a frwydrasant yn erbyn ei gilydd yn rhyfel y Falklands/Malvinas yn wynebu ei gilydd ar draws y llwyfan y tro yma. Maen nhw’n dod ynghyd i rannu atgofion, ffilmiau, lluniau a chan wrth gofio eu profiadau rhyfel ac ymgorffori’r ffigyrau gwleidyddol oedd yn gyfrifol amdano. 5 – 7 EBRILL 8PM / STIWDIO WESTON NYRSYS gan Theatr Genedlaethol Cymru (ar y cyd â Pontio) Direidi, chwaergarwch a theimlad cryf o alwedigaeth. Dyma gipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau a nyrsys go iawn. 17 EBRILL 8PM / STIWDIO WESTON DWY gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Urdd Gobaith Cymru Dwy chwaer. Dwy ddramodwraig newydd. Dwy ddrama. Darlleniad cyhoeddus o ddwy ddrama fu’n fuddugol yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: ‘Ansh’ gan Lois Llywelyn Williams (2016) a ‘Lon Terfyn’ gan Mared Llywelyn Williams (2017). Rhan o raglen Theatr Gen Creu, menter newydd Theatr Genedlaethol Cymru. 17 EBRILL 8PM / STIWDIO WESTON SISTERS gan National Theatre Wales gyda Junoon Theatre, Mumbai (Cefnogwyd gan Cyngor Prydeinig, Cyngor Celfyddydau Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) Sgwrs sy’n rhychwantu cyfandiroedd ynglŷn a bod yn fenyw De Asiaidd heddiw. Hanner cofio pytiau o straeon tu ol y llen, straeon sydd wedi’u gadael ar ol ar drenau ac mewn lolfeydd meysydd awyr. Doniol, dirdynnol, pwerus a phoenus. 20 APRIL 8PM/ STIWDIO WESTON PERFFORMIADAU LLWYFAN AGORED Byddwch y cyntaf i weld y perfformiadau datblygedig yma sydd heb eu cyhoeddi eto. Dyma’ch cyfle i weld gwaith newydd ecsgliwsif a bod yn rhan o broses creadigol cyffrous. Cadwch olwg am fanylion. 10 – 14 EBRILL 8PM/STIWDIO WESTON A DANGEROUS WOMAN gyda Manjeet Mann Cyfeiriwyd at Manjeet Mann yn ddiweddar fel ‘dynes beryg’. Felly dyma hi’n archwilio’r hyn mae’n golygu i fod yn gryf a pheryglus. A fyddech chi’n meiddio herio cydymffurfiaeth a mynnu gwrandawiad? 19 EBRILL 8PM/STIWDIO WESTON CATHY gan Cardboard Citizens (Gyda fforwm theatr a sgwrs ar ôl y sioe) Mewn drama pum-seren sydd wedi ei hymchwilio ar y cyd â’r elusen digartrefededd Shelter ac wedi ei hysbrydoli gan ffilm Ken Loach, Cathy Come Home, mae’r dramodydd arobryn, Ali Taylor, yn ailddychmygu’r stori mewn cynhyrchiad dirdynnol, gonest a phersonol. Beth yw goblygiadau’r cynnydd dramatig mewn prisiau tai, boniddigeiddio ac adleoli gorfodol? 23 – 24 EBRILL 8PM/STIWDIO WESTON FLEABAG gan DRYWRITE a Soho Theatre Ar ôl ennill gwobr BAFTA am y gyfres BBC, mae DryWrite and Soho Theatre yn cyflwyno cynhyrchiad llwyfan arbennig a phoblogaidd o sioe Pheobe Waller-Bridge. Gan faglu trwy ddrysfa o bryder cymdeithasol, cyfweliadau trychinebus am swyddi a rhyw dibwys, mae Fleabag yn cyflwyno stori hynod ddoniol a gonest o fath arbennig o fenyw yn byw ei math hi o fywyd. 26 EBRILL– 5 MAI 8PM A MATINÉE 2PM SADWRN/STIWDIO WESTON ALMOST ALWAYS MUDDY gan Likely Story a Kirsty Harris Dyma sioe deulu rhyngweithiol a byrfyfyr ynglŷn â thanio’r dychymyg, hwyl wrth chwarae, bod yn feiddgar a darganfod dy fod yn ddewrach ac yn gryfach nag y gwyddost. Yr Iard Stori, mae trysorau cudd y tu mewn… paledi, tiwbiau, rhwydi, bwcedi, jync a llond cist o bosibiliadau. Y gynulleidfa yw’r Adeiladwyr Stori sy’n gwneud y gorau o’r deunyddiau amrywiol er mwyn adeiladu lleoliad ar gyfer stori’r diwrnod.Yna bydd Ceidwadwyr yr Iard Stori yn creu chwedl epig gyda’ch syniadau a’ch creadigaethau. Mae pob un sioe yn antur unigryw! Bydd hyd yn oed fwy o hwyl i’r teulu yn ystod eich ymweliad i’r Ganolfan; edrychwch ar ein gwefan yn nes i’r amser am fanylion pellach. 1 – 8 EBRILL 11AM A 3PM/THE STORY YARD THE GIRL WITH INCREDIBLY LONG HAIR gan We Made This (Cefnogwyd gan Cyngor y Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Creu Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru) Mae’r sioe deulu yma’n ail-ddychmygu ac addasu stori Rapunzel ar gyfer ein hoes ni, ac mae’n sicr o fod yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan. Dilynwch nhw i mewn i’r goedwig, er mwyn ymgolli yn ei golygfeydd, synau a’i harogleuon, wrth i’r stori ddod yn fyw o’ch cwmpas. 10 – 15 EBRILL 11AM A 3PM/STIWDIO WESTON AMUSICAL Gyda Jayde Adams a Kiri Pritchard-McLean yn cyflwyno, bydd pum comedïwr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd a pherfformio eu hoff gân sioe gerdd, gyda’r band profiadol, Dave and The Quavers. 21 EBRILL 8PM/STWIDIO WESTON ------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------ FFRESH… RACHEL WILLIAMS LIVE 16 MAWRTH 9PM HELLO CABARET 31 MAWRTH A 5 MAI 9PM APPROPRIATE ADULT gyda Kiri Pritchard-McLean 17 MAWRTH 9PM ALAW 23 MAWRTH 9PM ELAINE DELMAR 24 MAWRTH 9PM FIRST LADY 30 MAWRTH 9PM TIGERFACE & FRIENDS 6 EBRILL 9PM ARDDANGOSIAD GWYL GOMEDI MACHYNLLETH 7 EBRILL 9PM WHO RUNS THE WORLD? 13 EBRILL 9PM VANESSA KISUULE: SEXY 14 EBRILL 9PM HELLO LA VOIX 20 EBRILL 9PM DR DEAN BURNETT: THE HAPPY BRAIN 21 EBRILL 9PM ADELE IS YOUNGER THAN US 27 EBRILL 9PM CABARELA 28 EBRILL 9PM DAVE JONES QUARTET 4 MAI 9PM SNOWPOET 12 MAI 9PM CONNIE ORFF 18 MAI 9PM PEACEKEEPING/ THE FILMMAKER AND THE ORGAN TRADER 19 MAI 8PM ------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------ TY DAWNS A CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN CYFLWYNO… LADIES’ NIGHT gyda Lucky Trimmer 14 EBRILL 7.30PM/DANCEHOUSE |
| Canolfan Mileniwm Cymru web site: www.wmc.org.uk/ |
| Rhian Richards e-mail: rhian.richards@wmc.org.uk |
| Friday, February 23, 2018 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae ‘Perfformiadau i’r Chwilfrydig’ yn dymor o waith newydd cyffrous a nodedig gyda’r goreuon ym myd theatr a pherfformio cyfoes – gan gynnwys comedi, cabaret, cerddoriaeth a pherfformiadau llwyfan agored gydag artistiaid yng Nghymru a thu hwnt. Wedi ei ysgogi gan leisiau a straeon dyma rhaglen sy’n caniatáu’r gynulleidfa i dreiddio i materion cyfoes.