|
Mae ail-ddychmygu stori Rapunzel yn addo bod yn brofiad bythgofiadwy i'r teulu cyfanWe Made This mewn partneriaeth â Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru |
Dros y Pasg, bydd We Made This yn cyflwyno ei sioe newydd The Girl with Incredibly Long Hair, ailddychmygiad o Rapunzel, i Goed Duon a Chaerdydd. Yn gynhyrchiad theatr uchelgeisiol ac ymdrochol i gynulleidfaoedd ifanc, bydd The Girl with Incredibly Long Hair yn agor yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar 4 tan 6 Ebrill 2018 cyn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 10 a 15 Ebrill 2018.Gwahoddir teuluoedd i ymuno â Rapunzel a'i ffrind newydd, Daf, yn y goedwig wrth iddynt fynd ar antur i ganol y goedwig i gael eu hymdrochi yn ei golygfeydd, ei seiniau a'i harogleuon, gyda'r stori'n datblygu o amgylch y gynulleidfa. Sioe deulu newydd yw The Girl with Incredibly Long Hair gan We Made This sy'n ail-ddychmygu stori Rapunzel ar gyfer ein hoes, ac sy'n addo bod yn brofiad bythgofiadwy i'r teulu cyfan. Mae'r cast yn cynnwys Connor Allen (Daf), Rebecca Killick (Mam) a Roanna Lewis (Rapunzel), a'r cyfarwyddwr yw Matt Ball. Mae'r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Alison Neighbour (Dyluniwr), Elanor Higgins (Dyluniwr Goleuadau), Sam Jones (Dyluniwr Sain). Meddai Matt Ball, y cyfarwyddwr; “Pan oeddem yn creu Light Waves Dark Skies, gwnaethom ddechrau sgwrs ynghylch y straeon amser gwely rydym yn eu darllen i'n plant. Roedd hi'n rhwystredig i ni yn yr 21ain ganrif fod cynifer o lyfrau plant dal yn darlunio golwg hen ffasiwn iawn o'r byd. Sawl stori sy'n cynnwys tywysoges yn aros i gael ei hachub gan dywysog neu ferch sy'n hoffi ffrogiau disglair a bachgen sy'n hoffi bod yn fwdlyd? O'r trafodaethau hyn y daeth The Girl with an Incredibly Long Hair; ailddychmygiad o Rapunzel, lle nad oes rhaid iddi gael ei hachub gan y tywysog. Dyma'r math o sioe rydym am i'n plant ei gweld ac ni allwn aros i rannu'r stori hon â chynulleidfaoedd ifanc a'u teuluoedd yn ne Cymru dros y Pasg." Bydd perfformiadau'n cynnwys perfformiad hamddenol yn y ddau leoliad sy'n agored i unrhyw un, ond fe'u bwriedir ar gyfer pobl sy'n ei chael hi'n anodd mynd i'r theatr, yn enwedig pobl sydd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig, anabledd dysgu neu anhwylder synhwyraidd a chyfathrebu. Bydd dau berfformiad Iaith Arwyddion Prydain gan Sami Thorpe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cwmni yw We Made This y mae ei enw'n esbonio natur gydweithiol ein proses. Nid yw'r cwmni'n defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig oni bai fod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi'i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, mae wedi’i leoli ym Mhontypridd, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect. Manylion y perfformiadau We Made This mewn partneriaeth â Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru. Dros y Pasg, dewch i ymuno â Rapunzel, ei mam a'i ffrind newydd, Daf, yn y goedwig wrth iddynt fynd ar antur. Bydd angen eich help chi arnynt. Sioe newydd i'r teulu yw The Girl with Incredibly Long Hair gan We Made This sy'n ail-ddychmygu stori Rapunzel ar gyfer ein hoes ni. Wedi'i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Creu Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Sefydliad y Glowyr Coed Duon Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB 4 Ebrill, 4pm 5 Ebrill, 11am a 3pm 6 Ebrill, 11am (Perfformiad hamddenol a Thaith Gyffwrdd*) * Uchafswm o 20 o docynnau ar gyfer y Daith Gyffwrdd, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 10.15am a 10.45am. Prynwch eich tocynnau drwy'r swyddfa docynnau. Tocynnau: £5 / £3.50 (sy'n cynnwys ffi cadw lle o 50c) Tocynnau a gwybodaeth: www.blackwoodminersinstitute.com / 01495 227206 Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru Bae Caerdydd, Caerdydd CF10 5AL 10 – 15 Ebrill, 11am a 3pm 13 Ebrill, 11am a 3pm (Perfformiadau wedi'u Dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain) 14 a 15 Ebrill, 11am (Perfformiad Hamddenol a Thaith Gyffwrdd*) * Uchafswm o 20 o docynnau ar gyfer y Daith Gyffwrdd, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 10.15am a 10.45am. Prynwch eich tocynnau drwy'r swyddfa docynnau. Tocynnau: £7 Tocynnau a Gwybodaeth: wmc.org.uk Cast: Connor Allen (Daf) Rebecca Killick (Mam) Roanna Lewis (Rapunzel) Cyfarwyddwr: Matt Ball Rheolwr Llwyfan ar y Llyfr: Katie Bingham Ymgynghorydd Mynediad: Jonny Cotsen Rheolwr y Cynhyrchiad: Jacqui George Dyluniwr Goleuadau: Elanor Higgins Swyddog y Wasg a Marchnata: Lowri Johnston Dramaturg: Kelly Jones Dyluniwr Sain: Sam Jones Dyluniwr: Alison Neighbour Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Gemma Prangle Cynhyrchydd: Nia Skyrme Swyddog Ymgysylltu Cymunedol: Anna Suschitzky |
| Lowri Johnston web site: https://lowrijohnston.wordpress.com/amdanai/ |
| Lowri Johnston e-mail: lowri.johnston@gmail.com |
| Monday, March 5, 2018 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Dros y Pasg, bydd We Made This yn cyflwyno ei sioe newydd The Girl with Incredibly Long Hair, ailddychmygiad o Rapunzel, i Goed Duon a Chaerdydd. Yn gynhyrchiad theatr uchelgeisiol ac ymdrochol i gynulleidfaoedd ifanc, bydd The Girl with Incredibly Long Hair yn agor yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar 4 tan 6 Ebrill 2018 cyn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 10 a 15 Ebrill 2018.