|
CERDDORIAETH NEWYDD, COMISIYNAU THEATR NEWYDD, LLEOLIADAU NEWYDD – GŴYL Y LLAIS YN DATGELU MWY AM RAGLEN 2018 |
Bydd Elvis Costello, Angélique Kidjo a Gwenno yn rhan o’r ŵyl gelfyddydau ryngwladol ddwyflynyddol, ynghyd â dramâu newydd, opera, sgyrsiau a llawer mwy7 – 17 Mehefin 2018 Lleoliadau drwy Gaerdydd Gŵyl wedi’i chreu gan Ganolfan Mileniwm Cymru Sioeau newydd ar werth am 9am heddiw festivalofvoice.wales/cy #GyLl2018 • Cyhoeddi’r ail restr o artistiaid anhygoel a fydd yn rhan o’r ŵyl gelfyddydau ryngwladol eleni, gŵyl sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd • Bydd Elvis Costello & The Imposters ac Angélique Kidjo yn ymuno â Patti Smith, Gruff Rhys, Billy Bragg a Passenger fel prif artistiaid y llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd • Mae’r rhaglen sy’n pontio’r celfyddydau hefyd yn cynnwys prosiectau newydd gan Gwenno, Carys Eleri, Gagglebabble, Highway One a Camille O’Sullivan, a’r rheini wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer yr ŵyl eleni • Bydd lleoliadau celfyddydol niferus, bar cudd dros dro a safleoedd unigryw drwy Gaerdydd yn rhoi llwyfan ar hyd a lled y ddinas i leisiau pwerus ac amrywiol o’r byd cerddoriaeth, y celfyddydau a’r gymuned I weld y prisiau a mwy o wybodaeth, ewch i festivalofvoice.wales/cy Bydd Elvis Costello ac Angélique Kidjo, dau artist byd-enwog sydd wedi ennill gwobrau Grammy, yn ymuno â Patti Smith, Gruff Rhys, Passenger a Billy Bragg fel prif artistiaid cerddorol Gŵyl y Llais eleni (7-17 Mehefin, ledled Caerdydd). Bydd Elvis Costello & The Imposters (17 Mehefin) yn cloi’r ŵyl 11-diwrnod yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, wrth i’r crefftwr geiriau a’r cantor unigryw drin a thrafod popeth o wleidyddiaeth i ganeuon serch. Bydd Angélique Kidjo (9 Mehefin), y gantores a’r ymgyrchydd o Benin, yn perfformio ei phrosiect diweddaraf, sef ail-ddehongliad o albwm clasurol Talking Heads, ‘Remain In Light’. Bydd caneuon cyfarwydd fel Once in a Lifetime yn cael eu haildrefnu gyda rhythmau trydanol, gitarau Affricanaidd a lleisiau cefndir aml-haenog yn creu cyflwyniad rhyfeddol sy’n pontio arddulliau. Yn ogystal â’r sioeau cerddorol mawr, mae’r ail gyhoeddiad gan Ŵyl y Llais yn cynnwys prosiectau celfyddydol a theatr niferus, a'r rheini wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer yr ŵyl eleni. Bydd Gwenno, yr artist seic-pop arbrofol o Gymru, yn cyflwyno Edrica (15 Mehefin), sef dathliad drwy sain a llun o fywyd a gwaith y bardd a’r arloeswraig ym clytwaith, Edrica Huws o Fôn, gan weld tebygrwydd rhwng creu cerddoriaeth electronig gyfoes a phwytho clytwaith. Mae perfformiadau arbennig eraill gan fenywod, a’r rheini wedi’u creu ar gyfer Gŵyl y Llais, yn cynnwys: Lovecraft (o 5 Mehefin) gan Carys Eleri, lle bydd yr actores a’r gantores o Gymru yn cyflwyno sioe un fenyw sy’n cyfuno cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chomedi wrth edrych ar seiliau gwyddonol cariad ac unigrwydd yn ein cymdeithas fodern; Highway One (o 5 Mehefin), sef sioe wedi’i chyfarwyddo gan Mathilde López, yn cyflwyno hanes teimladwy a hurt o ddoniol am hynt a helynt teithio i chwilio am ystyr, gyda pherfformiadau byw o’i halbwm nesaf gan Katell Keineg; Double Vision (o 6 Mehefin), profiad cyffrous sy’n cyfuno’r synhwyrau wedi’i ysbrydoli gan Hitchcock a Lehman, a hynny gan Gagglebabble, yr arbenigwyr gigiau theatr o Gaerdydd, gyda sgôr gwreiddiol gan Lucy Rivers yn cael ei berfformio gan fand byw a Lisa Jên o 9Bach; a Camille O’Sullivan yn perfformio caneuon Nick Cave & The Bad Seeds gyda Cave (12-13 Mehefin), pan fydd y gantores a’r adroddwraig straeon ryfeddol yn cyflwyno archwiliad theatrig o’r tywyllwch a’r goleuni yng ngherddoriaeth Nick Cave. Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru a Gŵyl y Llais: “Mae menywod a chân yn ganolog i gomisiynau newydd eleni. Byddan nhw'n cyffwrdd eich calon, gan wneud ichi bendroni a chwerthin, a hyd yn oed eich dychryn. Dim ond yng Nghaerdydd y gallwch chi weld y sioeau hyn, a byddwn yn rhoi llwyfan i rywfaint o’r talent eithriadol sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae cymaint i fyfyrio amdano yn y byd yn 2018, felly mae rhaglen eleni yn achub ar y cyfle i brotestio ynghyd, i wrando ar drafodaeth ac i gymryd rhan. Mae’r llais dynol yn rhywbeth democrataidd, cyfoethog ac amrywiol tu hwnt. Rwy’n gobeithio y bydd profi a darganfod y lleisiau yn yr ŵyl hon yn brofiad cadarnhaol i bobl ac yn ddathliad o’r offeryn prydferthaf rydym ni i gyd yn ei rannu.” Mae Gŵyl y Llais hefyd yn gwahodd menywod (gan gynnwys y rheini sy’n diffinio’u hunain yn fenywod neu’n anneuaidd) a merched i godi’u lleisiau gyda chyfle unwaith-mewn-oes i gymryd rhan yn PROCESSIONS, sef gwaith celf gan lu o bobl i ddathlu canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod. Ddydd Sul 10 Mehefin, bydd menywod a merched yn Belfast, Caerdydd, Caeredin a Llundain yn cerdded gyda’i gilydd, gan wisgo gwyrdd, gwyn neu borffor i gynrychioli lliwiau mudiad y swffragetiaid ac i bledio’r achos, "Rhowch Bleidlais i Fenywod”. Artichoke fydd yn cynhyrchu’r digwyddiad hwn, sydd wedi’i gomisiynu gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd PROCESSIONS yn ymddangos fel afonydd o liw drwy strydoedd y ddinas, gan greu portread byw o fenywod yn yr unfed ganrif ar hugain (cofrestrwch o 8 Mawrth yn fan hyn: processions.co.uk). Meddai Graeme drachefn, “Rydym ni’n teimlo’n hynod gyffrous o allu gweithio gydag Artichoke sy’n creu rhai o’r gweithiau celf cyhoeddus mwyaf rhyfeddol ac uchelgeisiol mewn dinasoedd ar hyd a lled y byd. Dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw ddod ag un o’u prosiectau i Gaerdydd, a’n teimlad ni oedd bod yr amseru’n berffaith i ddathlu canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod yn ystod Gŵyl y Llais, gan roi cyfle i fenywod Cymru ddod ynghyd, dathlu chwaeroliaeth a rhannu eu lleisiau.” Bydd dau o gwmnïau cenedlaethol Cymru yn cyflwyno gwaith newydd sbon. Bydd National Theatre Wales yn cydweithio â Quarantine, y trwbadwriaid theatr o Fanceinion, ar gynhyrchiad o’r enw English (o 14 Mehefin), sy’n edrych ar iaith, mudo a hunaniaeth. Cynhyrchiad wedi’i greu yng Nghymru fydd hwn ond un ac iddo safbwynt byd-eang, a’r perfformiad yn darnio caneuon pop, yn rhwygo gramadeg yn dalpiau, ac yn gwahodd pob iaith yn yr ystafell i gael ei chlywed. Y prif berfformiwr fydd Jonny Cotsen, yr actor o Gaerdydd sy’n ymgyrchydd dros y byddar. Ar hynny, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn adrodd hanes llais grymus o'r gorffennol yn Rhondda Rips It Up! (14 Mehefin) – gyda Lesley Garret yn arwain, bydd y sioe yn olrhain stori Margaret Haig Thomas (Arglwyddes y Rhondda), y swffragét o Gasnewydd a fraenarodd y tir ar gyfer ymgyrchoedd dros hawliau menywod. Y noson ganlynol, bydd Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn cyflwyno cyngerdd gan y Cyfarwyddwr Cerdd Tomáš Hanus, gyda’r soprano nodedig Angela Denoke yn perfformio ochr yn ochr â Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru (15 Mehefin). Bydd y rhaglen yn cynnwys ‘Summer Nights’ Berlioz – un o'r dilyniannau mwyaf hudolus o ganeuon cerddorfaol erioed. Mae rhaglen gerddorol yr ŵyl hefyd yn cynnwys enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig y llynedd, The Gentle Good (14 Mehefin), sy’n enwog am ei ddawn grefftus ar y gitâr a’i alawon gwerin oesol, gyda Ivan Moult yn cefnogi, ynghyd â pherfformiadau arbennig gan y ddau artist wrth i'r Mavron Quartet ymuno â nhw ar y llwyfan. At hynny, bydd yr offerynnwr amryddawn Ali Lacey, sy’n fwy adnabyddus fel Novo Amor, yn cefnogi’r gantores werin Susanne Sundfør (13 Mehefin) mewn noson llawn straeon a lleisiau i’ch swyno. Gall cynulleidfaoedd hefyd edrych ymlaen at glywed lleisiau pwerus nifer o grwpiau, yn eu plith Reykjavíkurdætur (9 Mehefin), deg o fenywod sy’n rapio o Wlad yr Iâ; A Filetta (8 Mehefin), grŵp chwe-aelod o Corsica sy’n cydblethu’u lleisiau i gyrraedd yr entrychion mewn caneuon polyffonig tair rhan; a Tank and The Bangas (8 Mehefin), sef un o fandiau mwyaf trawiadol New Orleans a fydd yn cyflwyno cyfuniad di-fai o rap, barddoniaeth lafar a neo-soul. Bydd yr offerynnwr amryddawn Orphy Robinson yn cyflwyno Astral Weeks Van Morrison (10 Mehefin), gan ddwyn ynghyd rai o chwaraewyr jazz gorau’r Deyrnas Unedig i ail-ddehongli campwaith Van Morrison o 1968. A bydd yr Atlantic Arc Orchestra (14 Mehefin) yn dod â cherddorion a chantorion traddodiadol bywiog ac uchel eu parch at ei gilydd o Ogledd Iwerddon, Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Chymru. Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: "Mae'n wych i weld digwyddiadau sydd wedi cael eu creu yng Nghymru yn ffynnu a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi digwyddiadau fel Gŵyl y Llais - a’u gweld yn tyfu. Maent yn dangos bod Cymru yn genedl fywiog, ddeinamig sy’n edrych y tu hwnt i’w ffiniau. Mae Gŵyl y Llais yn adeiladu ar dreftadaeth unigryw Cymru fel 'gwlad y gân' tra hefyd yn canolbwyntio ar feithrin talent y dyfodol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru - ac yn gyfle i ddathlu. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf yn 2016, edrychwn ymlaen at yr annisgwyl gyda’r rhaglen amrywiol ym mis Mehefin." Mae rhaglen Sgyrsiau newydd yn cael ei chyflwyno eleni mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored yng Nghymru, a hynny yn Jacob’s Market, gyda phwyslais ar Fenywod a Rhyfel a Mynegiant a Chyfathrebu. Mae Chapter hefyd wedi ymuno â'r ŵyl fel un o bartneriaid y rhaglen, a bydd yn cynnal sioeau a digwyddiadau yn ei theatr a’i stiwdios gan y label recordiau annibynnol Bubblewrap Collective (15 Mehefin), yr artist o Gaerdydd Tim Bromage (10 Mehefin), y cyfansoddwr toreithiog Jacob Wren (8-9 Mehefin), a Mouthpiece (14 Mehefin), sef siwrnai drwy’r enaid benywaidd gan Quote Unquote Collective o Toronto a sioe a fydd yn torri’r galon ac yn codi’r galon ar yr un pryd. Ar ben hynny, mae Gŵyl y Llais wedi ffurfio partneriaeth ag Anabledd Dysgu Cymru er mwyn lansio Ffrindiau Gigiau, sef cynllun cyfeillio sy’n dod â phobl sydd ag anableddau dysgu a gwirfoddolwyr sy’n rhannu’r un diddordebau ynghyd, er mwyn iddynt allu mynd i gigs gyda’i gilydd. Mae Gŵyl y Llais yn sicr o fod yn bair o syniadau newydd ac mae’n gwahodd cynulleidfaoedd ac artistiaid lleol a rhyngwladol i ddod ynghyd er mwyn clywed ei gilydd a chael eu clywed dros un ar ddeg o ddiwrnodau. Gan annog pobl i ddarganfod pethau newydd, bydd y perfformiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau celfyddydol sy’n bodoli’n barod, gofodau dros dro a safleoedd unigryw ledled Caerdydd, gan gynnwys marchnad hen bethau dri-llawr, stiwdio deledu, ac un o ystafelloedd ymarfer cefn llwyfan Canolfan Mileniwm Cymru. Meddai Sarah Dennehy, y Cynhyrchydd Creadigol Gweithredol: “Bydd ail Ŵyl y Llais yn croesawu artistiaid anhygoel o Benin, Sweden, Gwlad yr Iâ, Corsica, America, Canada a’r tu hwnt, yn ogystal â llawer o dalentau rhyfeddol o Gymru a’r Deyrnas Unedig. Mae gan wyliau celfyddydol y gallu i roi profiadau sy’n ein helpu i gofio pa mor wych y gallwn fod pan fyddwn yn mynd ati o ddifrif i roi llais i rywbeth. Mae ein rhaglen yn ceisio edrych y tu hwnt i ffiniau, gan ddathlu bywiogrwydd y celfyddydau a’r llais.” Bydd cyhoeddiad pellach am Ŵyl y Llais ar 10 Ebrill, gan ddatgelu manylion prif act gerddorol arall, gwybodaeth am ddigwyddiad wedi’i guradu gan Charlotte Church a fydd yn meddiannu adeilad Iwtopaidd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (dydd Sadwrn 16 Mehefin), ynghyd â rhagor o leisiau unigryw, grymus ac amrywiol o Gymru a’r byd. I gael tocynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i festivalofvoice.wales/cy neu ffoniwch 029 2063 6464. SIOEAU NEWYDD AR WERTH Highway One gan August 012 Cyd-gynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gŵyl y Llais Lleoliad: Stiwdio Enfys, Stad Ddiwydiannol Portmanmoor Road Dyddiad: Dydd Mawrth 5 a Dydd Mercher 6 Mehefin (rhag-ddangosiadau) Dydd Iau 7 – Dydd Sul 10 Mehefin 2018 Amser: Amrywiol Pris: £15 Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) gan Carys Eleri Cyd-gynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gŵyl y Llais Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Dydd Mawrth 5 Mehefin – dydd Iau 7 Mehefin (rhag-ddangosiadau) Dydd Gwener 8 – Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2018 Amser: Amrywiol Pris: £15 Tank and the Bangas Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Wener 8 Mehefin 2018 Amser: 9pm Pris: £14 Every Song I’ve Ever Written: Solo Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter Dyddiad: Dydd Gwener 8 Mehefin 2018 Amser: 4pm Pris: AM DDIM A Filetta Lleoliad: Y Tabernacl, Yr Aes Dyddiad: Nos Wener 8 Mehefin 2018 Amser: 7pm Pris: £20 Reykjavíkurdætur Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Sadwrn 9 Mehefin 2018 Amser: 9pm Pris: £8 Double Vision gan Gagglebabble Cyd-gynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gŵyl y Llais Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Dydd Mercher 6 Mehefin (rhag-ddangosiad) Dydd Iau 7 – Dydd Sul 17 Mehefin 2018 Amser: Amrywiol Pris: £15 Every Song I’ve Ever Written: Band Night Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter Dyddiad: Nos Sadwrn 9 Mehefin 2018 Amser: 7.30pm Pris: £14 Angélique Kidjo Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Sadwrn 9 Mehefin 2018 Amser: 7pm Prisiau: £17.50 - £20.50 PROCESSIONS Dyddiad: Dydd Sul 10 Mehefin 2018 Man Cyfarfod: I’w gadarnhau Amser: I’w gadarnhau Dr Sally Austen yn sgwrsio â Bella Bathurst: Sound Lleoliad: Jacob’s Market Dyddiad: Dydd Sul 10 Mehefin 2018 Amser: 4pm Pris: £6.50 Orphy Robinson yn Cyflwyno Astral Weeks Van Morrison Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Dydd Sul 10 Mehefin 2018 Amser: 5.30pm Pris: £8 Damp Sweats the House Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter Dyddiad: Nos Sul 10 Mehefin 2018 Amser: 8pm Pris: £12 Cave Camille O’Sullivan yn perfformio caneuon Nick Cave & The Bad Seeds Cyd-gynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gŵyl y Llais Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Fawrth 12 a Nos Fercher 13 Mehefin 2018 Amser: 9pm Pris: £20 Susanne Sundfør + Novo Amor Lleoliad: New Theatre Dyddiad: Nos Fercher 13 Mehefin 2018 Amser: 9pm Pris: £18 Opera Cenedlaethol Cymru: Rhondda Rips It Up! Lleoliad: New Theatre Dyddiad: Nos Iau 14 Mehefin 2108 Amser: 7.30pm Pris: £25 Atlantic Arc Orchestra Lleoliad: Theatr y Sherman Dyddiad: Nos Iau 14 Mehefin 2018 Amser: 8.30pm Pris: £20 The Gentle Good a The Mavron Quartet + Ivan Moult Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Iau 14 Mehefin 2018 Amser: 7pm Pris: £10 Mouthpiece Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter Dyddiad: Nos Iau 14 Mehefin 2018 Amser: 8pm Pris: £14 English National Theatre Wales a Quarantine gyda Gŵyl y Llais Canolfan Mileniwm Cymru Lleoliad: Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: 14 – 17 Mehefin (rhag-ddangosiadau) 18 – 23 Mehefin 2018 Amser: Amrywiol Pris: £15 Gwenno - Edrica Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Wener 15 Mehefin 2018 Amser: 7.30pm Pris: £12 Finery + Charlie Francis a Cotton Wolf Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter Dyddiad: Nos Wener 15 Mehefin 2018 Amser: 9pm Pris: £8 Angela Denoke gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Wener 15 Mehefin 2018 Amser: 7.30pm Pris: I’w gadarnhau Sgyrsiau: Iaith y Corff gyda Jennifer Hartley Lleoliad: Jacob’s Market Dyddiad: Dydd Gwener 15 a Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2018 Amser: 2pm ac 11pm Pris: £10 Sex Ed Assembly Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter Dyddiad: Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2018 Amser: 2pm Pris: £3 Elvis Costello & The Imposters Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Sul 17 Mehefin 2018 Amser: 7:30pm Prisiau: £37.50 - £46.50 SIOEAU ERAILL SYDD EISOES WEDI’U CYHOEDDI Billy Bragg + Nadine Shah Lleisiau Protest Lleoliad: Theatr Donald Gordon – Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Iau 7 Mehefin 2018 Amser: 7.30pm Prisiau: £16 - £26.50 Laura Veirs + act yn cefnogi Lleoliad: Eglwys Sant Ioan, Treganna Dyddiad: Nos Sadwrn 9 Mehefin 2018 Amser: 8.30pm Pris: £17.50 Gruff Rhys a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Lleoliad: Theatr Donald Gordon – Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Sul 10 Mehefin 2018 Amser: 8pm Prisiau: £17.50 - £29.50 Geiriau a Cherdd yng nghwmni Patti Smith Lleoliad: Eglwys Sant Ioan, Treganna Dyddiad: Nos Lun 11 Mehefin 2018 Amser: 9.30pm Pris: £20 Noson yng nghwmni Patti Smith Gyda Lenny Kaye a Tony Shanahan Lleoliad: Theatr Donald Gordon – Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Fawrth 12 Mehefin 2018 Amser: 8pm Prisiau: £25 - £40 Passenger + act yn cefnogi Lleoliad: Theatr Donald Gordon – Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiad: Nos Iau 14 Mehefin 2018 Amser: 8pm Prisiau: £17.50 - £29.50 The Tiger Lillies: The Ballad of Sexual Dependency Lleoliad: Theatr y Sherman Dyddiad: Nos Wener 15 a Nos Sadwrn 16 Mehefin 2018 Amser: 7pm Pris: £20 Karine Polwart: Wind Resistance Lleoliad: Theatr Richard Burton – Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Dyddiad: Dydd Gwener 15 – dydd Sul 17 Mehefin 2018 Amseroedd: 7pm (15 a 16 Mehefin), 2pm (16 a 17 Mehefin) |
| Festival of Voice web site: Festivalofvoice.wales |
| Gemma White e-mail: gemma.white@wmc.org.uk |
| Tuesday, March 6, 2018 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Bydd Elvis Costello, Angélique Kidjo a Gwenno yn rhan o’r ŵyl gelfyddydau ryngwladol ddwyflynyddol, ynghyd â dramâu newydd, opera, sgyrsiau a llawer mwy