|
Mae Sir Gaerfyrddin wedi ei ddewis i fod yn gartref i Theatr Genedlaethol Cymru, sy'n gorff cenedlaethol newydd sbon. Llwyddodd y sir i gael y cytundeb er gwaethaf cryn gystadleuaeth gan siroedd eraill. Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn symud i'r ardal erbyn yr hydref, a'r disgwyl yw y bydd y cynhyrchiad cyntaf yn barod erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Y nod yw codi theatr fodern yn y sir lle bydd y cyfleusterau diweddaraf ar gael. Pentref diwylliannol Yn ogystal bydd hyn yn elfen o'r pentref diwylliannol newydd sydd ar y gweill. Bydd y cwmni yn creu rhyw 15 o swyddi newydd, gan roi hwb economaidd enfawr i'r ardal. Ar ben hynny gallai rhyw 15 o swyddi eraill gael eu creu yn ystod cynyrchiadau. Y gobaith, yn ôl y cyngor, yw y bydd y datblygiad hwn yn arwain at enw Sir Gâr gael ei gyplysu'n genedlaethol â'r theatr yn yr un modd ag y mae Stratford-Upon-Avon yn gysylltiedig â'r English National Theatre. Dywed y penaethiaid hamdden a'r celfyddydau oedd wedi cyflwyno'r cais fod y newyddion rhagorol hwn wrth eu boddau. Yr oedd tîm o Sir Gaerfyrddin yn gyfrifol am roi cyfres o gyflwyniadau gerbron y 12 aelod o fwrdd y theatr yn Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf. Llwyddodd y swyddogion i ddarbwyllo aelodau'r bwrdd taw Sir Gaerfyrddin oedd y dewis gorau. Roedd y rhai wnaeth y cais yn cynnwys Cyfarwyddwr Addysg y Cyngor Alun Davies, Cadeirydd y Cyngor y Cynghorydd Fioled Jones, Dr Mererid Hopwood ymgynghorydd celfyddydau y sir, Ioan Hefin actor cyfarwydd, Dr Medwin Hughes Prifathro Coleg y Drindod a'r Athro Hywel Teifi Edwards. Ymweld Yna bu i aelodau'r bwrdd ymweld â'r sir gan gwrdd â'r Cynghorydd Meryl Gravell, Arweinydd y Cyngor, a'r Prif Weithredwr Mark James. Bellach bydd y cwmni theatr newydd yn bwrw iddi i benodi swyddogion, gan ymgartrefu dros dro yn swyddfeydd Parc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli. Y cam nesaf fydd cael cyllid ar gyfer y theatr a chwilio am gartref parhaol ar gyfer y gwaith gweinyddol ac ar gyfer cynnal ymarferion. Yr oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi penderfynu'r llynedd fod angen cael Theatr Genedlaethol Cymru. Ni fu cwmni o'r fath yng Nghymru ers tranc Cwmni Theatr Cymru yn yr 1980au. Cylch gwaith y cwmni fydd mynd â chynyrchiadau Cymraeg ar daith ledled Cymru. Hefyd, bydd y cwmni yn gwneud gwaith yn y gymuned, gan gynnwys cynnal gweithdai mewn ysgolion. "Mae galw mawr wedi bod am theatr drwy gyfrwng y Gymraeg ers blynyddoedd lawer," meddai Colin James, Pennaeth Hamdden y Cyngor. "Rydym yn falch dros ben fod cartref y cwmni newydd yn mynd i fod ynghanol y fro Gymraeg yn Sir Gâr. Cyffrous "Mae'r newyddion hwn yn gyffrous iawn, ac yn ogystal â chreu swyddi newydd ac ychwanegu at ffyniant economaidd y fro, mae'n rhoi amlygrwydd i Sir Gaerfyrddin gan fod yn ddolen gyswllt uniongyrchol â'n blaenoriaethau ar gyfer y celfyddydau a hamdden." Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Meryl Gravell, bod hyn "yn rhagorol. Rydym yn gwneud ein gorau glas drwy'r amser i ddenu buddsoddiad newydd i'r sir. "Mae'r ffaith fod yr ardal hon wedi ei dewis yn gartref newydd i Theatr Genedlaethol Cymru yn cryfhau safle Sir Gaerfyrddin fel man o bwys y tu allan i'r brifddinas. "Bydd hyn yn creu swyddi newydd ac yn dwyn manteision go iawn yn ei sgîl i'r ardal." Yn ôl Lyn Jones, Cadeirydd y Cwmni Theatr: "Mae'r bartneriaeth newydd hon yn hynod o gyffrous. "Mae Sir Gâr wedi amlygu brwdfrydedd nid bychan, ynghyd ag ewyllys i ddwyn y maen i'r wal. "Mae sefydlu theatr Gymraeg yn rhywbeth y bu gennyf farn bendant o'i phlaid. Rydym yn edrych ymlaen i'r dyfodol." |
| BBC Wales on line web site: news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3040000/newsid_3044200/3044203.stm |
| e-mail: |
| Wednesday, May 21, 2003 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
