Haf - Summer 2019 Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Llongyfarchiadau Sain Ffagan! Rydyn ni'n falch iawn bod Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf. Cefnogwch drwy rannu'ch straeon chi am Sain Ffagan gan ddefnyddio #fysainffagan #museumoftheyear. Cofiwch am ein cyfrif Instagram newydd ni hefyd @museumwales. Congratulations St Fagans! We’re delighted that St Fagans National Museum of History has been shortlisted for the Art Fund Museum of the Year Award 2019. Help us celebrate by sharing your own St Fagans stories using #mystfagans #museumoftheyear. And don't forget about our new Instagram account @museumwales. David Nash: Cerfluniau'r Tymhorau David Nash: Cerfluniau’r Tymhorau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw'r arddangosfa fwyaf, a mwyaf uchelgeisiol o waith yr artist i'w llwyfannu yng Nghymru. Mae coed a natur yn greiddiol i gerfluniau Nash. David Nash: Sculpture through the Seasons David Nash: Sculpture through the Seasons is the largest and most ambitious exhibition of David Nash's work ever presented in Wales. Trees and the natural environment are central to Nash's sculptures. Arddangosfeydd a digwyddiadau Penwythnos Crefftau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru 15 a 16 Mehefin 2019 Gwledd Sul y Tadau Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru 16 Mehefin 2019 Mor-Ladron: Mwy na Chwedlau Amgueddfa Wlan Cymru 15 Gorffennaf - 8 Medi 2019 Haf o Lechen Amgueddfa Lechi Cymru 22 Gorffennaf - 1 Medi 2019 Coedlan yn Sain Ffagan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Tan 3 Tachwedd 2019 Exhibitions and events St Fagans Craft Weekend St Fagans National Museum of History 15 and 16 June 2019 Father' Day Feastival Big Pit National Coal Museum 16 June 2019 Pirates: The Truth Behind the Tales National Wool Museum 15 July - 8 September 2019 Summer of Slate National Slate Museum 22 July - 1 September 2019 High Ropes at St Fagans St Fagans National Museum of History Until 3 November 2019 Ysbrydoli gwirfoddolwyr Mae dros 1,000 o bobl wedi gwirfoddoli i Amgueddfa Cymru dros y 12 mis diwethaf. Mae gwirfoddolwyr yn ein helpu ni mewn gwahanol ffyrdd, o arddio, glanhau gwrthrychau, digideiddio archifau, gwneud baneri, arddangos crefft, cysylltu ag ymwelwyr a helpu gyda gwaith archeolegol. Os oes amser rhydd gennych chi gwirfoddolwch yn un o'n saith Amgueddfa. Inspiring volunteers More than 1,000 people have volunteered for Amgueddfa Cymru over the last 12 months. Volunteers help us is various ways from gardening, cleaning objects, digitising archives, making bunting, showcasing craft, engaging with visitors and helping out at archaeological digs. If you have time on your hands come and volunteer at one of our seven museums, Chwarae plant Mae'r gornel newydd i blant yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar agor! Mae'r lle'n cynnwys ' mur o ryfeddod ' pren pwrpasol sy'n cynnwys rhai sbesimenau o hanes naturiol llawn hwyl, ynghyd ag enghreifftiau o animeiddio Cymreig. Mae hyn oll yn guddiedig y tu ôl i gaeadau lliwgar i blant eu darganfod. Mae'r gornel hefyd yn cynnwys theatr bypedau llong môr-ladron, gorsaf Lego a thrac trên. It's child's play The new kids’ corner at the National Waterfront Museum in Swansea is open! The space includes a bespoke wooden ‘wall of wonder’ that contains some fun natural history specimens, along with examples of Welsh animation, all hidden behind sleek colourful shutters for children to discover. The corner also contains a pirate ship puppet theatre, a Lego station and a train track. Cymuned Port Talbot Roedd Canolfan Ddysgu Weston yn Sain Ffagan yn orlawn yn ddiweddar wrth i’r Amgueddfa dderbyn copi o Just ah likkle piece of Jamaica inna Port Talbot ar gyfer y casgliad. Ffilm yw hon sy’n seiliedig ar gyfweliadau hanes llafar gyda rhai o drigolion Port Talbot a symudodd i’r dref o Jamaica yn y 1950au-60au. Dyma gofnod pwysig o gyfraniad y gymuned hon, a chenhedlaeth o ymfudwyr o’r Caribi, i hanes Cymru yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Port Talbot Community A special community event was held at St Fagans recently to celebrate the depositing of Just ah likkle piece of Jamaica inna Port Talbot in the Museum’s collection. This film is based on oral history interviews conducted with Jamaican elders from Port Talbot who made the town their home in the 1950s-60s. These previously untold stories highlight the important contribution made by this community, and a generation of Caribbean migrants, to the history of Wales. |
| National Museum of Wales web site: https://museum.wales/ |
| National Museum of Wales e-mail: newsletter@museumwales.ac.uk |
| Thursday, May 30, 2019 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
