|
Yn dilyn lansiad llwyddiannus yng Nghaerfyddin ar Fawrth y 5ed, mae Theatr Genedlaethol Cymru, y cwmni theatr teithiol newydd a leolir yn Llanelli, wedi cyhoeddi dyddiadau’r perfformiadau oYn Debyg Iawn i Ti a Fi gan Meic Povey. Bydd y cynhyrchiad, a ddisgrifir gan y cwmni fel “drama cignoeth mewn arddull theatrig”, yn ymweld â theatrau yn yr Wyddgrug, Aberdaugleddau, Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerydd rhwng 23 Ebrill a 29 Mai. “Ar ddechrau cyfnod hanesyddol i ni fel cwmni mae medru llwyfannu drama mor bwerus a hon, gyda Bryn Fon, Siw Hughes, Gwenno Hodgklns a Glyn Pritchard yn y cast, yn rywbeth cyffrous iawn“ yn ôl Cefin Roberts, Cyfarwyddwr y ddrama . Mae’r cwmni hefyd wedi cadarnhau enwau eu pedwar actor craidd cyntaf. Bydd Owain Arwyn, Rhian Blythe, Carys Eleri Evans a Dave Taylor yn cymryd rhan yn rhai o gynyrchiadau’r cwmni, yn ogystal â gwneud gwaith mewn ysgolion ac yn y gymuned, gan gynnwys sesiynnau i ddysgwyr y Gymraeg yn ystod taithYn Debyg Iawn i Ti a Fi. Mae gwefan y cwmni www.theatr.com bellach yn fyw ac fe’i ddiweddarir yn rheolaidd o hyn allan. |
| theatr genedlathol cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Wednesday, March 24, 2004 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
