Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

DATHLU’R CELFYDDYDAU A PHARTNERIAETH     

Ail Gynhadledd Flynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych
12 & 13 Mai 2004
Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, Llangollen

Ers ei sefydlu ym 1999 mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynyddu’r gwariant ar y celfyddydau bob blwyddyn. Ar yr un pryd mae’r lleihad yn incwm y Loteri Genedlaethol yn rhoi pwysau cynyddol ar gyllid prosiectau ac yn tanlinellu’r angen am ecoleg gynaladwy ar gyfer y celfyddydau. Mae mwy a mwy o sefydliadau celfyddydol yn cydnabod eu cyfrifoldeb hwy wrth ailddiffinio Cymru ôl-ddiwydiannol, ynghyd â’r her a’r cyfleoedd a ddaw yn sgîl hynny. Yn yr hinsawdd bresennol mae Y Celfyddydau a Phartneriaeth, Ail Gynhadledd Flynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gyfle i gyfranogi yn natblygiad parhaus polisïau’r celfyddydau. Mae’n briodol mai partneriaeth ydy thema’r Gynhadledd Flynyddol eleni. Bydd y mynychwyr, ynghyd â CCC, yn westeion i Gyngor Sir Ddinbych yn y ‘Pafiliwn Cydwladol Brenhinol’ – sydd ei hun yn enghraifft o bartneriaeth effeithiol a chydweithio.

All artistiaid fynd i’r afael â phryderon economaidd a chymdeithasol, os felly pwy ddylai gyllido’r gweithgareddau hyn? A yw’r duedd I gyllid prosiectau ostwng yn dynodi’r angen am gyllido refeniw mwy cyfnerthol? A all neu a ddylai sefydliadau celfyddydol weithio ar draws ffiniau traddodiadol y ffurfiau celfyddydol er mwyn archwilio ffyrdd newydd o weithio a chyfrannu at greu cymuned gelfyddydol gynaladwy? Gyda chymaint o ofynion ar bwrs y wlad, a yw celfyddyd yn rhywbeth amgenach na moethusrwydd drud? Dyma ychydig yn unig o’r cwestiynau y bydd y gynhadledd hon yn mynd i’r afael â hwy.

Am ragor o wybodaeth ac i ymaelodu cysylltwch a www.celfcymru.org.uk/cynhadledd

Angela Blackburn
Swyddog Cyfathrebu (Digwyddiadau)
Cyngor Celfeddydau Cymru
9 Heol yr Amgueddfa
Caerdydd CF10 3NX
Llinel Uniongyrchol y Gynhadledd: 029 2037 6508
Arts Council of Wales  
web site
: www.celfcymru.org.uk/cynhadledd
Angela Blackburn
e-mail:
Monday, April 5, 2004back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk