|
Mae’r ddrama, gan y dramodydd cynhyrchiol, Meic Povey, yn edrych ar y pwysau sydd ar deuluoedd wrth ddod wyneb yn wyneb â iechyd meddwl. Ond dywed y seiciatrydd ynghynghorol, Dr Dafydd Alun Jones, bod y ddrama, Yn debyg iawn i ti a fi, yn llawer iawn mwy na stori am deulu'n delio â pherthynas schizophrenic. "Mae'r ddramahefyd yn rhoi golwg ar gyflwr meddwl aelodau eraill o'r teulu a pha mor anodd yw hi ar brydiau i wahaniaethu rhwng realiti ac afrealiti," meddai Dr Jones yn ei ragair i raglen swyddogol y ddrama. "Mae Meic Povey wedi llwyddo dangos mai linell fain sydd yna rhwng yr hyn sy'n normal a'r hyn sydd ddim yn normal, a sut y mae pob un o aelodau'r teulu'n dangos, i amrywiol raddfeydd, elfennau sydd i'w briodoli i bersonoliaeth y schizophrenic," ychwanegodd. Cynhelir y perfformiadau cyntaf yn Theatr Clwyd ar nos Wener, Ebrill 23, a nos Sadwrn, Ebrill 24, 2004. Bydd y ddau berfformiad yn dechrau am 7.30 o'r gloch. "Bydd cyfle i ddysgwyr y Gymraeg weld rhannau o'r ddrama'n cael eu perfformio yn Saesneg cyn perfformiad nos Sadwrn am 6.30 o'r gloch," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams. "Mae hon yn fenter newydd rydym yn gobeithio fydd yn boblogaidd gyda dysgwyr fe modd iddynt ehangu eu gwybodaeth o'r Gymraeg," ychwanegodd. Ar ôl dwy noson yn Yr Wyddrug bydd Yn debyg iawn i ti a fi yn mynd ar daith bum wythnos o hyd gan ymweld ag Aberdaugleddau, Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd. Mae'r cast yn cynnwys yr canwr a'r actor, Bryn Fôn; Siw Hughes, sy'n gyfarwydd am ei rhan fel Cath Jones yn Pobol Y Cwm; Gwenno Hodgkins a Glyn Pritchard. Y cyfarwyddwr yw Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts. Mae'r awdur, Meic Povey, yn wreiddiol o Nant Gwynant yn Eryri ac yn byw bellach yng Nghaerdydd. Fe'i hysytrir yn un o ddramodwyr mwyaf blaengar Cymru heddiw. Mae o hefyd yn actor o fri gyda llu o berfformiadau i'w enw ar lwyfan ac ar y teledu - yn Gymraeg ac yn Saesneg |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Monday, April 19, 2004 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
