Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

HER NEWYDD I HUW ALED     

Mae Cwmni Tref Caernarfon wedi penodi Huw Aled Jones fel Rheolwr ar gyfer Galeri, y Ganolfan Mentrau Creadigol sy’n cael ei hadeiladu yn Noc Fictoria, Caernarfon ar hyn o bryd.

Mae gan Huw Aled gyfoeth o brofiad yn y maes rheoli cynyrchiadau a dechreuodd ei yrfa fel dyn sain gyda’r BBC yng Nghaerdydd. Yn wreiddiol o Aberarth, Ceredigion, symudodd Huw Aled i’r Gogledd ym 1982 i ymgymryd â swydd gyda Barcud pan ddechreuodd y cwmni am y tro cyntaf. Ar ôl gweithio yno am bron i bymtheg mlynedd, aeth Huw Aled i weithio fel Rheolwr Cynyrchiadau annibynnol gan ganolbwyntio’n bennaf ar reoli’r ochr teledu o ddigwyddiadau mawr yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, G_yl y Faenol, Sesiwn Fawr Dolgellau a rhaglenni etholiadau cyffredinnol a chynulliad BBC Cymru.

Mae Huw Aled, sydd bellach yn byw yn Ynys Môn, hefyd yn gweithio i’r Thomson Foundation ac mae’n teithio i’r Dwyrain Canol yn flynyddol er mwyn hyfforddi technegwyr sain Arabaidd.

Yn ogystal â’r cyfrifoldeb o redeg y ganolfan o ddydd i ddydd, bydd Huw Aled hefyd yn datblygu rhaglen llawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer Galeri, a fydd yn apelio i croes-doriad o bobl.

“Rwyf bob amser yn barod i ymgymryd â her newydd, a dyna beth wnaeth fy nenu i ymgeisio am y swydd hon,” meddai Huw Aled. “Fel rheolwr y ganolfan, fy mhrif nod yw i weithio gyda'r staff crai i ddatblygu Galeri yn adnodd a fydd yn hybu menter creadigol tra hefyd yn cynnig adloniant o’r radd flaenaf i fobl Caernarfon a'r cylch.

“Mae’r ganolfan yn ddatblygiad pwysig a chyffrous iawn i’r dre’ a fydd yn llenwi bwlch yma ers dyddiau’r hen Majestic pan oedd yn cael ei ddefnyddio fel sinema a lleoliad ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau eraill."

Bydd Galeri yn agor i’r cyhoedd ym Mawrth 2005 a bydd yn cynnwys theatr ar gyfer 400 o bobl, dwy ystafell ymarfer fawr, ystafelloedd i’w llogi, bar, caffi, oriel gelf gweledol a swyddfeydd a gweithdai ar osod i’r rhai sydd yn gweithio o fewn y diwydiannau creadigol. Mae'r prosiect gwerth £7.5 miliwn yma yn cael ei hariannu gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Adfywio Lleol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rhaglen Amcan 1 ERDF, Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Gwynedd a gan y perchnogion, Cwmni Tref Caernarfon.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Chwmni Tref Caernarfon ar 01286 677 227.

Galeri Caernarfon  
web site
: www.galericaernarfon.com
Meinir Llwyd
e-mail:
Friday, March 19, 2004back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk