|
Mae Cwmni Tref Caernarfon wedi penodi cantores sy’n gweithio fel Therapydd Cerdd yng Ngwynedd i fod yn gyfrifol am ddatblygu’r celfyddydau yn y Ganolfan Mentrau Creadigol newydd, a fydd yn agor yn Noc Fictoria, Caernarfon y flwyddyn nesaf. Penodwyd Elen ap Robert fel Swyddog Datblygu’r Celfyddydau ar gyfer Galeri, y ganolfan newydd, a bydd yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen o weithgareddau celfyddydol a fydd yn apelio i groes-doriad eang o’r gymuned. Yn hanu’n wreiddiol o Gaerdydd, mae Elen bellach wedi ymgartrefu yn Y Felinheli. Dechreuodd ei gyrfa fel cantores opera ac mae wedi perfformio gyda chwmniau adnabyddus yn cynnwys Glyndebourne a Chwmni Opera Cymru. Ar ôl graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Sheffield, aeth Elen ymlaen i ddilyn cwrs Ôl-radd mewn Canu yng Ngholeg Cerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain. Ers iddi adael coleg, mae Elen wedi bod yn perfformio fel unawdydd soprano ac mae wedi rhoi sawl perfformiad premiere o weithiau newydd gan gyfansoddwyr blaenllaw Cymru gan gynnwys y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards. Yn ogystal â chanu, mae Elen hefyd yn dysgu a hyfforddi llais yn Ysgol Cerdd Prifysgol Cymru Bangor ac yng Nghanolfan Gerdd William Mathias. Mae hefyd yn gyn aelod o Cerdd Byw Nawr, cynllun sydd yn mynd â cherddoriaeth fyw i lefydd mor amrywiol ac ysbytai, cartrefi preswyl, carchardai ac ysgolion anghenion arbennig. Mae Elen hefyd wedi ei chymhwyso fel Therapydd Cerdd yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. “Rwyf yn gweithio’n bennaf gyda phlant sydd ag anghenion arbennig gan ddefnyddio cerddoriaeth i hybu datblygiad mewn sgiliau cyfathrebu yn bennaf gyda phlant awtistig,” meddai Elen, sydd hefyd yn gyflwynydd teledu achlysurol ar y gyfres gelfyddydau, Croma ar S4C. Fel rhan o’i swydd, bydd Elen yn gyfrifol am ddatblygu cyfres o weithdai, digwyddiadau a phrosiectau diwylliannol a fydd yn rhoi’r cyfle i’r gymuned gyfarfod a chyweithio gydag artistiaid o bob maes celfyddydol. Bydd hefyd yn gweinyddu a datblygu Prosiect Celf Caernarfon, sef cynllun sy’n darparu gwersi dawns, drama, canu ac offerynnol i blant, pobl ifanc ac oedolion yr ardal. “Mae’r swydd hon yn cyfuno llawer o feysydd celfyddydol sydd wedi gor-gyffwrdd yn fy ngyrfa hyd yma” meddai Elen. “Mae hyn yn gyfle unigryw sy’n cynnig her arbennig, ac ‘rwy’n edrych ymlaen i weithio fel rhan o dîm creadigol i ddod â phrofiadau newydd cyffrous i’r gymuned leol.” Bydd Galeri yn agor i’r cyhoedd ym Mawrth 2005 a bydd yn cynnwys theatr ar gyfer 400 o bobl, dwy ystafell ymarfer fawr, ystafelloedd i’w llogi, bar, caffi, oriel gelf gweledol a swyddfeydd a gweithdai ar osod i’r rhai sydd yn gweithio o fewn y diwydiannau creadigol. Mae'r prosiect gwerth £7.5 miliwn yma yn cael ei hariannu gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Adfywio Lleol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rhaglen Amcan 1 ERDF, Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Gwynedd a gan y perchnogion, Cwmni Tref Caernarfon. |
| Galeri Caernarfon web site: www.galericaernarfon.com |
| Meinir Llwyd e-mail: |
| Monday, April 5, 2004 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
