Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Theatr lawn i'r cwmni newydd     

Theatr lawn i'r cwmni newydd
Roedd Theatr Clwyd dan ei sang nos Wener ar gyfer perfformiad cyntaf drama gyntaf y Cwmni Theatr Cenedlaethol newydd.

Bydd Yn Debyg Iawn i Ti a Fi gan y dramodydd Meic Povey ymlaen yn yr Wyddgrug eto nos Sadwrn, cyn cychwyn ar daith pum wythnos o gwmpas prif theatrau Cymru.

Does dim cwmni theatr cenedlaethol wedi bod yng Nghymru ers i Gwmni Theatr Cymru ddod i ben yn 1984 ar ôl bod wrthi am 20 mlynedd.

Cafodd cwmni Theatr Cenedlaethol Cymru ei lansio fis Mawrth a'r nod yw llwyfannu gweithiau o bob math ar draws Cymru.

"Wir i chi, mae'n anrhydedd mawr iawn bod yn awdur y ddrama gyntaf gan y cwmni newydd," meddai Meic Povey.

"Roeddwn i'n aelod gwreiddiol o Gwmni Theatr Cymru yn 1968, yn hogyn ifanc iawn!

"Mi oedden ni'n ymwybodol yr adeg hynny bod hanes yn cael ei greu ac roedd 'na gynnwrf mawr.

"Dwi'n cael yr un teimlad rwan."

Ar drothwy'r perfformiad cyntaf dywedodd cyfarwyddwr artistig y cwmni, Cefin Roberts, fod ganddo deimladau cymysg.

"Mae 'na rai pethau dwi'n ysu i gael cynulleidfa i ymateb iddyn nhw.

"Dwi'n teimlo'n gynhyrfus ond eto mae gen i amheuon munud ola'," meddai.

"Fe fydd hi'n noson anturus, dwi'n llawn nerfau ac eisiau gwneud y gorau i'r cwmni newydd ac i'r cyfarwyddwr artistig, Cefin Roberts, meddai un o'r actorion, Gwenno Hodgkins, cyn y perfformiad cyntaf.

"Dwi'n teimlo bod hynny'n bwysau ar ben rhywun ond dwi'n hyderus y byddwn yn gwneud yn iawn.

Wedi'r cynhyrchiad cyntaf mae Cefin Roberts yn gobeithio gweithio ar theatr brif ffrwd, comedi, trasiedi, gweithiau clasurol, modern a newydd.

"Mae ganddon ni gynllun i weithio gydag ysgolion, dysgwyr a'r gymuned," meddai.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n ymestyn tuag at y gymdeithas."

Bydd Yn Debyg Iawn i Ti a Fi gyda Bryn Fôn, Glyn Pritchard, Siw Hughes a Gwenno Hodgkins yn Yr Wyddgrug, Aberdaugleddau, Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd.
BBC Cymru ar lein  
web site
: news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3650000/newsid_3656200/3656271.stm

e-mail:
Sunday, April 25, 2004back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk