|
Unwaith eto, mae’r New Theatre, Caerdydd, yn cynnig adloniant heb ei ail yr haf hwn. Mae’r rhaglen wefreiddiol o ddramâu yn cynnwys 84 CHARING CROSS ROAD gyda Rula Lenska a William Gaunt, MY BOY JACK gyda David Haig - a ysgrifennodd y ddrama hefyd, a’r gomedi ryfeddol DINNER gyda Stephanie Beacham, Gaby Roslin a Louise Jameson. Adloniant cerddorol y tymor hwn yw’r ffefryn rhyngwladol BLOOD BROTHERS gyda Linda Nolan, a TELL ME ON A SUNDAY, sioe gerdd lwyddiannus Andrew Lloyd Webber a Don Black, gyda Faye Tozer yn chwarae’r rhan y bu Denise Van Outen mor llwyddiannus ynddo. Bydd adloniant dawns yr haf yn cynnwys addasiad swynol a rhamantus y Northern Ballet Theatre o SWAN LAKE, a SUMMER CUTS gan Ysgol Haf Dawns Ieuenctid y New Theatre mewn partneriaeth â Diversions. Bydd y New Theatre yn cyflwyno dau gynhyrchiad hudol i ddifyrru’r teulu oll yr haf hwn, TOM’s MIDNIGHT GARDEN a Sioe Gerdd Gymunedol y New Theatre, PIRATES!. Ac wrth gwrs, ni fyddai unrhyw dymor yn gyflawn heb OPERA CENEDLAETHOL CYMRU yn perfformio casgliad arall o gynhyrchiadau penigamp. Yn yr hydref, daw comedi gyda LENNY HENRY a bydd Jerome Flynn yn chwarae rhan Tommy Cooper yn JUS’ LIKE THAT!. Mae’n bleser gan y New Theatre groesawu Cwmni Theatr Cymru yn ôl i berfformio cyfres o dair drama gan Shakespeare ym mis Hydref. Yn sgîl ei llwyddiant blaenorol, bydd CHICAGO hefyd yn dychwelyd a bydd Orbit Theatre yn cyflwyno WEST SIDE STORY. A pheidiwch ag anghofio pantomeim ysblennydd eleni, CINDERELLA gyda Dave Benson Phillips a Danny La Rue. Bydd y tymor yn cychwyn ddydd Mawrth 8 Mehefin gyda 84 CHARING CROSS ROAD, comedi dyner a chwerwfelys gyda Rula Lenska a William Gaunt. Stori wir hynod yw hon am Helene Hanff, yr awdures ddi-flewyn-ar-dafod o Efrog Newydd sy’n archebu llyfrau o siop anffasiynol yn Llundain ac sy’n troi fwy a fwy hyf wrth iddi agosáu at Frank Doel (William Gaunt) sy’n ymdrin â’i gohebiaeth. Mae hon yn fwy na stori deimladwy am ddau’n dod at ei gilydd oherwydd eu cariad at lenyddiaeth er nad ydynt byth yn cyfarfod. Mae hefyd yn gronicl cymdeithasol o Brydain wedi’r rhyfel yng nghyfnod y Beatles sy’n dilyn hynt a helynt Hanff a Doel dros 22 o flynyddoedd. Bydd y Northern Ballet Theatre yn dychwelyd i’r New Theatre ddydd Mawrth 15 Mehefin gydag addasiad newydd cyffrous David Nixon o SWAN LAKE. Mae’r cynhyrchiad swynol a rhamantus hwn yn archwilio themâu deffroad rhywiol a byd cyfrin elyrch a dwr. Gyda cherdoriaeth dragwyddol deimladwy Tchaikovsky, mae’n debygol y bydd SWAN LAKE yn gynhyrchiad bythgofiadwy arall gan NBT. Mae huodledd coreograffi David Nixon a galluoedd dramatig a medrusrwydd technegol dawnswyr talentog y cwmni yn dod â pherthnasedd emosiynol ffres i’r stori gyfareddol hon am frad a chariad angerddol. Daw drama newydd, a ysgrifennwyd gan David Haig (Four Weddings and a Funeral, The Thin Blue Line), i’r New Theatre ar 21 Mehefin. Drama bwerus a theimladwy yw MY BOY JACK sy’n adrodd hanes bywyd trasig un o feirdd mwyaf cynhyrchiol Prydain, Rudyard Kipling, yn enwedig y cyfyng gyngor a’i wynebodd ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn wladgarwr i’r carn, mae’n benderfynol o anfon ei fab ifanc i’r ffosydd. Ond mae ei benderfyniad di-syfl yn creu gwrthdaro chwerw yn ei deulu, ac yn gorfodi’r llenor i ddewis rhwng y ddau beth y teimla’n angerddol yn eu cylch, ei gariad at ei blant, yn enwedig ei blant ei hun, a’i deyrngarwch i’w Wlad a’i Frenin. Bydd y sioe gerdd sy’n llwyddiant rhyngwladol, BLOOD BROTHERS gan Willy Russell, yn dychwelyd i’r New Theatre ar 28 Mehefin tan 10 Gorffennaf. Mae BLOOD BROTHERS wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled y byd ac wedi ennill saith enwebiad Tony. Mae’r sioe, sy’n adrodd hanes dau efell o Lerpwl gafodd eu gwahanu adeg eu geni a’u haduno oherwydd eu ffawd i wynebu cyfrinach hunllefus eu mam, wedi ennill ei phlwyf fel un o’r sioeau cerdd gorau erioed. Linda Nolan sy’n chwarae rhan Mrs Johnstone. O ddydd Iau 15 Gorffennaf, ma’n bleser gan y New Theatre gyflwyno ei sioe gerdd gymunedol, PIRATES!. Bu pobl ledled Caerdydd yn cydweithio i greu’r sioe deulu newydd hon a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan David Baxter. Fel sioe gerdd i’r teulu cyfan, mae PIRATES! yn cynnig gwledd i’r llygaid sy’n fôr o gân, troeon, trwstan, hwyl ac antur ar draws y môr mawr. Bydd cast enwog yn cyfarfod o gwmpas y bwrdd bwyd yng nghynhyrchiad y National Theatre o DINNER o 20 Gorffennaf. Gyda Stephanie Beacham, Gaby Roslin a Louise Jameson, mae’r gomedi ddu ddychanol hon yn tynnu ar y thema fytholwyrdd honno, y cinio gwadd o uffern. Perfformiwyd comedi Moira Buffini am y tro cyntaf yn y National Theatre yn 2002, ac mae hi newydd gwblhau cyfnod llwyddiannus yn y West End. Daw un arall o sioeau cerdd llwyddiannus y West End i’r New Theatre yr haf hwn sef TELL ME ON A SUNDAY gan Andrew Lloyd Webber a Don Black. O ddydd Llun 26 Gorffennaf, bydd Faye Tozer yn perfformio ar ei phen ei hun yn y sioe hon sy’n dilyn hynt a helynt carwriaethol merch o Brydain â’i hemosiynau ar chwâl yn Efrog Newydd. Gyda sgôr sy’n cynnwys Take That Look Off Your Face, Unexpected Song a Tell Me On A Sunday, mae’r sioe ddoniol, dirdynnol a theimladwy hon yn adrodd hanes un ferch wrth iddi chwilio am gariad. Bydd hud a lledrith TOM’S MIDNIGHT GARDEN yn difyrru’r plant yn ystod gwyliau’r haf. O 3 Awst ymlaen, bydd perfformiadau dyddiol am 2.30pm a 7pm, a bydd yr antur odidog yn apelio at y teulu cyfan. Addaswyd clasur Philippa Pearce am daith nosweithiol bachgen i orffennol Fictoraidd i’r llwyfan yn rhagorol gan David Wood. Bydd tymor olaf OPERA GENEDLAETHOL CYMRU yn y New Theatre yn cychwyn ddydd Sadwrn 11 Medi tan ddydd Sadwrn 2 Hydref ac mae’n cynnwys cynhyrchiad newydd o ARIADNE AUF NAXOS gan R Strauss, ochr yn ochr â TURANDOT gan Puccini a IPHIGÉNIE EN TAURIDE gan Gluck. Trwy edrych ymlaen at dymor yr hydref, bydd Jerome Flynn yn chwarae rhan Tommy Cooper yn JUS’ LIKE THAT! o ddydd Mawrth 12 Hydref. Bydd Cwmni Theatr Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd o 18 Hydref gyda SHAKESPEARE TRILOGY : Cymbeline, Twelfth Night a The Merchant of Venice. Bydd Orbit Theatre Caerdydd yn cyflwyno un o’r sioeau cerdd mwyaf poblogaidd erioed o 26 Hydref sef WEST SIDE STORY. Bydd LENNY HENRY yn ymddangos am un noson yn unig gyda “So Much Things To Say” ar 31 Hydref. Bydd CHICAGO, a werthodd bob tocyn yn 2002, yn dychwelyd i’r New Theatre am bythefnos o 8 Tachwedd. Yn olaf, o 11 Rhagfyr 2004 tan 22 Ionawr 2005, bydd CINDERELLA, y pantomeim teulu blynyddol, gyda Dave Benson Phillips fel Buttons a Danny La Rue fel y Fairy Godmother, yn ymddnagos yn y New Theatre. Unwaith eto eleni cewch gwmni difyr Powys and Jones, Tony Wright o Capital Gold ac, wrth gwrs, yr Olive Guppy Olivettes. Perfformiadau’r haf a’r hydref a gaiff eu dehongli yn yr Iaith Arwyddion Brydeinig yw MY BOY JACK (dydd Sadwrn 26 Mehefin 2.30pm), BLOOD BROTHERS (dydd Sadwrn 3 Gorffennaf 2.30pm), CHICAGO (dydd Sadwrn 20 Tachwedd 5.30pm) a CINDERELLA (dydd Sadwrn 15 Ionawr 2.30pm, dydd Sul 16 Ionawr 1.00pm a dydd Mawrth 18 Ionawr 7.00pm). Ddydd Sadwrn 12 Mehefin am 2.30pm ceir Disgrifiad Clywedol byw ar gyfer 84 CHARING CROSS ROAD i fynychwyr y theatr sydd â nam ar eu golwg, yn ogystal â BLOOD BROTHERS (dydd Sadwrn 10 Gorffennaf 2.30pm), TOM’S MIDNIGHT GARDEN (dydd Sadwrn 7 Awst 2.30pm), WEST SIDE STORY (dydd Sadwrn 30 Hydref 2.30pm) a CINDERELLA (dydd Gwener 21 Ionawr 7.00pm a dydd Sadwrn 22 Ionawr 2.30pm). Erika James sy’n dehongli neu ddisgrifio’r perfformiadau hyn. Mae tocynnau ar gyfer yr holl sioeau ar werth nawr yn Swyddfa Docynnau’r New Theatre ar Caerdydd (029) 2087 8889 neu ar-lein yn www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| Julia Barry e-mail: jbarry@cardiff.gov.uk |
| Tuesday, May 11, 2004 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
