Theatre in Wales

Plays and dance productions in Wales since 1982...

Dylan Wyn Rees

 

We have information on one play by Dylan Wyn Rees . Click on the play name to access any reviews in out archive. Click on the company's name to read their details on this web site

 

Y Gobaith a'r Angor First presented in 2008
by Bara Caws

synopsis:
Y GOBAITH A’R ANGOR gan Dylan Rees

(AR DAITH  26 o FAWRTH – 19 o EBRILL)

Gosodir drama nesaf Bara Caws mewn tafarn mewn tref fach ddi-nod yn y gogledd.
Yn ‘Y Gobaith a’r Angor’ mae Dylan Rees, sy’n sgwennu i’r cwmni am y tro cyntaf,
yn cyflwyno criw o gymeriadau trist a ffraegar wrth iddynt rygnu bod o ddydd i ddydd o dan gysgod anobaith a phwysau beunyddiol byw mewn byd sy’n gwegian.  Fel pysgod mewn powlen ‘dydyn nhw ddim yn ymwybodol eu bod yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd yn ail adrodd yr un straeon a’r un sefyllfaoedd nac yn gweld fod pob tro o gwmpas y bowlen yn dro agosach i’w gwaelod.  Mae’r ddeialog yn fyw ac yn tincial fel y gwydrau sy’n prysur wagio a phob un o’r cymeriadau yn chwilio am ateb gwahanol yn ewyn chwerw gweddillion eu breuddwydion.

Yn llawn hiwmor tywyll, deialog sy’n diferu o fwg y snyg a phigiadau miniog y darts, mae’n addo noson yng nghwmni cymeriadau sy’n gyfarwydd i ni gyd, fydd yn aros yn hir yn y cof.

Yr actorion yw  Gwenno Elis Hodgkins, Dyfrig Wyn Evans,  John Glyn Owen,
Huw Ll_r a Gwyn Vaughan a bydd Maldwyn John, sydd â chysylltiadau clos a’r cwmni ers blynyddoedd, yn cymryd y llyw fel cyfarwyddwr.

Ganed Dylan Rees yn Aberystwyth ac fe’i magwyd ym Moelfre, Ynys Môn  Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch a Choleg y Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle raddiodd mewn Saesneg a Drama.  Bu’n byw yng Nghaernarfon am bymtheg mlynedd.  Dyma ei ddrama gyntaf.

Noder: defnyddir iaith gref

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk