| Y Gobaith a'r Angor by Dylan Wyn Rees |
| First presented in 2008 by Bara Caws |
|
cast size:5
synopsis: Y GOBAITH A’R ANGOR gan Dylan Rees (AR DAITH 26 o FAWRTH – 19 o EBRILL) Gosodir drama nesaf Bara Caws mewn tafarn mewn tref fach ddi-nod yn y gogledd. Yn ‘Y Gobaith a’r Angor’ mae Dylan Rees, sy’n sgwennu i’r cwmni am y tro cyntaf, yn cyflwyno criw o gymeriadau trist a ffraegar wrth iddynt rygnu bod o ddydd i ddydd o dan gysgod anobaith a phwysau beunyddiol byw mewn byd sy’n gwegian. Fel pysgod mewn powlen ‘dydyn nhw ddim yn ymwybodol eu bod yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd yn ail adrodd yr un straeon a’r un sefyllfaoedd nac yn gweld fod pob tro o gwmpas y bowlen yn dro agosach i’w gwaelod. Mae’r ddeialog yn fyw ac yn tincial fel y gwydrau sy’n prysur wagio a phob un o’r cymeriadau yn chwilio am ateb gwahanol yn ewyn chwerw gweddillion eu breuddwydion. Yn llawn hiwmor tywyll, deialog sy’n diferu o fwg y snyg a phigiadau miniog y darts, mae’n addo noson yng nghwmni cymeriadau sy’n gyfarwydd i ni gyd, fydd yn aros yn hir yn y cof. Yr actorion yw Gwenno Elis Hodgkins, Dyfrig Wyn Evans, John Glyn Owen, Huw Ll_r a Gwyn Vaughan a bydd Maldwyn John, sydd â chysylltiadau clos a’r cwmni ers blynyddoedd, yn cymryd y llyw fel cyfarwyddwr. Ganed Dylan Rees yn Aberystwyth ac fe’i magwyd ym Moelfre, Ynys Môn Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch a Choleg y Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle raddiodd mewn Saesneg a Drama. Bu’n byw yng Nghaernarfon am bymtheg mlynedd. Dyma ei ddrama gyntaf. Noder: defnyddir iaith gref |
|
We don't yet have a review of Bara Caws's Y Gobaith a'r Angor in our archive. If you know of any existing review, or if you have any more information on Y Gobaith a'r Angor, (perhaps you were in the production or were the author or director) then please use the form below to send us the details |