Bag Ddawns |
First presented in 2007 by Spectacle Theatre |
cast size:2
synopsis: Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol mae Theatr Spectacle, Theatr Iolo a Theatr Gwent yn cyd-weithio ar gynhyrchiad ar gyfer ysgolion yn eu hardaloedd nhw. Theatr Spectacle sydd yn ymgymeryd a’r cynhyrchiad hwn a byddant yn teithio Ysgolion Cymraeg Caerdydd a’r Fro, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Phenybont ar Ogwr Cyfieithiad Enid Gruffudd o ddrama boblogaidd Mike Kenny yw “Bag Ddawns”, un o’r dramau i bobl ifanc a berfformwyd yn amlach nac unrhyw gynhyrchiad arall. Mae’n ddrama ddi-amser, llawn hiwmor a dwyster. Ceir ynddi hanes Imelda a Neville - y naill yn crwydro’n ddi-baid a’r llall heb unman i fynd. Fel mae’r ddrama’n datblygu datgelir eu profiadau, drwg a da, a’r effaith gaiff eu hatgofion ar eu bywydau. Trwy ddarganfyddiad ac empathi cawn ein denu i mewn i’w byd nhw….neu ein byd ni…? Prosiect ar gyfer oedran 10 -13 – blynyddoedd 6,7, ac 8 ydy “Bag Ddawns”. Y nod yw anog trafodaeth ar bynciau sy’n berthnasol i’r gynulleidfa gan ystyried teimladau pobl eraill, ymddiried mewn cyfeillgarwch a chynefino â sefyllfaoedd newydd, ffydd mewn hunan werth a’r hyder i symud ymlaen. Cyfarwyddwr y ddrama yw Steve Davis, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Spectacle a’r Rheolwr Llwyfan yw Becky Poxon. Matt Lloyd yw’r Cynllunydd a Sammy Gray sy’n gofalu am y props a’r pecyn adnoddau. Yn y llun gwelir yr actorion Carys Parry a Gwion Huw wrthi’n ymarfer. |
We don't yet have a review of Spectacle Theatre's Bag Ddawns in our archive. If you know of any existing review, or if you have any more information on Bag Ddawns, (perhaps you were in the production or were the author or director) then please use the form below to send us the details |