| Yr un Cam by Heledd Bianchi |
| First presented in 2003 by Theatr Bwcibo |
|
cast size:1
synopsis: Yr Un Cam Noson amrywiol o theatr a chabaret yng nghwmni Bwcibo? cwmni theatr menywod newydd Cymru. Roedd y perfformiad yn edrych yn ôl ar ddeugain mlynedd o ymgyrchoedd gwleidyddol â frwydrwyd gan fenywod yng Nghymru. Roedd dwy ddynes benodol yn sbardun wrth ddatblygu'r ddrama, sef Helen Thomas a Mary Crofton. Perfformiwyd Yr Un Cam yn Gwanwyn 2003 yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd ac yn Theatr Felinfach, Llanbed. Ffrwyth cydweithrediad rhwng Heledd Bianchi a Diana Bianchi oedd Yr Un Cam. Helen Thomas Cafodd Helen Thomas ei lladd ar Awst 5ed 1989 gan gerbyd cludo ceffylau â oedd yn cael ei yrru y tu allan i Gomin Greenham gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Pe bai hi wedi byw y basai wedi llwyddo i gael ei hachos drwy gyfrwng y Gymraeg mewn llys ynadon yn Lloegr ar Awst 18fed. Mary Crofton Ganwyd Mary Crofton yn Limerig, Iwerddon ond treuliodd y rhan fwyaf o?i bywyd yng Nghasnewydd, Gwent. Daeth yn enwog led-led y wlad ac yn Iwerddon am ei ymgyrchoedd gwleidyddol.Bu farw ym 2001 yn 82 oed.Yr oedd ei hangladd yn achlysur pwysig iawn i?r gymuned Wyddelig yn Ne Ddwyrain Cymru. Daeth torf fawr o bobl i?w hebrwng yn Eglwys Catholig y Santes Fair yn Snowhill .Yn yr wythnos â chynhaliwyd ar ôl y hebrwng bu nifer o bobl yn talu eu teyrnged i Mary.Ymhlith y siaradwyr â gwadd, yr oedd Arthur Scargill, cyn-arweinydd y Glowyr. Sgriptiwyd a Perfformiwyd gan Heledd Bianchi Trefnydd / Cyfeiliant Piano gan Christopher Grech Offerynnol ? Richard Johnson Goleuo / Sain ? Daniel Young Gweithredwr Taflunydd Fideo - Rhodri Jones Golygydd Archif - Daniel Broughton Cyfarwyddwr :Diana Bianchi Cynhyrchwyr : Diana Bianchi / Heledd Bianchi Cerddi Y Wén, Er Enghraifft Helen Thomas, Bloeddier I Bobloedd Y Byd, Ar Drén : Menna Elfyn |
|
We don't yet have a review of Theatr Bwcibo's Yr un Cam in our archive. If you know of any existing review, or if you have any more information on Yr un Cam, (perhaps you were in the production or were the author or director) then please use the form below to send us the details |