Mae Sian yn Gadael Cymru by Sera Moore Williams |
First presented in 1996 by Y Gymraes |
There is 1 review of Y Gymraes's Mae Sian yn Gadael Cymru in our database:
Mae Sian yn Gadael Cymru
by Sera Moore Williams
|
[print]![]() |
venue Eisteddfod 1996 |
|
October 1, 1996 |
|
"..ar hyn a gawsom ni oedd perfformiad gorau'r wythnos. mae arna'i isio sefyll ar fy nhraed a gweiddi hwre am y perfformiad bywiog, corfforol, ystyrlon - a doniol/ddwys - gan Y Gymraes, a roes i ni Mae Sian yn Gadael Cymru. Symboliaeth: digon - pum merch, pum enw, a mwy na digon o gesus. be' sydd yn y cesus: beth yw 'r baich cudd y mae pob Cymraes yn ei gario efo hi? llythyrau, tsienia, pridd y ddaear... a gwisg Gymreig. A hyn cyn i chi ddwad at faich yr enwau sydd ar y pum merch: Gwenllian, Nia (neis), Rhiannon, Carys Sian (cliche). Hyn oll, (a'r Ddawns Flodau orau welais i erioed), a beth am Sian feichiog? Beth yn union yw ein 'baggage' emosiynol ni fel Cymry? Cawsom gipolwg fymryn cliriach ar gynnwys y cesus yn y festri hon, a oedd mor fach fel bo rhaid defnyddio'r drws allan i'r stryd fel rhan o'r llwyfan; a dyna beth oedd profiad - eistedd yn wynebu'r drws, edrych allan heibio perfformiad llwythog o ystyron gadael/aros a chlywed ceir yn pasio ar y ffordd brysur, a syllu'n syth at orsaf drenau go-iawn Ffairfach! RHAN ALLAN O BOGAIL SYLLU AR LWYFAN. BARN HYDREF 96 |
|
reviewer: Meg Ellis |
If you know of any other existing review, or if you have any more information on Mae Sian yn Gadael Cymru, (perhaps you were in the production or were the author or director) then please use the form below to send us the details |