Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Mae Sian yn Gadael Cymru

Y Gymraes , Eisteddfod 1996 , October 1, 1996
"..ar hyn a gawsom ni oedd perfformiad gorau'r wythnos. mae arna'i isio sefyll ar fy nhraed a gweiddi hwre am y perfformiad bywiog, corfforol, ystyrlon - a doniol/ddwys - gan Y Gymraes, a roes i ni Mae Sian yn Gadael Cymru.

Symboliaeth: digon - pum merch, pum enw, a mwy na digon o gesus. be' sydd yn y cesus: beth yw 'r baich cudd y mae pob Cymraes yn ei gario efo hi? llythyrau, tsienia, pridd y ddaear... a gwisg Gymreig.

A hyn cyn i chi ddwad at faich yr enwau sydd ar y pum merch: Gwenllian, Nia (neis), Rhiannon, Carys Sian (cliche). Hyn oll, (a'r Ddawns Flodau orau welais i erioed), a beth am Sian feichiog? Beth yn union yw ein 'baggage' emosiynol ni fel Cymry?

Cawsom gipolwg fymryn cliriach ar gynnwys y cesus yn y festri hon, a oedd mor fach fel bo rhaid defnyddio'r drws allan i'r stryd fel rhan o'r llwyfan; a dyna beth oedd profiad - eistedd yn wynebu'r drws, edrych allan heibio perfformiad llwythog o ystyron gadael/aros a chlywed ceir yn pasio ar y ffordd brysur, a syllu'n syth at orsaf drenau go-iawn Ffairfach!

RHAN ALLAN O BOGAIL SYLLU AR LWYFAN.
BARN HYDREF 96

Reviewed by: Meg Ellis

back to the list of reviews

This review has been read 4235 times

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk