Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Mefus

Y Gymraes , Chapter Arts Centre , August 5, 1998
Cynhyrchiad mwyaf arbrofol yr wythnos oedd Mefus gan Sera Moore Williams ar gyfer cwmni Y Gymraes. Roedd y ddrama'n archwilio'r berthynas rhwng bwyd a rhyw, a nifer o'n hobsesiynau ni sy'n gysylltiedig a'r meysydd hyn.

Roedd cynllun trawiadol i'r cynhyrchiad, gyda lliain wen fel llwyfan yn gwrthgyferbynnu gydag aur y gwisgoedd a choch y gwin a'r mefus.

Nid dilyniant cronolegol oedd i'r ddrama - fe gafwyd golygfa doredig i gychwyn, a oedd yn tynnu sylw at adegau pwysig yn ystod prif gorff y digwydd. Dilynwyd hyn gan rhyw fath o epilog a daflai olau ar rai o gyfnodau tywyllach y ddrama. Roedd yr actio, fel y ddeialog yn doredig, ac yn dibynnu ar seibiau pwrpasol. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i ganolbwyntio drwy'r adeg er bod yr elfen weledol a'r hiwmor ffraeth yn hoelio'r sylw.

Drama ag iddi nifer o ystyron posibl oedd Mefus, ac wedi derbyn hynny, roedd hi'n llawer haws ei dilyn.

GOLWG AWST 98

Reviewed by: IWAN ENGLAND.

back to the list of reviews

This review has been read 4320 times

There are 1 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk