Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Portread sinistr o wacter ystyr..

Crash

ELAN Wales , Gerddi Aberglasni, Llandeilo , September 17, 2006
Crash by ELAN Wales Gerddi Aberglasne, noson olaf Awst.
 
Wrth i’r gynulleidfa ymgasglu mewn ystafell garegog ym mhlasdy Aberglasne, roedd hi’n anodd peidio â chofio ’nôl, yn glir iawn, i ddyddiau Brith Gof. Ac er mor gyfarwydd, rywsut, oedd y geiriau ar y daflen:  ‘as a spectator, you are also a creator’, roedd y fersiwn Gymraeg: ‘chwaneg na th? yn chwalu’ yn anniddigo rhywun. Hynny, a’r teitl: CRASH.
 
Cafwyd gair o groeso gan y cyfarwyddwraig, Firenza Guidi, a’i chydweithiwr, Ioan Hefin. Esboniwyd mai ffrwyth prosiect cyd-wladol oedd y cynhyrchiad ac mai ôl gwaith wythnos o ymarfer caled gan bobl ifanc o bum gwlad yn Ewrop oedd o’n blaenau ni. Gyda hynny, fe’n gwahoddwyd i ddilyn y perfformiad ar ei daith bromenâd o gwmpas yr ardd.
 
Wedi ei hysbrydoli gan nofel Kazuo Ishiguro ‘Never Let Me Go’, mae’r stori’n ymagor i ddangos bywydau myfyrwyr mewn ysgol sydd wedi ei chreu’n arbennig er mwyn clonio merched a bechgyn a fydd yn rhoi organau eu cyrff i drigolion y byd tu allan i’r ysgol. Ond mae’r cynllun yn cymhlethu. Mae’r llywodraeth yn anfon arolygwr a seicolegydd i asesu llwyddiant y disgyblion a’r athrawon cyn penderfynu a ddylid diddymu’r ysgol gyfan. Dim ond un ffordd sydd i osgoi’r diddymu anochel hwn – sef trwy brofi eich bod mewn cariad. Ond sut mae gwneud hyn?
 
Er gwaethaf yr olwg amheus ar wynebau’r cyhoedd ar ddechrau’r sioe, llwyddodd y cynhyrchiad grymus ddal gafael yn nychymyg y mwyafrif mawr. Roedd yr ymateb ar ddiwedd y gwaith – gan bobl o bob oed – yn profi eu bod wedi eu cyfareddu gan ddeinamig yr actio a’r lleoliad. Dyma enghraifft o sioe oedd yn ymestyn hyd at y bizarre ac eto, un a oedd yn llwyddo osgoi creu’r fath dyndra yn llinynau ei stori nes eu bod yn torri a gadael y gwyliwr yn gwbl ddi-gyfeiriad.
 
Roedd hyder yr actorion ifanc yn herio’r gynulleidfa bob cam (yn llythrennol). Heb fawr ddim deialog geiriol, roedd y cyfathrebu’n gorfforol, a’r adweithio’n digwydd rhwng y cyhoedd â’r actorion yn llawn cymaint â rhwng y cast â’i gilydd. At hyn, roedd arogl y lafant a d?r y llyn, eco’r muriau ac awyr y gwyll yn ychwanegu at y profiad.
 
Roedd y cyfarwyddo wedi manteisio ar bob posibiliad dramatig yn y lleoliad. Defnyddiwyd y gwagle o dan y bwau ym muriau’r ardd yn effeithiol, wrth i’r actorion ymddangos yn gwbl ynysig, pob un a’i gêm fach ei hunan. Yna roedd yr olygfa o ben y mur – gyda’r actorion fel pe byddent am syrthio – yn ddigon i ddychryn y mwyaf eofn yn ein plith. Roedd tempo’r gwaith yn newid yn gyson a’r emosiwn yn rhuthro o’r llawen i’r lleddf ond heb fod fyth yn gysurus.
 
Yng nghanol y darlun gormesol o ddyfodol heb na chymdeithas nac ystyr, roedd hiwmor yn gymorth i gadw diddordeb wrth i ddau gymeriad chwarae gwyddbwyll gyda’r teganau rhad ac am ddim o MacDonalds. 
 
Ond prin oedd y cyfle i wenu – ar y cyfan roedd y gwaith yn bortread sinistr o wacter ystyr wrth i’r bobl ifanc fethu’n lân ag aeddfedu na dod i delerau gyda’i hamgylchfyd. Cyrhaedodd y darlun du hwn uchafbwynt i mi, wrth i ni weld mam yn gwthio gwn mewn pram ac yna’n ei fagu yn ei breichiau.
 
Ar ôl golygfa drawiadol ger ac yn y llyn – trodd y perfformiad tua’i siwrne olaf. Ar bwys gatiau’r plasd?, cafwyd datganiad cyfareddol ar offeryn cerdd newydd sbon o’r Swisdir. Rhywbeth a oedd yn fwy tebyg i ‘woc’ na dim byd arall ac yn s?n hwn, a chloch fach, fe’n harweinwyd ni yn ôl i’r man cychwyn.
 
Gadewais i am adre, fel bron pawb arall, wedi f’ ysgwyd – gan egni a dawn yr actorion ifanc a chan y neges: mae’n rhaid i ni ddal gafael yn yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw ac ymwrthod unrhyw rymoedd sy’n ceisio eu gorau i’n troi ni gyd yn glôn o ryw ddelfryd anghyraeddadwy.
 

Reviewed by: Mererid Hopwood

back to the list of reviews

This review has been read 2810 times

There are 2 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk