Mefus |
| Y Gymraes , Chapter Arts Centre , August 5, 1998 |
| Cynhyrchiad mwyaf arbrofol yr wythnos oedd Mefus gan Sera Moore Williams ar gyfer cwmni Y Gymraes. Roedd y ddrama'n archwilio'r berthynas rhwng bwyd a rhyw, a nifer o'n hobsesiynau ni sy'n gysylltiedig a'r meysydd hyn. Roedd cynllun trawiadol i'r cynhyrchiad, gyda lliain wen fel llwyfan yn gwrthgyferbynnu gydag aur y gwisgoedd a choch y gwin a'r mefus. Nid dilyniant cronolegol oedd i'r ddrama - fe gafwyd golygfa doredig i gychwyn, a oedd yn tynnu sylw at adegau pwysig yn ystod prif gorff y digwydd. Dilynwyd hyn gan rhyw fath o epilog a daflai olau ar rai o gyfnodau tywyllach y ddrama. Roedd yr actio, fel y ddeialog yn doredig, ac yn dibynnu ar seibiau pwrpasol. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i ganolbwyntio drwy'r adeg er bod yr elfen weledol a'r hiwmor ffraeth yn hoelio'r sylw. Drama ag iddi nifer o ystyron posibl oedd Mefus, ac wedi derbyn hynny, roedd hi'n llawer haws ei dilyn. GOLWG AWST 98 |
Reviewed by: IWAN ENGLAND. |
This review has been read 4321 times There are 1 other reviews of productions with this title in our database:
|
